Search
Header navigation
14024 - Operational Support Grade - HMP Berwyn  (Prison Support Role)

14024 - Operational Support Grade - HMP Berwyn (Prison Support Role)

locationPentre Maelor, Wrexham LL13 9QE, UK
remoteOn-Site
ExpiresExpires: Expiring in less than 2 weeks
Security
Full time
£29,432 per year

Job summary

Please see job description.

Job description

Disgrifiadau a gofynion

Disgrifiad swydd

Swydd eithriadol. Sy’n cael ei gwneud gan rywun fel chi.

Fel aelod o dîm cymorth y carchar bydd eich swydd yn amrywio ac yn helpu i gadw’r carchar i fynd. Mae hon yn rôl weithredol lle byddwch yn gwneud amrywiaeth o dasgau corfforol. Gall y rhain gynnwys codi a chario, yn ogystal â chyfnodau hir o sefyll a cherdded. Bydd cyfnodau hefyd o weithio ar eich pen eich hun wrth gyflawni tasgau ar shifftiau dydd a nos.

Ni fyddwch bob amser mewn cysylltiad â charcharorion, ac mae’n dibynnu ar y carchar rydych chi’n gweithio ynddo. Byddwch yn cael hyfforddiant llawn a thîm cefnogol wrth eich ochr.

Cyfeiriad

HMP Berwyn, Wrexham Industrial Estate, Bridge Rd N, Wrexham LL13 9QE

Cyflog

£29,432

Dinas / Tref

Wrexham

Rhanbarth

Wales

Nid yw’r rôl Gradd Cymorth Gweithredol yn denu Nawdd drwy’r fisa Gweithiwr Crefftus/fisa gwaith (cyffredinol) Haen 2

Teithio i’r Gwaith – Mae rhai sefydliadau carchar mewn lleoliadau gwledig sydd ag opsiynau cyfyngedig o ran trafnidiaeth gyhoeddus, felly mae trwydded yrru a’ch cludiant eich hun yn fanteisiol ond nid yw’n un o ofynion hanfodol y rôl (oni nodir hynny*). Sylwch fod amseroedd dechrau a gorffen shifftiau yn sefydlog a’ch cyfrifoldeb chi yw cyrraedd eich man gwaith yn brydlon ar gyfer dechrau eich shifft. Ystyriwch leoliad y swydd wag hon yn ofalus a’ch opsiynau teithio.

Ni ddarperir llety.

Diwrnod gwaith Gradd Cymorth Gweithredol

Gall eich swydd gynnwys y pethau canlynol:

Dyletswyddau gât

  • sicrhau bod staff, ymwelwyr a cherbydau’n dod i mewn ac yn gadael yn ddiogel
  • chwilio staff, carcharorion, ymwelwyr a cherbydau
  • cerdded o amgylch safle’r carchar i hebrwng cerbydau a chontractwyr
  • dosbarthu a chasglu allweddi a setiau radio staff
  • cerdded o amgylch safle’r carchar yn patrolio ac yn chwilio’r ardaloedd wrth ymyl ffens y perimedr

Yr ystafell reoli

  • gweithredu system radio’r carchar
  • monitro teledu cylch cyfyng, gan sicrhau bod pob gweithgaredd amheus yn cael ei riportio

Ymweliadau

  • croesawu ymwelwyr wrth iddynt gyrraedd
  • eu tywys os oes angen

Gohebiaeth

  • monitro a chofnodi post sy’n dod i mewn i’r carchar
  • riportio unrhyw eitemau sydd wedi cael eu gwahardd, gan gadw tystiolaeth lle bo angen

Dyletswyddau nos

  • sicrhau bod drysau celloedd yn cael eu cloi/diogelu a bod pob carcharor yn ddiogel a bod cyfrif amdanynt

Y Dderbynfa

  • tynnu lluniau o garcharorion
  • prosesu parseli ac eiddo carcharorion sy'n dod i mewn i'r carchar

