Search
Header navigation
Adfocad y Goron Lefel 2

Adfocad y Goron Lefel 2

locationTwentieth Floor/Capital Tower/Greyfriars Rd, Cardiff CF10 3PL, UK
remoteHybrid
ExpiresExpires: Expiring in less than 3 weeks
Legal
Flexible
£59,590 - £73,130 per year

Job summary

Fel Adfocad y Goron Lefel 2, byddwch yn erlyn gwaith heb reithgor, yn delio ag achosion cymhleth yn y llys ynadon, ac yn cynnal adfocatiaeth treialon yn Llys y Goron ar gyfer amrywiaeth o achosion troseddol fel dwyn, ymosod, a throseddau traffig ar y ffordd nad ydynt yn angheuol. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau adfocatiaeth i gyflwyno dadleuon cyfreithiol a herio tystiolaeth arbenigol, yn aml yn groes i’r prif gwnsler ar ran yr amddiffyniad. Byddwch hefyd yn cynghori ar achosion llys ieuenctid a gallwch ymddangos fel adfocad dan arweiniad yn ddibynnol ar lefel eich profiad.

Gan ddefnyddio eich arbenigedd ym maes cyfraith droseddol, byddwch yn asesu ansawdd y dystiolaeth ac a yw’n ddigonol, pa mor briodol yw’r cyhuddiadau, ac yn penderfynu a oes siawns realistig o gael euogfarn, ac a yw er budd y cyhoedd. Bydd eich adfocatiaeth yn chwarae rhan allweddol yn ein gallu i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr troseddau, gan ddarparu crebwyll cadarn a chyfathrebu’n glir â’r amddiffyniad, barnwyr, ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill.


Cathryn, Crown Advocate Level 2

Job description

Byddwch yn dadansoddi, yn adolygu, yn paratoi ac yn cynnal treialon â rheithgor mewn achosion troseddol syml.

Byddwch yn rheoli gwaith achos ac yn sicrhau bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf am bob trosedd.

Byddwch yn egluro ein penderfyniadau’n glir i amrywiaeth eang o randdeiliaid gan gynnwys ynadon, cwsnsleriaid, dioddefwyr, tystion a’r heddlu er mwyn meithrin hyder yng ngwaith Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Byddwch yn darparu cyswllt ag uwch benderfynwyr, yn drafftio ymatebion i gwestiynau seneddol, ac yn paratoi briffiau ar gyfer y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus a swyddogion cyfraith.

Byddwch yn meithrin perthnasoedd ac yn delio’n effeithiol ac yn berswadiol ag amrywiaeth eang o bobl, yn fewnol ac yn allanol, er mwyn sicrhau bod achosion yn cael eu herlyn yn effeithiol.

Person specification

Dyma’r aelodaeth a’r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i wneud cais am y swydd hon. Mae’r fframwaith adfocatiaeth hefyd wedi’i atodi er gwybodaeth.

Qualifications

Academaidd: rhaid i chi fod wedi gwneud gradd yn y gyfraith, Arholiad Proffesiynol Cyffredin neu Ddiploma Graddedig yn y Gyfraith.

Rhaid i chi fod â Hawl Uwch i Ymddangos yn y Llys.

Proffesiynol: rhaid i chi fod wedi cwblhau Cwrs Ymarfer Cyfreithiol, Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr neu Gwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar, a bod wedi cwblhau’r tymor prawf a’r contract hyfforddiant perthnasol – neu fod wedi cael eich eithrio’n llawn gan y corff rheoleiddio proffesiynol perthnasol. Rhaid i ymgeiswyr sydd â chymhwyster CILEx feddu ar ‘gymhwyster cyffredinol’ o fewn ystyr 71 (3) (c) Deddf Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990.

Rhaid i chi fod yn gymwys i ymarfer yn Llys y Goron fel bargyfreithiwr cymwysedig dan reoliad Bwrdd Safonau’r Bar, neu fel cyfreithiwr sydd â Hawliau Uwch i Ymddangos yn y Llys – Adfocatiaeth Droseddol.

