
Cynllun Hyfforddeion Cyfreithiol Cenedlaethol - Bargyfreithiwr - Ionawr 2026 (i ddechrau Hydref 2027)
Job summary
Ydych chi'n ddarpar fargyfreithiwr sydd â diddordeb yn y gyfraith troseddau? Gwnewch gais am gynllun hyfforddeion cyfreithiol Gwasanaeth Erlyn y Goron nawr a dechrau ar eich llwybr hyfforddi ym mis Hydref 2027.
Yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, rydym yn gyfrifol am weinyddu cyfiawnder drwy erlyn troseddau'n annibynnol ac yn effeithiol.
Yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, rydym yn gyfrifol am weinyddu cyfiawnder drwy erlyn troseddau'n annibynnol ac yn effeithiol. Ni sy’n cyflogi’r nifer fwyaf o arbenigwyr y gyfraith troseddau yng Nghymru a Lloegr, ac rydym yn un o'r cyflogwyr mwyaf deniadol i fyfyrwyr y gyfraith yn ôl Universum. Rydyn ni'n falch o gael ein cydnabod gan ein hyfforddeion cyfreithiol yn arolwg Legal 500 Future Lawyers 2025 am ein cynlluniau secondio i adrannau Cleientiaid, am hyder yn niogelwch swyddi, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, cynwysoldeb, secondiadau rhyngwladol a bod yn agos-atoch.
Fel bargyfreithiwr dan hyfforddiant, rydych chi'n cael eich cefnogi gan oruchwyliwr cwbl gymwys sy'n cynnig arweiniad a chyfleoedd i ddatblygu eich dealltwriaeth o weithio fel eiriolwr. Ni fyddwch yn ymarfer yn ystod eich chwe mis cyntaf - byddwch yn cwblhau hyfforddiant eiriolaeth, cyrsiau cyfreithiol a secondiad dewisol mewn siambrau. Yn ystod y chwe mis sy'n weddill, byddwch yn rhoi eich hyfforddiant ar waith - gan feithrin eich sgiliau eiriolaeth, cyflwyno achosion yn y llys a gweithio gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol.
Gallwch ddatblygu eich gwybodaeth drwy weithio mewn meysydd troseddau arbenigol gan gynnwys treisio a throseddau rhywiol difrifol, troseddau cyfundrefnol a thwyll. Rydym wedi ymrwymo i'ch twf proffesiynol ac yn disgwyl y bydd gennych, yn dilyn eich rôl gychwynnol yn y llys ynadon, y sgiliau angenrheidiol i wneud cais am gyfleoedd am ddyrchafiad yn Llys y Goron gan gynnwys swyddi uwch erlynwyr y goron ac uwch eiriolwyr y goron.
Gwrandewch ar ein hyfforddeion cyfreithiol yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, Kane, sy’n gyn Hyfforddai Cyfreithiol
Mae gennym ddwy hysbyseb sy’n fyw ar hyn o bryd, un ar gyfer swydd bargyfreithiwr dan hyfforddiant ac un ar gyfer rôl cyfreithiwr dan hyfforddiant. Dim ond un cais y mae modd i chi ei gyflwyno ar gyfer y swyddi hyn. Os byddwch yn gwneud cais am y ddwy swydd, neu'r un swydd fwy nag unwaith, dim ond y cais am y swydd gyntaf y gwnaethoch ymgeisio amdani y byddwn yn ei dderbyn a byddwn yn gwrthod yr ail yn awtomatig.
Job description
Mae ein cynllun hyfforddeion cyfreithiol yn rhaglen hyfforddi helaeth i'ch helpu i ddod yn fargyfreithiwr cwbl gymwys. Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr ym mhob maes o’r gyfraith troseddau, o adolygu achosion a pharatoi cyngor cyn cyhuddo i gwrdd â dioddefwyr a thystion. Byddwch yn sicr o gael swydd barhaol fel erlynydd y goron neu eiriolwr y goron ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf yn llwyddiannus.
Eich rolau a’ch cyfrifoldebau
- Paratoi achosion i'w herlyn ar droseddau diannod yn unig a throseddau neillffordd yn y llys ynadon gan weithio gyda gweithwyr achos, cwrdd â thystion a chefnogi'r cwnsler.