Goruchwylio carcharorion

  • goruchwylio carcharorion o dro i dro
  • cyfnewid dillad ac eiddo
  • helpu swyddogion carchar i hebrwng carcharorion o amgylch y carchar

Dosbarthu bwyd

  • cerdded o amgylch y carchar yn danfon ac yn casglu trolïau bwyd, neu ddefnyddio cerbyd dosbarthu trydan o bryd i’w gilydd

Dyletswyddau gyrru

  • casglu post o'r swyddfa ddidoli leol, a allai olygu codi sachau trwm

Galwadau ffôn

  • monitro system ffôn Rhif Adnabod Personol (PIN) y carchar
  • cadw cofnod o geisiadau ffôn PIN gan garcharorion
  • cwblhau cofnodion perthnasol

Gweithdrefnau a phrotocol

  • deall a chydymffurfio â pholisïau cenedlaethol a lleol, gan ymateb yn briodol i ddigwyddiadau ac argyfyngau

Does dim angen unrhyw gymwysterau arnoch ar gyfer y swydd hon. Mae helpu i sicrhau bod y carchar yn rhedeg yn esmwyth ac yn ddiogel yn gofyn am grebwyll, synnwyr cyffredin, cyfrifoldeb ac, yn anad dim, gwaith tîm.

Cenedlaethol - £29,432

Mae’r ffigurau cyflog a ddyfynnir ar gyfer wythnos waith 37 awr yn cynnwys lwfans gweithio oriau anghymdeithasol o 20% sydd wedi’i gynnwys yn y cyflog i adlewyrchu’r gofyniad i weithio shifftiau dros nos, gyda’r nos ac ar benwythnosau.

Yn ychwanegol at eich cyflog sylfaenol, byddwch yn derbyn:

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol pan benodir chi, a bydd yn cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth (cyfrifir ar sail pro-rata)
  • 9 diwrnod o wyliau banc, gwyliau cyhoeddus a diwrnodau braint
  • mynediad at brentisiaeth Lefel 2 gyda thâl mewn gwasanaeth i gwsmeriaid
  • mynediad at gynllun pensiwn hael y Gwasanaeth Sifil
  • benthyciadau tocyn tymor, gostyngiadau manwerthu, Rhaglen Cymorth i Weithwyr a chynllun Beicio i'r Gwaith.

Oriau

Byddwch yn gweithio 37 awr yr wythnos ar gyfartaledd, a bydd hyn yn cynnwys gweithio shifftiau nos, gyda’r nos, ar benwythnosau a gwyliau Banc/Cyhoeddus ar batrwm shifftiau treigl (mae’r diwrnodau hyn yn cael eu hychwanegu at eich lwfans gwyliau). Bydd amlder y shifftiau nos yn amrywio ar gyfer pob Sefydliad a gellir ei drafod yn y cyfweliad. I gael enghraifft o amseroedd y shifftiau y gallech chi fod yn eu gweithio ewch i’n gwefan

Sut i wneud cais

Cam 1

  1. Dweud wrthym amdanoch chi eich hun
    Cliciwch ar y botwm ymgeisio a rhowch eich manylion personol ar ein ffurflen gais
  1. Sefyll prawf byr ar-lein
    Pan fyddwch yn gwneud cais, byddwch yn derbyn e-bost gyda chyfarwyddiadau manwl ar sut i sefyll ein prawf ar-lein. Mae hwn yn asesiad sy’n seiliedig ar ymddygiad ac mae’n asesu a oes gennych chi’r cryfderau naturiol a’r dewisiadau ymddygiad priodol i weithio ar Radd Cymorth Gweithredol. Byddwch yn cwblhau cyfres o dasgau bach sydd wedi’u llunio i ysgogi eich dewisiadau ymddygiad naturiol (e.e. sut rydych chi’n tueddu i wneud penderfyniadau yn naturiol). Er nad yw’r tasgau eu hunain wedi’u gosod yng nghyd-destun y rôl, maen nhw wedi’u llunio i arsylwi ar yr ymddygiadau sydd bwysicaf i’r rôl. Bydd hyn yn cymryd tua 40 munud i’w gwblhau, ond nid oes terfyn amser.
    Does dim angen i chi fod yn chwaraewr gemau i wneud yn dda yn y prawf hwn. Rydyn ni’n chwilio am eich gallu naturiol i lwyddo yn y rôl.