Os byddwch yn gwneud cais ac nad oes gennych y cymwysterau perthnasol, bydd unrhyw gynnig o gyflogaeth yn cael ei dynnu’n ôl, neu bydd eich contract yn cael ei derfynu. Ni dderbynnir cymwysterau cyfwerth. Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n gymwys, cysylltwch ag advocacyrecruitment@cps.gov.uk

Memberships

Rhaid i chi gael tystysgrif ymarfer ddilys ar gyfer Cymru a Lloegr neu fod yn gymwys i gael tystysgrif ymarfer ddilys, a gyhoeddwyd naill ai gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr neu Fwrdd Safonau’r Bar erbyn dydd Llun 22 Mehefin 2026.

Behaviours

We'll assess you against these behaviours during the selection process:

  • Communicating and Influencing
  • Making Effective Decisions

Technical skills

We'll assess you against these technical skills during the selection process:

  • Rhaid i chi fod wedi gwneud gradd yn y Gyfraith neu Arholiad Proffesiynol Cyffredin.
  • Rhaid i chi fod wedi cwblhau Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu Gwrs Galwedigaethol y Bar ac wedi bwrw’r cyfnod disgybledd perthnasol neu gyfnod hyfforddiant cydnabyddedig
  • Rhaid i chi fod yn gymwys i ymarfer yn Llys y Goron fel bargyfreithiwr cymwysedig o dan Reoliadau Bwrdd Safonau’r Bar – neu’n gyfreithiwr sydd â Hawliau Uwch (Adfocatiaeth Droseddol) dan SRA ar gyfer Hawliau Uwch i Ymddangos yn y Llys 2011.
  • Rhaid i chi fod â Thystysgrif Ymarfer ddilys ar gyfer Cymru a Lloegr neu fod yn gymwys i gael tystysgrif ymarfer ddilys a gyhoeddir naill ai gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr neu Fwrdd Safonau’r Bar.
  • Rydym hefyd yn asesu potensial, cymhelliant, deallusrwydd cyfreithiol ac adfocatiaeth

Benefits

Alongside your salary of £59,590, Crown Prosecution Service contributes £17,263 towards you being a member of the Civil Service Defined Benefit Pension scheme. Find out what benefits a Civil Service Pension provides.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn frwd dros sicrhau ein bod ni’n sefydliad sy’n perfformio ar ei orau ac yn lle gwych i weithio ynddo. Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig, sy’n creu diwylliant lle gall pawb fod yn nhw eu hunain yn y gwaith, ac rydym wir yn gwerthfawrogi unigoliaeth.

Caiff y diwylliant hwn o gynhwysiant ei ategu gan ein rhwydweithiau staff sy’n ymwneud ag anabledd, ffydd a chred, LHDTCRh+, hil, a symudedd cymdeithasol, yn ogystal â’n swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl a’n sesiynau llesiant.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymrwymo i gynnig y profiad canlynol i’w weithwyr:

  • Rydych yn gallu gwneud gwaith effeithiol a phwrpasol sy’n gwneud gwahaniaeth i’ch cymunedau lleol.
  • Rydych yn gallu dysgu a thyfu, ac yn cael mynediad at y cyfleoedd a’r adnoddau cywir.
  • Mae eich llesiant yn bwysig i ni.
  • Rydym eisiau i chi deimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi a’ch cynnwys, a’n bod ni’n ymddiried ynoch.

Rydym hefyd yn cynnig yr amrywiaeth ganlynol o fuddion:

  • Pensiwn cyfrannol y Gwasanaeth Sifil o hyd at 28.9%
  • 25 diwrnod o wyliau bob blwyddyn, yn codi i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth
  • £350 bob blwyddyn i'w wario ar ddatblygiad personol
  • diwrnod braint ychwanegol i nodi pen-blwydd y Brenin
  • absenoldeb cystadleuol o ran mamolaeth, tadolaeth ac absenoldeb rhieni
  • Trefniadau gwaith hyblyg sy’n cynnwys oriau gweithio hyblyg ac agwedd at waith sy’n ystyriol o deuluoedd
  • Cynllun Beicio i’r Gwaith, cynilion gweithwyr.