- Cynghori'r heddlu ac ymchwilwyr eraill ar benderfyniadau ynghylch cyhuddo, a gweithio gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol, cyfreithwyr yr amddiffyniad a chwnsleriaid ar waith achos.
- Cysgodi erlynwyr yn y Llys Ynadon a Llys y Goron, ac arsylwi ar eiriolaeth.
- Mynychu cynadleddau gyda'r heddlu a'r cwnsler, a chyfarfodydd gyda dioddefwyr a thystion.
- Gwneud ymchwil gyfreithiol a rhoi adborth i'ch goruchwyliwr cyfreithiol a chydweithwyr eraill yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron.
- Gweithio gyda goruchwyliwr drwy gydol eich cyfnod prawf, gan gadw cofnodion manwl gywir o’r gwaith a chyfarfod i drafod cynnydd eich hyfforddiant.
Person specification
Rydym yn chwilio am bobl sydd â’r nodweddion hyn:
- diddordeb amlwg mewn erlyniadau troseddol a gwasanaeth cyhoeddus
- gwybodaeth a dealltwriaeth amlwg o waith Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r rhan rydyn ni’n ei chwarae yn y system cyfiawnder troseddol ehangach
- ffocws pendant ar ddysgu parhaus a’r gallu i ddefnyddio’r wybodaeth am y gyfraith troseddau a ddysgoch drwy astudio a drwy brofiad
- ymrwymiad i yrfa fel cyfreithiwr sy'n gweithio ym maes y gyfraith troseddau yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron
Qualifications
Gradd israddedigRhaid i chi fod â gradd israddedig prifysgol 2:2 neu uwch. Nid oes angen i hon fod yn y gyfraith, rydym yn ystyried graddau israddedig cyfatebol.
Os oes gennych radd israddedig 2:2 neu uwch mewn pwnc ar wahân i'r gyfraith, rhaid ichi fod wedi cwblhau un o'r cyrsiau trosi canlynol:
•Diploma Graddedig yn y Gyfraith (GDL)
•Arholiad Proffesiynol Cyffredin (CPE)
Cymwysterau ôl-raddedig
Rhaid i chi fod wedi cwblhau, neu fod ar fin cwblhau, cwrs y Bar er mwyn gallu dechrau’r cynllun hyfforddeion cyfreithiol ym mis Hydref 2027.
Rhaid i chi ddarparu eich cymwysterau i'n tîm recriwtio erbyn 1 Medi 2027. Os na allwch ddarparu'r cadarnhad hwn erbyn yr amser hwn, cewch eich tynnu o'r broses. Ni dderbynnir unrhyw ohiriadau os na allwch fodloni'r gofyniad cymhwyster.
Nid yw Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cynnig nawdd ar gyfer cymwysterau galwedigaethol. Byddwn yn gwirio’r holl dystysgrifau a’r cymwysterau academaidd os cewch eich gwahodd i gwblhau cyfweliad fideo ar-lein.
Os na fyddwch yn cynnwys eich cymwysterau israddedig ac ôl-raddedig ar eich ffurflen gais, ni fyddwch yn bodloni’r meini prawf cymhwyso a byddwch yn cael eich tynnu o’r broses recriwtio.
Behaviours
We'll assess you against these behaviours during the selection process:
- Making Effective Decisions
- Communicating and Influencing
- Managing a Quality Service
- Working Together
Technical skills
We'll assess you against these technical skills during the selection process:
- Gradd israddedig
- Cymwysterau ôl-raddedig
Benefits
Alongside your salary of £30,700, Crown Prosecution Service contributes £8,893 towards you being a member of the Civil Service Defined Benefit Pension scheme. Find out what benefits a Civil Service Pension provides.Ymunwch â Gwasanaeth Erlyn y Goron a chanfod eich pwrpas.
Pam rydym yn gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn frwd dros sicrhau ein bod ymysg y sefydliadau sy'n perfformio orau ac yn lle gwych i weithio. Rydyn ni'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig, sy'n creu diwylliant lle gallwch chi fod yn chi eich hun yn llwyr yn y gwaith, ac rydyn ni wir yn gwerthfawrogi unigoliaeth.