Cam 2

Os byddwch yn pasio’r prawf, byddwn yn eich gwahodd am gyfweliad.

Cyn i chi sefyll y prawf, cewch gyfle i ymarfer a pharatoi ar gyfer y prawf go iawn. Byddwch yn cael gwybodaeth a dolen i weld hwn a’r prawf ei hun ar ôl i chi wneud cais.

Bydd y cyfweliad yn un cyfunol sy’n cynnwys ymddygiadau a phrofiad. Bydd yn gyfle delfrydol i ddweud mwy wrthym amdanoch chi eich hun, eich hanes gwaith neu eich profiadau personol, er mwyn i ni ddod i’ch adnabod yn well ac asesu pa mor addas fyddwch chi ar gyfer gwaith carchar. Bydd eich Cryfderau’n cael eu hasesu yn y cyfweliad hefyd, ond ni fydd y rhain yn cael eu rhannu ymlaen llaw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n gwefan

Cynnig swydd: swydd wag ‘teilyngdod’.

Swydd wag ‘teilyngdod’ yw hon. Os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, byddwch yn cael eich ychwanegu at restr teilyngdod yn seiliedig ar eich sgôr.

Pan fydd pob ymgeisydd wedi cwblhau’r asesiad, bydd y carchar yn cynnig swydd i’r rheini sydd â’r sgoriau uchaf yn gyntaf pan fydd swyddi’n dod ar gael.

Gallwch aros ar y rhestr teilyngdod am 12 mis. Ar ôl hyn, bydd angen i chi wneud cais eto.

Os bydd eich cais yn aflwyddiannus yn y cam didoli/cyfweld, bydd cyfnod aros o chwe mis yn cael ei roi ar waith. Yn ystod y cyfnod hwnnw ni fyddwch yn cael cyflwyno unrhyw geisiadau pellach am swyddi Gradd Cymorth Gweithredol.

Rhaid i ddeiliad y swydd allu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus yn Gymraeg (pan nodir hynny yng Nghymru) neu yn Saesneg.

Gweithio i’r Gwasanaeth Sifil

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn nodi’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Rydyn ni’n recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn egwyddorion recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil. Os ydych chi’n teimlo bod y broses recriwtio wedi torri’r egwyddorion recriwtio, gallwch gyflwyno cwyn ffurfiol yn y drefn ganlynol

Cymorth Addasiadau Rhesymol

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac felly mae wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu dangos eu sgiliau, eu talent a'u galluoedd. Un o’r ffyrdd yr ydyn ni’n gwneud hyn yw cynnig cymorth addasiadau rhesymol i ymgeiswyr pan fyddant yn gwneud cais am un o’n swyddi.

Cyn cwblhau profion ar-lein neu fynd i gyfweliad, mae'n hanfodol trefnu cymorth addasiadau rhesymol. Oherwydd cyfyngiadau ymarferol a logistaidd, ni all ein haseswyr ddelio â cheisiadau ar y diwrnod. Felly, gofynnwn yn garedig i chi roi gwybod i ni mewn da bryd os oes angen gwneud addasiadau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y cymorth cywir ar gael i chi pan fydd ei angen arnoch.

Mae hi’n hawdd gwneud cais am gymorth addasiadau rhesymol. Dewiswch ‘ydw’ ar y ffurflen gais pan fydd yn gofyn a ydych chi’n meddwl bod angen addasiad rhesymol arnoch chi.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae’r Gwasanaeth Sifil wedi ymrwymo i ddenu, i gadw ac i fuddsoddi mewn talent ble bynnag mae’n cael ei chanfod. I ddysgu rhagor edrychwch ar Gynllun Pobl y Gwasanaeth Sifil a Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gwasanaeth Sifil.