Mae cyflog Gwasanaeth Erlyn y Goron yn amrywio yn dibynnu ar eich lleoliad.

Abertawe, Birmingham, Bryste, Caerdydd, Caergrawnt, Caerliwelydd, Caerlŷr, Caerwysg, Hull, Ipswich, Leeds, Lincoln, Manceinion, Middlesborough, Newcastle, Northampton, Norwich, Nottingham, Preston, Sheffield, Stoke-on-Trent, Swindon, Truro, yr Wyddgrug: : £59,590 (cyflog cychwynnol), £67,730 (cyflog uchaf)

Brighton, Caergaint, Chelmsford, Eastleigh, Guildford, Portsmouth, Reading: £64,780 (cyflog cychwynnol), £73,130 (cyflog uchaf)

St Albans: £64,780 + £1,050 (cyflog cychwynnol), £73,130 + £1,050 (cyflog uchaf)

Llundain: £64,780 + £3,150 (cyflog cychwynnol), £73,130 + £3,150 (cyflog uchaf)

Dylech ddisgwyl ymuno ar y cyflog cychwynnol oni bai eich bod yn ymuno ar drosglwyddiad cydradd o un o adrannau eraill y llywodraeth.

Wrth weithio i Wasanaeth Erlyn y Goron fel Adfocad cyflogedig, does dim rhaid i chi dalu ffioedd Clercio na rhent busnes. Byddwn yn talu costau eich perwig a’ch gŵn, yn ogystal â’ch tystysgrif ymarfer a llenyddiaeth gyfreithiol ategol.

Mae amrywiaeth yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yn ymwneud â chynhwysiant, croesawu gwahaniaethau a sicrhau bod ein gweithlu wir yn adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethwn. Rydym eisiau i chi deimlo eich bod yn perthyn a’ch bod yn gallu ffynnu, beth bynnag fo’ch cefndir, eich hunaniaeth neu eich diwylliant. Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn hapus i gefnogi ceisiadau am addasiadau rhesymol a gwella eich profiad o’r broses recriwtio. Os hoffech chi i unrhyw addasiadau rhesymol gael eu gwneud i’n proses recriwtio, rhowch wybod i ni yn eich cais neu cysylltwch â AdvocacyRecruitment@cps.gov.uk.

Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod ein gweithwyr yn gallu ffynnu yn y gwaith ac yn y cartref ac rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth i sicrhau cydbwysedd. Mae hyn yn cynnwys oriau gweithio hyblyg, hyblygrwydd i gefnogi cyfrifoldebau gofalu ac agwedd hyblyg at leoli. Rydym yn cynnig polisi gweithio hybrid. Rhaid i chi dreulio o leiaf 40% o’ch oriau contract dros gyfnod o bedair wythnos yn y llys, mewn swyddfa neu mewn gweithle swyddogol arall, yn dibynnu ar anghenion y busnes a’r math o waith rydych yn ei wneud.

Yma yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, mae gennym hefyd amrywiaeth o raglenni datblygu i helpu pob rheolwr uchelgeisiol, newydd a phrofiadol i ddatblygu’r sgiliau, yr ymddygiadau a’r wybodaeth sydd eu hangen i feithrin eu hyder a’u gallu. Mae ein Rhaglen Cynefino Rheolwyr yn orfodol i bob rheolwr sydd newydd ei benodi. Mae hwn yn gyfle gwych i gefnogi ein holl reolwyr newydd i berfformio’n effeithiol yn eu swyddi, drwy ddarparu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt.