Caiff y diwylliant hwn o gynhwysiant ei ategu gan ein rhwydweithiau staff sy'n delio ag anabledd, ffydd a chred, pobl LGBTQI+, hil, symudedd cymdeithasol ochr yn ochr â'n rhaglen swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl a'n sesiynau lles.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymrwymo i gynnig y profiad canlynol i'w weithwyr.
- Gallwch wneud gwaith effeithiol a phwrpasol sy'n gwneud gwahaniaeth i'ch cymunedau lleol.
- Rydych chi'n cael dysgu a thyfu, ac mae’r cyfleoedd a'r adnoddau iawn ar gael ichi.
- Mae eich lles yn bwysig i ni.
- Rydyn ni eisiau ichi deimlo eich bod yn werthfawr inni, ein bod yn ymddiried ynoch a’ch bod yn perthyn.
Rydym hefyd yn cynnig yr ystod ganlynol o fanteision:
- Pensiwn cyfrannol y Gwasanaeth Sifil o hyd at 28.9%
- 25 diwrnod o wyliau, sy’n cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd
- £350 y flwyddyn i'w wario ar ddatblygiad personol
- rhaglen hyfforddi cyfreithwyr ar gyfer pob erlynwr newydd
- diwrnod braint ychwanegol i nodi pen-blwydd y Brenin
- absenoldeb mamolaeth, tadolaeth ac absenoldeb rhieni cystadleuol
- trefniadau gweithio hyblyg, ac agwedd at waith sy’n ystyriol o deuluoedd
- cynllun Seiclo i’r Gwaith, cynilion gweithwyr.
Mae amrywiaeth yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yn ymwneud â chynhwysiant, croesawu gwahaniaethau a sicrhau bod ein gweithlu wir yn adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym am ichi deimlo eich bod yn perthyn ac yn gallu ffynnu, beth bynnag fo’ch cefndir, eich hunaniaeth neu’ch diwylliant. Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn hapus i gefnogi ceisiadau am addasiadau rhesymol a gwella eich profiad o’r broses recriwtio. Os hoffech inni wneud unrhyw addasiadau rhesymol i’n proses recriwtio, rhowch wybod inni yn eich cais neu cysylltwch â Earlycareers@cps.gov.uk
Mae gan Wasanaeth Erlyn y Goron gyfraddau sefydlog ar gyfer ei radd Swyddog Gweithredol - cyfradd sy'n datblygu (y cyflog cychwynnol) a chyfradd unfan (yr uchafswm cyflog). Rydych chi'n ymuno â ni ar y gyfradd ddatblygu ac, ar ôl cwblhau cyfnod datblygu o 15 mis, rydych yn symud i'r gyfradd unfan os bydd eich rheolwr llinell yn cadarnhau eich bod yn cyflawni'r swydd i safon foddhaol.
Bydd pob hyfforddai cyfreithiol yn cael ei ailraddio i radd B1 ar gyflog y gyfradd ddatblygu yn ystod y cyfnod hyfforddi. Os ydych chi'n cael eich talu ar gyfradd unfan B1 neu uwch ar hyn o bryd (gan gynnwys os ydych chi'n weithiwr yn un o adrannau eraill y llywodraeth neu'n un o weithwyr presennol Gwasanaeth Erlyn y Goron ar radd uwch pan wnewch y cais), byddwch yn ymuno ar gyfradd unfan B1 drwy gydol eich cyfnod hyfforddi.
Ar ôl cwblhau'r cynllun hyfforddeion cyfreithiol yn llwyddiannus, byddwch wedyn yn symud ymlaen i’r cyflog Lefel 1 perthnasol ar gyfer erlynwyr y goron neu eiriolwyr y goron.