Manylion Ychwanegol

Trefniadau Gwaith a Rhagor o Wybodaeth

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnig trefniadau Gweithio Hybrid pan fydd anghenion y busnes yn caniatáu hynny. Math anffurfiol o drefniant gweithio hyblyg yw hwn, nad yw’n gytundebol. Mae’n cyfuno gweithio o’ch lleoliad penodol, gwahanol safleoedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder a / neu gartref (cofiwch mai dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y swydd hon, ac nid dramor). Ni fydd rhai rolau’n addas ar gyfer Gweithio Hybrid. Yn yr un modd, ni fydd Gweithio Hybrid yn addas i amgylchiadau pawb. Bydd trefniadau’n cael eu trafod a’u pennu gyda’r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.

Ar gyfer rolau sy’n cael eu hysbysebu’n genedlaethol, bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu penodi i leoliad un o swyddfeydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a allai gynnwys eu Canolfan Cydweithredu Cyfiawnder neu Swyddfa Lloeren Cyfiawnder agosaf. Bydd hyn yn cael ei drafod a’i benderfynu ar ôl cwblhau’r gwiriadau cyn cyflogi.

Mae rhai o delerau ac amodau gwasanaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn newid fel rhan o’r gwaith o ddiwygio’r Gwasanaeth Sifil. Bydd y newidiadau’n berthnasol i staff sy’n ymuno â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac sy’n newydd i’r Gwasanaeth Sifil. Bydd staff sy’n ymuno â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ôl gweithio i gyflogwyr eraill yn y gwasanaeth sifil yn trosglwyddo i delerau newydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder os ydynt eisoes ar delerau ‘wedi’u moderneiddio’ yn eu swydd bresennol, neu’n cael telerau ‘heb eu moderneiddio’ y Weinyddiaeth Gyfiawnder os ydynt ar delerau ‘heb eu moderneiddio’ yn eu swydd bresennol. Bydd manylion ar gael os cynigir y swydd.

Yr oriau gweithio amser llawn safonol yw 37 awr yr wythnos, heb gynnwys seibiannau sy’n ddi-dâl. Mae HMPPS yn croesawu patrymau gweithio rhan-amser, hyblyg a rhannu swydd, pan fyddant yn diwallu gofynion y rôl ac anghenion y busnes. Bydd pob cais am batrymau gweithio rhan-amser, hyblyg a rhannu swydd yn cael ei ystyried yn unol â pholisi Gweithio Hyblyg HMPPS.

Os ydych chi’n gweithio i’r NPS ar hyn o bryd, mae’n bosibl y bydd y swydd wag hon ar gael ar sail Benthyciad am hyd at 2 flynedd. Gwahoddir ceisiadau gan staff cymwys addas.

Mae’r Benthyciad/Secondiad yn amodol ar gymeradwyaeth Uned Busnes yr ymgeisydd sydd wedi'i ddewis, a dylid ei sicrhau cyn cadarnhau’r penodiad.

Sylwch, er bod tatŵs yn cael eu caniatáu, gan gynnwys y rheini mae modd eu gweld, rhaid iddynt beidio â bod yn rhai tramgwyddus, gwahaniaethol, treisgar neu fygythiol mewn unrhyw ffordd. Yn gyffredinol, nid yw tatŵs wyneb yn dderbyniol, ac eithrio pan fo hyn am resymau diwylliannol, crefyddol neu feddygol.

Buddion

Gwyliau Blynyddol

Mae’r flwyddyn wyliau yn dechrau ar 1 Mawrth. Os nad oes gennych batrwm gwaith safonol, mae’n bosib y bydd eich hawl gwyliau yn cael ei chyfleu ar ffurf oriau neu ddiwrnodau, fel y bo’n briodol. Mae hawl gwyliau yn cael ei chyfrifo ar sail pro-rata, a byddwch yn cael gwybod faint yn union o wyliau sydd gennych chi wrth gael eich penodi. Os cawsoch chi eich penodi’n fewnol a bod eich gwyliau yn arfer cael ei gyfrifo ar ffurf diwrnodau, bydd yn dal i gael ei gyfrifo felly.