Os ydych chi’n gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron ar radd uwch ar hyn o bryd a’ch bod yn dal yn dymuno gwneud cais am y swydd hon, byddwch yn cael eich ailraddio i Adfocad y Goron Lefel 2 ynghyd â’r cyflog a hysbysebir os byddwch yn llwyddiannus. Ni allwch gadw eich gradd na’ch cyflog uwch blaenorol.

Hyfforddiant Eiriolwyr y Goron

Bydd gan eiriolwyr newydd ddyddiadau cychwyn a phrofiad amrywiol, fodd bynnag, mae gennym ddau gwrs C gorfodol ac mae'r dyddiadau canlynol wedi'u cynllunio ar gyfer y cyfnod derbyn hwn:

Sylfaen CA (cwrs wyneb yn wyneb 3 diwrnod) – 21 – 23 Gorffennaf a 4 – 6 Awst.

Treial Rheithgor Byr CA (cwrs wyneb yn wyneb 3 diwrnod) 8 – 10 Medi a 15 – 17 Medi.

Os byddwch yn llwyddiannus, bydd angen i chi gadw un set o ddyddiadau'n glir ar gyfer y cyrsiau hyn os yn bosibl. Darperir hyfforddiant pellach hefyd, wedi'i deilwra i unigolion.


Things you need to know

Artificial intelligence

Artificial intelligence can be a useful tool to support your application, however, all examples and statements provided must be truthful, factually accurate and taken directly from your own experience. Where plagiarism has been identified (presenting the ideas and experiences of others, or generated by artificial intelligence, as your own) applications may be withdrawn and internal candidates may be subject to disciplinary action. Please see our candidate guidance (opens in a new window) for more information on appropriate and inappropriate use.

Selection process details

This vacancy is using Success Profiles (opens in a new window), and will assess your Behaviours, Experience and Technical skills.

Mae’r broses recriwtio yn cynnwys cais ar-lein, asesiad a chyfweliad i ddangos y lefelau gofynnol o’r canlynol:

  • cymwysterau
  • deallusrwydd cyfreithiol (ymddygiad arweiniol yn y cyfweliad a’r asesiad)
  • cymhelliant
  • adfocatiaeth (ymddygiad arweiniol yn y cais, y cyfweliad a’r asesiad)
  • cyfathrebu a dylanwadu
  • gwneud penderfyniadau effeithiol

Cymwysterau

Mae angen i chi fodloni’r meini prawf hanfodol hyn i fod yn gymwys i wneud cais am y swydd hon:

  • Academaidd: rhaid i chi fod wedi gwneud gradd yn y gyfraith, Arholiad Proffesiynol Cyffredin neu Ddiploma Graddedig yn y Gyfraith.
  • Rhaid i chi fod â Hawl Uwch i Ymddangos yn y Llys.
  • Proffesiynol: rhaid i chi fod wedi cwblhau Cwrs Ymarfer Cyfreithiol, Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr neu Gwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar, a bod wedi cwblhau’r tymor prawf a’r contract hyfforddiant perthnasol – neu fod wedi cael eich eithrio’n llawn gan y corff rheoleiddio proffesiynol perthnasol. Rhaid i ymgeiswyr sydd â chymhwyster CILEx feddu ar ‘gymhwyster cyffredinol’ o fewn ystyr 71 (3) (c) Deddf Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990.
  • Rhaid i chi gael tystysgrif ymarfer ddilys ar gyfer Cymru a Lloegr neu fod yn gymwys i gael tystysgrif ymarfer ddilys, a gyhoeddir naill ai gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr neu Fwrdd Safonau’r Bar erbyn 22 Mehefin 2026.
  • Rhaid i chi fod yn gymwys i ymarfer yn Llys y Goron fel bargyfreithiwr cymwysedig dan reoliad Bwrdd Safonau’r Bar, neu fel cyfreithiwr sydd â Hawliau Uwch i Ymddangos yn y Llys – Adfocatiaeth Droseddol.