Things you need to know
Artificial intelligence
Artificial intelligence can be a useful tool to support your application, however, all examples and statements provided must be truthful, factually accurate and taken directly from your own experience. Where plagiarism has been identified (presenting the ideas and experiences of others, or generated by artificial intelligence, as your own) applications may be withdrawn and internal candidates may be subject to disciplinary action. Please see our candidate guidance (opens in a new window) for more information on appropriate and inappropriate use.Selection process details
This vacancy is using Success Profiles (opens in a new window), and will assess your Behaviours, Strengths, Ability, Experience and Technical skills.Ymddygiad - a asesir yn y cyfweliad a’r asesiad cyfreithiol
Rydyn ni’n defnyddio ymddygiad i’n helpu i ddeall eich profiad, i’ch helpu chi i wneud gwaith gwych yn y swydd hon. Byddwch yn cael eich asesu yn erbyn gradd Swyddog Gweithredol/Lefel 2 yn fframwaith ymddygiad proffiliau llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Rydym yn asesu'r pedwar ymddygiad hyn.
Yr ymddygiad arweiniol yw cymhelliad, dyma sydd â’r pwys mwyaf yn yr asesiad cyffredinol. Rhestrir ymddygiadau eraill yn nhrefn eu pwysigrwydd.:
- Cymhelliad (ymddygiad arweiniol) cyfweliad fideo a chyfweliad terfynol
- Dealltwriaeth gyfreithiol asesia
- Gwneud penderfyniadau effeithiol - cyfweliad terfynol
- Cyfathrebu a dylanwadu – cyfweliad fideo, asesiad a chyfweliad terfynol
- Rheoli Gwasanaeth Ansawdd - cyfweliad terfynol
- Gweithio Gyda'n Gilydd - cyfweliad terfynol
Cymhelliad – cyfweliad fideo a chyfweliad terfynol
Rydyn ni eisiau deall pam mae gennych chi ddiddordeb yn y gyfraith a pham eich bod chi eisiau gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron. Rydyn ni am ichi roi sylw i’r pedwar peth canlynol yn eich cyfweliad a’ch asesiad.
- Diddordeb amlwg mewn erlyn troseddol a gwasanaeth cyhoeddus.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth amlwg o waith Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r rhan rydyn ni’n ei chwarae yn y system cyfiawnder troseddol ehangach.
- Ffocws pendant ar ddysgu parhaus a’r gallu i ddefnyddio’r wybodaeth am y gyfraith droseddol a ddysgoch drwy astudio a drwy brofiad.
- Ymrwymiad i yrfa fel cyfreithiwr sy'n gweithio ym maes y gyfraith troseddau yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron
Gallu: Cyfathrebu - asesir mewn cyfweliad fideo
Rydyn ni eisiau deall eich arddulliau cyfathrebu ac rydyn ni'n chwilio am y canlynol:
- arddull cyfathrebu clir a chryno
- ymgysylltu cadarnhaol
- y gallu i gyfathrebu'n effeithiol mewn sefyllfaoedd pan fo amserlenni’n dynn
Gallu: Cyfathrebu a dylanwadu a deallusrwydd cyfreithiol - asesir yn y cyfweliad terfynol a'r asesiad
Rydyn ni eisiau deall eich gallu i gyfathrebu a dylanwadu ac rydyn ni'n chwilio am y canlynol:
- y gallu i gyflwyno achos ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn modd pwyllog, diddorol a darbwyllol
- y gallu i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig clir, effeithiol a strwythuredig
- yn gallu cyfathrebu ar lafar yn glir ac yn huawdl
Rydyn ni eisiau deall eich deallusrwydd cyfreithiol ac rydyn ni'n chwilio am y canlynol:
- gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o egwyddorion cyfreithiol neu'r potensial i ddatblygu hyn
- y gallu i ddysgu ac ymchwilio i feysydd gwybodaeth anghyfarwydd, gan gynnwys meysydd cyfreithiol technegol
- y gallu i ddadansoddi set o ffeithiau, gan adnabod y materion ffeithiol a chyfreithiol perthnasol
- y gallu i gymhwyso egwyddorion yn rhesymegol, yn fanwl a chyda barn gadarn.
Cam cyntaf - profion ar-lein a’r cais
Byddwch yn cyflwyno eich ffurflen gais fer drwy Swyddi'r Gwasanaeth Sifil. Yna, fe'ch gwahoddir i gwblhau prawf sgiliau gwaith achos y Gwasanaeth Sifil a phrawf llafar y Gwasanaeth Sifil ar-lein.