Gwyliau Banc, Gwyliau Cyhoeddus a Diwrnodau Braint

Mae gennych chi hawl i gael 9 diwrnod (66 awr a 36 munud) i gydnabod gwyliau banc, gwyliau cyhoeddus a diwrnodau braint. Bydd yr oriau hyn yn cael eu hychwanegu at eich lwfans gwyliau blynyddol. Bydd gofyniad i chi weithio ar rai gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc, yn amodol ar eich patrwm shifftiau ac ar anghenion gweithredol y sefydliad.

Pensiwn

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn cynnig dewis o ddau gynllun pensiwn, gan roi’r hyblygrwydd i chi ddewis y pensiwn sy’n gweddu orau i chi.

Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith

Mae Gwasanaeth Prawf a Charchardai EF yn awyddus i hybu trefniadau gwaith amgen. Mae cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn rhoi mwy o gyfleoedd i staff weithio’n fwy hyblyg pryd bynnag y bydd rheolwyr a sefydliadau yn gallu derbyn ceisiadau i wneud hynny. Mae HMPPS yn cynnig amodau gwaith hyblyg, yn amodol ar gyflawni NVQ a chyfnod prawf boddhaol.

Blaendal Tocyn Tymor

Ar ôl dau fis o wasanaeth, byddwch yn gymwys i wneud cais am flaendal tocyn tymor i brynu tocyn tymor chwarterol neu am gyfnod hirach er mwyn teithio rhwng eich cartref a’ch man gwaith.

Talebau Gofal Plant

Ar gyfer unrhyw symudiadau ar draws y Gwasanaeth Sifil, mae’n bosibl y bydd goblygiadau i’ch gallu i barhau i hawlio talebau gofal plant.

Rhwydweithiau

Y cyfle i ymuno â rhwydweithiau sy’n cael eu rhedeg gan weithwyr ac sydd wedi cael eu sefydlu i ddarparu cyngor a chefnogaeth ac i alluogi barn gweithwyr o grwpiau lleiafrifol i gael ei mynegi’n uniongyrchol i uwch reolwyr. Ar hyn o bryd, mae rhwydweithiau ar gael ar gyfer gweithwyr o leiafrifoedd ethnig, gweithwyr ag anableddau, gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu, gweithwyr sy’n fenywod, a gweithwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

Hyfforddiant

Mae HMPPS wedi ymrwymo i ddatblygu ei staff ac mae’n cynnig ystod o gyfleoedd hyfforddi a datblygu sy’n cynnwys meysydd fel Rhaglenni Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Delio ag Ymddygiad Heriol, Atal Hunanladdiad a Gwrth-Fwlio.

Mae cyfleoedd i ymuno â rhaglenni dyrchafiad, ac mae HMPPS yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi perthnasol ar gyfer swyddi unigol.

Mae'r holl staff yn cael hyfforddiant ar amrywiaeth a diogelwch ynghyd â rhaglen gynefino unigol wrth ddechrau ar eu rôl newydd.

Cymhwysedd

Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar gyfer pob ymgeisydd cyn cychwyn yn y swydd.

Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gyflawni cyfnod prawf o 6 mis. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gyflawni cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cyflawni cyfnod prawf yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf EF.

Mae’n rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu fudiad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan HMPPS.

Dyddiadau cyfweliadau: I’w Cadarnhau

Dyddiad Cau: 2nd February 2026, 23:55 o’r gloch.

Manylion Cyswllt

Os oes angen cymorth arnoch, ffoniwch 0345 241 5358 (o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am - 6pm) neu anfonwch e-bost at Moj-recruitment-vetting-enquiries@gov.sscl.com. Dyfynnwch gyfeirnod y swydd - XXXXX

Rydyn ni wedi darparu manylion y camau asesu a’r meysydd sy’n cael eu hasesu i’ch helpu i baratoi ar gyfer llenwi eich ffurflen gais, ac i roi gwybod i chi beth fydd yn cael ei asesu yn dilyn hyn, os byddwch yn llwyddo i basio’r cam ymgeisio.