Gallu: Deallusrwydd cyfreithiol – asesir yn ystod y camau ymgeisio, asesu a chyfweld

Rydym eisiau deall eich galluoedd cyfreithiol a’ch dawn ym maes cyfraith droseddol. Rydym yn chwilio am y canlynol:

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o gysyniadau ac egwyddorion allweddol cyfraith droseddol.
  • Crebwyll cyfreithiol dibynadwy a gwerthfawrogiad o risg gyfreithiol.
  • Gallu meddwl yn strategol ac yn greadigol, gweld materion cyfreithiol yn eu cyd-destun ehangach a chynghori yn unol â hynny.
  • Sgiliau dadansoddi cadarn, gan ddefnyddio ymchwil gyfreithiol ddiogel i gynhyrchu cyngor amserol ac addas i’r diben.
  • Sgiliau adfocatiaeth llafar ac ysgrifenedig rhugl.
  • Sgiliau datblygedig o ran adnabod strategaeth a theori achosion, a chymhwyso’r rhain i adfocatiaeth.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth amlwg o waith Gwasanaeth Erlyn y Goron a’n rôl yn y System Cyfiawnder Troseddol ehangach.

Gallu: Adfocatiaeth – asesir yn ystod y camau ymgeisio, asesu a chyfweld

  • Gallu cyflwyno achos ar lafar ac ar bapur mewn ffordd bwyllog, ddifyr ac argyhoeddiadol.
  • Sgiliau datblygedig o ran adnabod strategaeth a theori achosion, a chymhwyso’r rhain i adfocatiaeth.
  • Potensial i ddatblygu sgiliau adfocatiaeth treialon ar gyfer treialon â rheithgor yn Llys y Goron yn yr ystod o achosion a nodir, gan ddenu sylw’r cyfryngau lleol yn aml.
  • Gallu delio â ffactorau cymhleth fel mesurau arbennig, cyflwyno neu herio tystiolaeth arbenigol gymhleth, a materion cyfreithiol a/neu ffeithiol anodd neu sensitif.
  • Potensial i fod yn adfocad mewn achosion cymhleth sy’n delio â mwy nag un person, a chyfarwyddo a rheoli nifer o gyfranogwyr yn effeithiol yn ystafell y llys.
  • Gallu rheoli achosion hynod sensitif yn ddibynadwy, gan gynnwys achosion gyda phlentyn neu dystion agored i niwed.
  • Potensial i fod yn adfocad ieuaf dan arweiniad effeithiol.
  • Gallu cynhyrchu gwaith ysgrifenedig clir, effeithiol a strwythuredig.
  • Cyfathrebu’n glir ac yn huawdl ar lafar.
  • Gallu cefnogi tystion er mwyn iddyn nhw allu rhoi eu tystiolaeth orau yn unol â chanllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron ar siarad â thystion yn y llys.

Ceisiadau

Gofynnir i chi gyflwyno CV a dogfen ategol yn dangos sut rydych yn bodloni gofynion swydd Adfocad y Goron Lefel 2, gan gyfeirio at y meini prawf asesu.

Ni ddylai’r CV fod yn fwy na dwy dudalen A4 gan ddefnyddio ffont Calibri maint 12. Ni ddylai’r ddogfen ategol gynnwys mwy na 500 gair ar gyfer pob adran gan ddefnyddio ffont Calibri maint 12.

Er ein bod yn cyfeirio at brofiad mewn arbenigeddau, rydym yn deall ei bod yn anoddach i rai ymgeiswyr ddangos profiad mewn arbenigedd penodol, ac rydym yn cymryd hynny i ystyriaeth. Mae croeso i chi gyfeirio at arbenigeddau rydych yn awyddus i ennill profiad ynddynt.

Y prif feini prawf ar gyfer asesu yw:

  • Adfocatiaeth
  • Gwaith cynghori
  • Datgelu
  • Gwybodaeth, sgiliau a phrofiad perthnasol arall
  • Gwerthfawrogi rôl Adfocad y Goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron.