Os byddwch yn methu naill ai'r prawf sgiliau gwaith achos neu'r prawf rhesymu llafar, bydd eich cais yn cael ei wrthod ac ni fyddwch yn gallu ailymgeisio. Bydd unrhyw geisiadau dyblyg yn cael eu gwrthod.
I gael rhagor o wybodaeth am brofion ar-lein y Gwasanaeth Sifil, ewch i brofion ar-lein y Gwasanaeth Sifil - GOV.UK.
Os byddwch yn pasio'r profion hyn, fe'ch gwahoddir i gyflwyno eich ffurflen gais lawn a'ch CV drwy Swyddi'r Gwasanaeth Sifil. Rhaid cyflwyno hon erbyn 1pm dydd Mercher 4 Chwefror 2026.
Mae angen ichi atodi eich CV fel un ddogfen heb fod yn fwy na dwy dudalen A4. Ni fydd hwn yn cael ei asesu ond mae'n rhoi cipolwg i'r panel ar eich swyddi blaenorol a'ch profiad.
Dylai eich CV gynnwys:
- hanes eich gyrfa ynghyd â’ch cyfrifoldebau allweddol
- sgiliau a phrofiad
- llwyddiannau
- cymwysterau
Yn adran cymwysterau eich ffurflen gais, rhowch y canlynol:
- dosbarth eich gradd israddedig
- eich Cwrs Ymarfer y Bar neu Arholiad Proffesiynol Cyffredin os yw eich gradd israddedig mewn pwnc heblaw'r gyfraith - os felly, dylech ddewis 'arall' o dan deitl y cymhwyster
Ail gam - cyfweliad fideo
Os byddwch yn pasio cam cyntaf y broses recriwtio, cewch eich gwahodd i gyfweliad fideo. Anfonir gwahoddiadau i'r cyfweliadau fideo ar wahân yn uniongyrchol oddi wrth ein tîm recriwtio. Anfonir y rhain rhwng 5 - 6 Medi - rhoddir canllawiau a chyfarwyddiadau llawn ar gyfer y broses cyfweliad fideo gyda'ch gwahoddiad.
Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch ar gyfer y cyfweliad fideo, cysylltwch ag earlycareers@cps.gov.uk erbyn 1pm 9 Chwefror 2026.
Efallai na fydd modd delio ag unrhyw geisiadau ar ôl yr amser hwn.
Gallwch gael mynediad at y system cyfweliadau fideo o 1pm 9 Chwefror 2026 ymlaen a rhaid ichi fod wedi cwblhau a chyflwyno eich cyfweliad fideo erbyn 1pm 13 Chwefror 2026.
Rydym eisiau deall pam eich bod eisiau gweithio yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron. Rydym yn asesu eich cymhelliad a'ch cryfderau yn y cam hwn i benderfynu a ydych chi'n addas ar gyfer y swydd.
Ceidw'r panel yr hawl i nodi'r prif gryfder adeg llunio’r rhestr fer a chodi'r marc pasio safonol sylfaenol ar gyfer y cryfder hwn yn y cam hwn yn y broses ddethol. Y prif gryfder yn y cyfweliad fideo yw cymhelliad.
Trydydd cam - cyfweliad ac asesiad terfynol
Os byddwch yn pasio'r ail gam yn y broses recriwtio, cewch eich gwahodd i asesiad a chyfweliad gyda phanel Gwasanaeth Erlyn y Goron. Byddwch yn cael arweiniad a chyfarwyddiadau llawn am y broses hon gyda'ch gwahoddiad.
Cynhelir y cyfweliadau rhwng 11 Mawrth a 10 Ebrill 2026 drwy Microsoft Teams.
Fe'ch gwahoddir i ddewis slot cyfweliad ar ein system archebu ar-lein o ddydd Llun 2 Mawrth 2026 ymlaen.
Gofynnwn ichi nodi'r dyddiadau y bwriedir cynnal y cyfweliad a'r asesiadau. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd y dyddiadau hyn yn newid, ac ni allwn warantu dyddiadau cyfweld eraill.
Cynnig cyflogaeth
Os byddwn yn cynnig swydd i chi, bydd cynigion yn cael eu hanfon o 8 Mai 2026 ymlaen gyda’r archwiliadau cyn cyflogi yn dechrau ym mis Mai 2027.