Dogfen ategol 1

Band-2-SSO-Operational-Support-Grade-General-JD010-v9.0.pdf

Proffiliau Llwyddiant

Bydd Proffiliau Llwyddiant yn galluogi dull recriwtio tecach a mwy cynhwysol drwy ein galluogi i asesu’r ystod o brofiadau, galluoedd, cryfderau, ymddygiadau a sgiliau technegol/proffesiynol sydd eu hangen ar gyfer gwahanol swyddi. Mae’r dull hyblyg hwn o recriwtio yn canolbwyntio mwy ar ddod o hyd i’r ymgeisydd iawn ar gyfer y swydd benodol. I gael rhagor o wybodaeth am Broffiliau Llwyddiant i gefnogi eich cais cliciwch yma i gael rhagor o arweiniad.

Rydyn ni wedi darparu manylion y camau asesu a’r meysydd sy’n cael eu hasesu i’ch helpu i baratoi ar gyfer llenwi eich ffurflen gais, ac i roi gwybod i chi beth fydd yn cael ei asesu yn dilyn hyn, os byddwch yn llwyddo i basio’r cam ymgeisio.

Asesiadau cam ffurflen gais

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI)

Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw dystiolaeth a gyflwynir fel rhan o’ch cais, gan gynnwys eich CV, datganiad addasrwydd ac enghreifftiau o ymddygiad, yn wir ac yn ffeithiol gywir. Sylwch y gall llên-ladrad gynnwys cyflwyno syniadau a phrofiadau pobl eraill, neu wybodaeth wedi’i chynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial, a honni mai eich syniadau a’ch profiadau chi ydynt.

Asesiadau cam cyfweld

Ceir 1 cam cyfweld ar gyfer y swydd hon.

Ymddygiadau

Cyfathrebu a Dylanwadu

Rheoli Gwasanaeth o Safon

Gallai eich cryfderau gael eu hasesu yn y cyfweliad hefyd, ond ni fydd y rhain yn cael eu rhannu ymlaen llaw.

Lle Gwych i Weithio i Gyn-filwyr

Mae’r cynllun i wneud y Gwasanaeth Sifil yn lle gwych i weithio i gyn-filwyr yn cynnwys cynllun gwarantu cyfweliad i’r rheini sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol i roi cyfleoedd i gyn-aelodau cymwys o’r Lluoedd Arfog sicrhau swyddi sy’n rhoi boddhad. Mae’n caniatáu i gyn-filwyr barhau i wasanaethu eu gwlad, a dod ag unigolion medrus iawn sydd ag ystod eang o brofiad i’r Gwasanaeth Sifil mewn amgylchedd sy’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi eich gwasanaeth blaenorol yn y Lluoedd Arfog.
I gael rhagor o fanylion am y cynllun a’r gofynion o ran cymhwysedd, ewch i: https://www.gov.uk/government/news/making-the-civil-service-a-great-place-to-work-for-veterans

Cynllun Cyfweliadau Adleoli

Mae disgwyl i adrannau’r Gwasanaeth Sifil archwilio cyfleoedd adleoli cyn dileu swydd unigolyn. Fel rhan o’r Cynllun Cyfweliadau Adleoli, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i’r rheini y mae perygl y bydd eu swydd yn cael ei dileu.

Gall y Weinyddiaeth Gyfiawnder gynnig cyfweliad i ymgeiswyr cymwys sy’n bodloni’r meini prawf dethol sylfaenol, ac eithrio mewn nifer cyfyngedig o ymgyrchoedd. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cyfweliadau Adleoli os ydynt yn gwneud cais am ddyrchafiad.