Disgwylir i chi ddangos safonau rhagorol yn erbyn ystod o gymwyseddau mewn perthynas â’r math o waith achos a wneir gan adfocadau’r goron. Mae’r rhain yn cynnwys:

Eiriolaeth

  • Potensial i gynnal adfocatiaeth treialon yn llys y goron yn effeithlon ac yn effeithiol o fewn yr ystod o achosion a nodir ar gyfer adfocadau’r goron.
  • Dealltwriaeth gadarn o reolau tystiolaethol a rheolau trefniadaeth droseddol, achlust a chymeriad drwg.
  • Defnydd priodol o iaith a chwestiynu.
  • Gallu delio’n effeithiol â ffactorau cymhleth fel mesurau arbennig, tystiolaeth arbenigol, a phwyntiau cyfreithiol neu dystiolaethol.
  • Gallu gweithredu’n briodol i helpu’r llys i weinyddu cyfiawnder yn briodol, yn ôl y gofyn.

Gwaith cynghori

  • Defnyddio crebwyll cadarn fel mater o drefn.
  • Dangos gwybodaeth drylwyr o’r gyfraith ac ymarfer, a gwybodaeth gyfredol am y gyfraith sy’n berthnasol i erlyniadau ar y lefel hon.
  • Cyflwyno dadleuon ysgrifenedig clir a chryno sy’n cyfeirio at awdurdodau perthnasol.
  • Gallu datblygu strategaeth glir ar gyfer achosion.

Datgelu

  • Dealltwriaeth o egwyddorion datgelu a’r gallu i roi’r egwyddorion hynny ar waith mewn achosion a gynhelir gan adfocadau’r goron.
  • Adnabod yn gywir y dystiolaeth y dylid ei datgelu.

Gwybodaeth, sgiliau a phrofiad perthnasol arall

  • Gallu paratoi, erlyn a bwrw ymlaen ag achosion yn hyderus ac yn ddiogel gan ddefnyddio technoleg ddigidol.
  • Ymwybyddiaeth o sut i gael a defnyddio tystiolaeth o dramor a delio â materion awdurdodaethol, hawliau dynol, ataliaeth ac atafaelu.

Gwerthfawrogi rôl Adfocad y Goron

  • Dealltwriaeth o safonau moesegol, er enghraifft cwblhau elfen eiriolaeth a moeseg y Rhaglen Ymarferwyr Newydd.
  • Gweithredu’n briodol wrth ddelio â materion sy’n ymwneud ag amrywiaeth neu wahaniaeth.
  • Parodrwydd i weithio fel rhan o dîm erlyn sy'n ymgymryd â'r math o waith a geir yn 'Gwaith Achos ar Lefel 2' heb beryglu annibyniaeth broffesiynol.
  • Bod yn gyfarwydd â chanllawiau polisi Gwasanaeth Erlyn y Goron, a’u deall, gan gynnwys y Cod, Canllawiau Farquharson a pholisïau mewn perthynas â dioddefwyr a thystion, troseddau casineb, a thrais yn erbyn menywod a merched.
  • Dealltwriaeth briodol o’r berthynas broffesiynol rhwng yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Mae gan y panel hawl i asesu’r prif ymddygiad ‘adfocatiaeth’ yn gyntaf, gan ystyried potensial yr ymgeisydd. Os na fydd y safon ar gyfer yr ymddygiad hwn yn cael ei bodloni, ni fydd yr ymddygiadau eraill yn cael eu hystyried, ac ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Mae gan y panel hefyd hawl i godi’r marc pasio safonol isaf. Gall y panel hefyd gyfeirio at y prif ymddygiadau ‘adfocatiaeth’ a ‘deallusrwydd cyfreithiol’ yn y camau cyfweld ac asesu i benderfynu ar drefn teilyngdod.

Asesiad a chyfweliad

Os byddwch yn pasio’r cam cyntaf, cewch eich gwahodd i gwblhau asesiad cyfreithiol a chyfweliad Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Gellir cynnal asesiadau a chyfweliadau cyfreithiol wyneb yn wyneb neu dros Microsoft Teams. Byddant yn cael eu cynnal rhwng 1 a 19 Mehefin 2026.