Angen rhagor o wybodaeth cyn i chi wneud cais?
Mae ein sgwrs bot Cynllun Hyfforddai Cyfreithiol ar gael 24/7 i ateb eich cwestiynau am y cynllun, y broses recriwtio, a beth i'w ddisgwyl.
https://meetandengage.com/amjcvaimq
Sesiynau gwybodaeth
Rydym yn cynnal cyfres o sesiynau gwybodaeth - mae'r rhain yn sgyrsiau byw ar y we lle gallwch ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich cais, y broses neu'r swyddi. Gallwch gofrestru yma:
14 January 2026 13:00 - 14:00 Barrister https://meetandengage.com/amj2pkjcr
Cryfderau
Profir cryfderau yn y cyfweliad fideo a'r cyfweliad terfynol - ni chaiff y cryfderau a brofir eu rhannu cyn y cyfweliad.
Deallusrwydd Artiffisial
Gall Deallusrwydd Artiffisial fod yn adnodd defnyddiol i gefnogi eich cais. Fodd bynnag, rhaid i'r holl enghreifftiau a datganiadau a ddarperir fod yn wir, yn ffeithiol gywir ac wedi'u cymryd yn uniongyrchol o'ch profiad eich hun. Pan welwn achos o lên-ladrata (cyflwyno syniadau a phrofiadau pobl eraill, neu wedi'i gynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial, fel eich syniadau a’ch profiadau chi) gall ceisiadau gael eu tynnu'n ôl a gall ymgeiswyr mewnol wynebu camau disgyblu. Tarwch olwg ar ein canllawiau i ymgeiswyr i gael rhagor o wybodaeth am ffyrdd priodol ac amhriodol o’i ddefnyddio.
Addasiadau rhesymol
Mae amrywiaeth yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yn ymwneud â chynhwysiant, croesawu gwahaniaethau a sicrhau bod ein gweithlu wir yn adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym am i chi deimlo eich bod yn perthyn ac yn gallu ffynnu, beth bynnag fo’ch cefndir, eich hunaniaeth neu’ch diwylliant. Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn hapus i gefnogi ceisiadau am addasiadau rhesymol a gwella eich profiad o’r broses recriwtio. Os hoffech inni wneud unrhyw addasiadau rhesymol i’n proses recriwtio, rhowch wybod inni yn eich cais neu cysylltwch â EarlyCareers@cps.gov.uk.
Lleoliadau
Mae'r swyddi hyn ar gael yn genedlaethol. Nodwch y tri lleoliad sy'n cael eu ffafrio gennych ar eich cais. Rydym yn dyrannu swyddi yn nhrefn teilyngdod ac yn ceisio cyd-fynd â’ch dewisiadau, ond ni ellir gwarantu hyn.
Cynhelir eich hyfforddiant yn y lleoliad rydych chi'n ei dderbyn pan y’i cynigir ichi, ac ni fydd modd ei newid yn nes ymlaen.
Bydd goruchwyliwr yn cael ei neilltuo ichi yn y lleoliad hwn drwy gydol eich hyfforddiant.
Presenoldeb Gorfodol: Yn ystod y cyfnod prawf, rhaid ichi fynychu'r llys neu'r swyddfa yn y lleoliad a neilltuwyd ichi bob dydd. Mae’n hanfodol ar gyfer eich hyfforddiant eich bod yn bresennol ac ni ellir gweithio o bell yn lle hynny. Oherwydd y cyrsiau gorfodol rheolaidd, efallai y bydd gofyn ichi aros dros nos, daw hyn o dan y polisi teithio a chynhaliaeth.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd a bydd yn gwneud addasiadau rhesymol i helpu gyda'r gofynion i fod yn bresennol.
Rydym yn ystyried ceisiadau am weithio hyblyg, gweithio’n rhan-amser a rhannu swydd, gan gofio anghenion gweithredol y busnes.