Mae’r swydd hon yn agored yn fras i’r grwpiau canlynol:

  • dinasyddion y DU
  • dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon
  • dinasyddion gwledydd y Gymanwlad sydd â hawl i weithio yn y DU
  • dinasyddion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu’r dinasyddion hynny sydd â statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (EUSS) (yn agor mewn ffenestr newydd)https://www.gov.uk/settled-status-eu-citizens-families
  • dinasyddion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu’r dinasyddion hynny sydd wedi gwneud cais dilys am statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr Undeb Ewropeaidd (EUSS)
  • unigolion sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros neu ganiatâd amhenodol i aros a oedd yn gymwys i wneud cais am EUSS ar 31 Rhagfyr 2020 neu cyn hynny
  • dinasyddion Twrci, a rhai aelodau teulu dinasyddion Twrci, sydd wedi ennill yr hawl i weithio yn y Gwasanaeth Sifil

Rhagor o wybodaeth am ofynion cenedligrwydd (yn agor mewn ffenestr newydd) https://www.gov.uk/government/publications/nationality-rules

Person specification

Please see job description.

Behaviours

We'll assess you against these behaviours during the selection process:

  • Communicating and Influencing
  • Managing a Quality Service

Benefits

Alongside your salary of £29,432, HM Prison & Probation Service contributes £8,526 towards you being a member of the Civil Service Defined Benefit Pension scheme. Find out what benefits a Civil Service Pension provides.

Things you need to know

Artificial intelligence

Artificial intelligence can be a useful tool to support your application, however, all examples and statements provided must be truthful, factually accurate and taken directly from your own experience. Where plagiarism has been identified (presenting the ideas and experiences of others, or generated by artificial intelligence, as your own) applications may be withdrawn and internal candidates may be subject to disciplinary action. Please see our candidate guidance (opens in a new window) for more information on appropriate and inappropriate use.

Selection process details

This vacancy is using Success Profiles (opens in a new window), and will assess your Behaviours.If you require any assistance please call 0345 241 5358 (Monday to Friday 8am - 6pm) or e mail MoJ-recruitment-vetting-enquiries@resourcing.soprasteria.co.uk. Please quote the job reference 14024

Feedback will only be provided if you attend an interview or assessment.

Security

Successful candidates must undergo a criminal record check.People working with government assets must complete baseline personnel security standard (opens in new window) checks.

Medical

Successful candidates will be expected to have a medical.

Nationality requirements

This job is broadly open to the following groups:

  • UK nationals
  • nationals of the Republic of Ireland
  • nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK
  • nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) (opens in a new window)
  • nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS)
  • individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020
  • Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service
Further information on nationality requirements (opens in a new window)

Working for the Civil Service

The Civil Service Code (opens in a new window) sets out the standards of behaviour expected of civil servants.

We recruit by merit on the basis of fair and open competition, as outlined in the Civil Service Commission's recruitment principles (opens in a new window).The Civil Service embraces diversity and promotes equal opportunities. As such, we run a Disability Confident Scheme (DCS) for candidates with disabilities who meet the minimum selection criteria.The Civil Service also offers a Redeployment Interview Scheme to civil servants who are at risk of redundancy, and who meet the minimum requirements for the advertised vacancy.

Diversity and Inclusion

The Civil Service is committed to attract, retain and invest in talent wherever it is found. To learn more please see theCivil Service People Plan (opens in a new window) and the Civil Service Diversity and Inclusion Strategy (opens in a new window).

Apply and further information

Once this job has closed, the job advert will no longer be available. You may want to save a copy for your records.

Contact point for applicants

Job contact :

Recruitment team

Further information

Appointment to the Civil Service is governed by the Civil Service Commission’s Recruitment Principles. If you feel a department has breached the requirement of the Recruitment Principles and would like to raise this, please contact SSCL (Moj-recruitment-vetting-enquiries@gov.sscl.com) in the first instance. If the role has been advertised externally (outside of the Civil Service) and you are not satisfied with the response, you may bring your complaint to the Commission. For further information on bringing a complaint to the Civil Service Commission please visit their web pages: http://civilservicecommission.independent.gov.uk/civil-service-recruitm…

https://justicejobs.avature.net/careers/JobDetail/14024

Attachments

Band-2-SSO-Operational-Support-Grade-General-JD010-v9.0 Opens in new window (pdf, 185kB)

Salary range

  • £29,432 per year