Mae’n bosibl y bydd y dyddiadau hyn yn newid. Os nad ydych chi ar gael ar gyfer yr asesiad arfaethedig na’r dyddiadau hyn, siaradwch â’n tîm recriwtio ac efallai y bydd modd cynnig dyddiadau eraill. Bydd cynigion a gwiriadau cyn cyflogaeth yn dechrau o 22 Mehefin 2026 ymlaen. Mae nifer y swyddi sydd ar gael yn amodol ar anghenion busnes ac felly gallant newid.

Rydym yn defnyddio ymddygiadau i'n helpu i ddeall eich profiad, i'ch helpu chi i wneud gwaith gwych yn y swydd hon. Cewch eich asesu yn erbyn Gradd 7 yn fframwaith ymddygiadau proffiliau llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Rydym yn asesu pum ymddygiad yn ystod y camau cyfweld ac asesu:

Deallusrwydd cyfreithiol – cyfweliad ac asesiad (ymddygiad arweiniol)

Adfocatiaeth – cyfweliad ac asesiad (ymddygiad arweiniol)

Cymhelliant – cyfweliad

Gwneud penderfyniadau effeithiol – cyfweliad ac asesiad

Cyfathrebu a dylanwadu – cyfweliad ac asesiad

Dysgwch am Ymddygiadau’r Gwasanaeth Sifil.

Cywirdeb

Rhaid i chi sicrhau bod eich cais, gan gynnwys eich datganiad personol ac enghreifftiau o’ch ymddygiad, yn wir ac yn ffeithiol gywir. Gall llên-ladrad gynnwys cyflwyno syniadau a phrofiadau pobl eraill, neu wybodaeth wedi’i chynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial, a honni mai eich syniadau a’ch profiadau chi ydynt.

Sesiynau gwybodaeth

Rydym yn cynnal dwy sesiwn wybodaeth ar gyfer adfocadau’r goron:

Gallwch ymuno â’n sesiwn holi ac ateb fyw, lle gallwch ofyn cwestiynau i ni am y broses recriwtio, gofynion mynediad, a’ch cais.

Dydd Mercher 22 Ebrill 2026, 1pm – 1.45pm Cofrestrwch yn https://meetandengage.com/amnrg22dc

Dydd Iau 30 Ebrill 2026, 1pm – 1.45pm - 45pm Cofrestrwch yn https://meetandengage.com/amnrg47yc

Os na allwch chi ymuno ar y dyddiadau a’r amseroedd hyn, bydd trawsgrifiadau ar gyfer y ddau ddigwyddiad ar gael ar gais. Anfonwch e-bost at advocacyrecruitment@cps.gov.uk.

Arall

Mae hon yn swydd lawn-amser. Rydym yn ystyried ceisiadau i weithio’n hyblyg ac yn rhan-amser, ac i rannu swydd – gan ystyried anghenion gweithredol yr adran.

Rhestr wrth gefn

Os bydd yr holl swyddi’n cael eu llenwi ar gyfer eich ardal ddaearyddol chi, byddwch yn cael eich rhoi ar restr wrth gefn. Efallai y cewch gynnig cyfle mewn lleoliad nad yw’n ddewis cyntaf gennych. Gwneir cynigion bob amser yn nhrefn teilyngdod.

Mae’n bosibl y gallech gael cynnig cyfle i weithio ar ein tîm erlyn canolog – i gwblhau gwaith o bell ar gyfer ardaloedd busnes ledled Cymru a Lloegr. Os cewch gynnig gwaith, bydd hynny am gyfnod o fis o leiaf gyda’r posibilrwydd o’i ymestyn i hyd at 24 mis. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn dychwelyd yn barhaol i’ch ardal yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron.

Bydd y rhestr wrth gefn yn cael ei dileu 12 mis ar ôl cynnal y cyfweliadau ac ni ellir gwarantu swyddi ar gyfer eich dewis cyntaf.