Cymhwysedd
Os byddwch yn gwneud cais ac os canfyddir nad ydych yn bodloni'r meini prawf academaidd, cenedligrwydd neu fewnfudo yn ystod y broses ymgeisio neu gynefino, cewch eich tynnu o'r broses.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd ac rydym yn ymfalchïo ein bod yn gyflogwr o ddewis. Rhagor o wybodaeth am sut rydym yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle - Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Archwiliadau clir
Os byddwch yn llwyddiannus, bydd angen ichi gael archwiliad clir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ac Archwiliad Diogelwch clir. Er mwyn cael Archwiliad Diogelwch clir, mae angen ichi fod wedi byw yn y DU am dair o'r pum mlynedd diwethaf a rhaid ichi fod yn byw yn y DU ar hyn o bryd. Ar gyfer y ddau, rhaid ichi gael cyfeiriad cyfredol dilys yn y DU.
Os ydych chi'n aelod mewnol o staff, ni fydd angen ichi gael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd oherwydd y byddwch wedi cael un yn barod.
Sylwer na all Gwasanaeth Erlyn y Goron gynnig nawdd fisa. Os oes angen nawdd fisa arnoch i weithio yn y DU, ni fyddwch yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y swydd hon.
Rhestr wrth gefn
Os cewch eich argymell gan y panel dethol ond ni chewch eich penodi i'r swydd wag bresennol hon, byddwch yn cael eich rhoi ar restr wrth gefn am 12 mis rhag ofn y bydd rhagor o swyddi gwag yn codi. Nid oes sicrwydd y cewch gynnig swydd yn yr amser hwn.
Archwiliad twyll
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn darparu Hysbysiad Prosesu Teg i bob ymgeisydd newydd ar ôl iddynt fod yn llwyddiannus yn y cyfweliad. Hysbysir yr ymgeiswyr fod eu manylion personol - enw, rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni – yn cael eu harchwilio yn erbyn y Gronfa Ddata Bygythiad Mewnol, fel un agwedd ar y broses sgrinio cyn cyflogi. Ni fyddwn yn cyflogi neb sydd wedi'i gynnwys yn y gronfa ddata oni bai eu bod yn gallu dangos amgylchiadau eithriadol.
Feedback will only be provided if you attend an interview or assessment.
Security
Successful candidates must undergo a criminal record check.People working with government assets must complete baseline personnel security standard (opens in new window) checks.Nationality requirements
This job is broadly open to the following groups:
- UK nationals
- nationals of the Republic of Ireland
- nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK
- nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) (opens in a new window)
- nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS)
- individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020
- Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service
Working for the Civil Service
The Civil Service Code (opens in a new window) sets out the standards of behaviour expected of civil servants.We recruit by merit on the basis of fair and open competition, as outlined in the Civil Service Commission's recruitment principles (opens in a new window).The Civil Service embraces diversity and promotes equal opportunities. As such, we run a Disability Confident Scheme (DCS) for candidates with disabilities who meet the minimum selection criteria.The Civil Service also offers a Redeployment Interview Scheme to civil servants who are at risk of redundancy, and who meet the minimum requirements for the advertised vacancy.
Diversity and Inclusion
The Civil Service is committed to attract, retain and invest in talent wherever it is found. To learn more please see theCivil Service People Plan (opens in a new window) and the Civil Service Diversity and Inclusion Strategy (opens in a new window).Apply and further information
This vacancy is part of the Great Place to Work for Veterans (opens in a new window) initiative.Once this job has closed, the job advert will no longer be available. You may want to save a copy for your records.Contact point for applicants
Job contact :
- Name : Early Careers Recruitment Team
- Email : EarlyCareers@cps.gov.uk
Recruitment team
- Email : EarlyCareers@cps.gov.uk
Further information
Comisiwn y Gwasanaeth SifilOs ydych chi’n anfodlon â’r broses recriwtio a’ch bod yn dymuno gwneud cwyn, cysylltwch â strategic.resourcing@cps.gov.uk gyda’ch pryderon.
Os ydych chi’n dal yn anfodlon ac yn dymuno gwneud cwyn arall, gallwch wneud hynny drwy dudalen gwynion Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.
Dyma egwyddorion recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.
Dim ond os byddwch yn cael cyfweliad ac asesiad terfynol y byddwn ni’n rhoi adborth.
Attachments
CPS Terms and Conditions Opens in new window (docx, 253kB)Salary range
- £30,700 - £32,110 per year