Archwiliadau twyll

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn darparu Hysbysiad Prosesu Teg i bob ymgeisydd newydd ar ôl iddynt fod yn llwyddiannus yn y cyfweliad. Rhoddir gwybod i’r ymgeiswyr hyn, fel un agwedd ar y broses sgrinio cyn cyflogi, fod eu manylion personol – enw, rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni – yn cael eu gwirio yn erbyn y Gronfa Ddata Twyll Mewnol. Ni fyddwn yn cyflogi unrhyw un sydd wedi’i gynnwys ar y gronfa ddata oni bai eu bod yn gallu dangos amgylchiadau eithriadol.

Mae’r tîm Adnoddau Strategol yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, ar ran deiliad y swydd wag, yn rhoi gwybod i ymgeiswyr pan wrthodir cyflogaeth iddynt oherwydd bod eu henw ar y Gronfa Ddata Twyll Mewnol.

Gweision sifil presennol

Os ydych chi eisoes yn was sifil ac yn mynd drwy unrhyw un o’r camau gweithredu ffurfiol canlynol ar hyn o bryd, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried ymhellach.

  • camau disgyblu ffurfiol
  • unrhyw gamau ffurfiol ynghylch presenoldeb neu berfformiad gwael
  • unrhyw gyfyngiad ar ddyletswyddau o ganlyniad i gamau disgyblu
  • ar brawf ar hyn o bryd.

Comisiwn y Gwasanaeth Sifil

Os ydych yn anfodlon â’r broses recriwtio a’ch bod yn dymuno cwyno, cysylltwch â Strategic.Resourcing@cps.gov.uk gyda’ch pryderon.

Os ydych yn dal yn anfodlon ac yn dymuno gwneud cwyn arall, cliciwch ar y ddolen ganlynol i dudalen gwyno Comisiwn y Gwasanaeth Sifil https://civilservicecommission.independent.gov.uk/recruitment/civilservicerecruitmentcomplaints/

Mae Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil i’w gweld yma:

Recruitment Principles

Mae manylion Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil ar gael yma:

https://www.gov.uk/government/publications/nationality-rules

Mae ymgeiswyr yn rhwym wrth ofynion mewnfudo’r DU. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ofynion gweithio yn y DU, ewch i wefan Mewnfudo a Fisâu y DU yn https://www.gov.uk/browse/visas-immigration/work-visas



Feedback will only be provided if you attend an interview or assessment.

Security

Successful candidates must undergo a criminal record check.People working with government assets must complete baseline personnel security standard (opens in new window) checks.

Nationality requirements

This job is broadly open to the following groups:

  • UK nationals
  • nationals of the Republic of Ireland
  • nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK
  • nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) (opens in a new window)
  • nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS)
  • individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020
  • Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service
Further information on nationality requirements (opens in a new window)

Working for the Civil Service

The Civil Service Code (opens in a new window) sets out the standards of behaviour expected of civil servants.

We recruit by merit on the basis of fair and open competition, as outlined in the Civil Service Commission's recruitment principles (opens in a new window).The Civil Service embraces diversity and promotes equal opportunities. As such, we run a Disability Confident Scheme (DCS) for candidates with disabilities who meet the minimum selection criteria.The Civil Service also offers a Redeployment Interview Scheme to civil servants who are at risk of redundancy, and who meet the minimum requirements for the advertised vacancy.

Diversity and Inclusion

The Civil Service is committed to attract, retain and invest in talent wherever it is found. To learn more please see theCivil Service People Plan (opens in a new window) and the Civil Service Diversity and Inclusion Strategy (opens in a new window).

Apply and further information

This vacancy is part of the Great Place to Work for Veterans (opens in a new window) initiative.Once this job has closed, the job advert will no longer be available. You may want to save a copy for your records.

Contact point for applicants

Job contact :

Recruitment team

Attachments

CA Framework Opens in new window (pdf, 213kB)

Salary range

  • £59,590 - £73,130 per year