
Erlynydd y Goron (Ionawr 2026)
Job summary
Fel erlynydd y goron, rydych wedi’ch lleoli yn y llys ynadon, yn gweithio gyda thimau erlyn i adolygu a chyflwyno tystiolaeth mewn achosion sy’n amrywio o ymosodiad cyffredin i droseddau cyffuriau.
Rôl cyfreithiwr lefel mynediad yw swydd erlynydd y goron, mae’n ddelfrydol os ydych chi’n gyfreithiwr sydd newydd gymhwyso neu os nad oes gennych brofiad o gyfraith droseddol. Byddwch yn cael cyfoeth o brofiad yn y llys troseddol, gan ddatblygu eich gwybodaeth gyfreithiol a’ch gyrfa ymhellach.
I ddechrau, rydych yn gweithio ar achosion mwy syml ond dylech symud ymlaen yn gyflym i ddelio â gwaith achos mwy difrifol. Ar ôl cwblhau eich hyfforddiant erlynwyr y goron, gallwch gynghori’r heddlu ac ymchwilwyr eraill (ac eithrio cyngor cyn cyhuddo statudol), gwneud gwaith eiriolaeth, adolygu a pharatoi crynodebau achosion a materion neillffordd a glywir yn y llys ynadon.
Fel erlynydd y goron, mae eich rôl yn cynnwys eiriolaeth yn y Llys Ynadon, lle byddwch yn treulio'r rhan fwyaf o'ch amser yn erlyn yr ystod lawn o lysoedd. Bydd eich rôl yn cynnwys gweithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys yr heddlu, staff y llys a chyfreithwyr amddiffyn. Byddwch yn helpu dioddefwyr a thystion sy'n dod i'r llys i roi tystiolaeth mewn materion sy’n cael eu herio.
Byddwch yn elwa o gyfnod cynefino strwythuredig, cynllun hyfforddiant pedwar mis, ynghyd â chyfleoedd i gysgodi cydweithwyr ar draws y sefydliad. Ar ôl i chi gael rhagor o brofiad, mae gennych opsiynau i symud ymlaen i rolau uwch erlynydd y goron, eiriolwr y goron a rheolwr cyfreithiol.
Dysgwch beth mae ein herlynwyr y goron yn ei ddweud am weithio yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yn cps.gov.uk/careers/prosecutor.
Applicants for this campaign must be fluent in Welsh and English. Applications submitted in Welsh must be done without the help of a translation service. Any application submitted in Welsh is not treated less favourably than an application submitted in English.
Job description
Eich rolau a’ch cyfrifoldebau:
- Paratoi a chyflwyno achosion ar gyfer eu herlyn yn y llys ynadon
- Cynghori’r heddlu ac ymchwilwyr eraill ar waith achos mewn ystod eang o droseddau diannod yn unig a rhai troseddau neillffordd
- Penderfynu, ar sail tystiolaeth, a ddylid erlyn neu roi’r gorau i erlyn mewn materion a wrandewir yn y llys ynadon
- Egluro ein penderfyniadau’n glir wrth randdeiliaid gan gynnwys ynadon, bargyfreithwyr, dioddefwyr, tystion a’r heddlu
- Gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm aml-sgiliau
Mae dogfen disgrifiad swydd fanylach ynghlwm wrth yr hysbyseb hon.
Person specification
- Rhaid i chi fod wedi cymhwyso fel cyfreithiwr
- Rhaid i chi ddangos eich ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus, i wneud gwahaniaeth i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac i werthoedd Gwasanaeth Erlyn y Goron
- Rydych chi’n canolbwyntio ar ddatblygiad personol a datblygiad gyrfa
Applicants for this campaign must be fluent in Welsh and English.
Qualifications
Cymhwyster cyfreithiol: Rhaid i chi fod wedi cymhwyso fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr. Rhaid i chi allu cael Tystysgrif Ymarfer ddilys ar gyfer Cymru a Lloegr erbyn 16 Mawrth 2026.Academaidd: Rhaid i chi fod wedi cwblhau gradd yn y gyfraith, Arholiad Proffesiynol Cyffredin a/neu Ddiploma Graddedig yn y Gyfraith.
Proffesiynol: Rhaid i chi fod wedi cwblhau Cwrs Ymarfer Cyfreithiol, Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr neu Gwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar a’r tymor prawf a’r contract hyfforddiant perthnasol – neu wedi cael eich eithrio’n llawn gan y corff rheoleiddio proffesiynol perthnasol, naill ai’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr neu Fwrdd Safonau’r Bar.
neu
CILEx: Rhaid i chi fod yn Gymrawd CILEx ac yn Eiriolwr/Ymgyfreithiwr CILEx sy’n dal y tair tystysgrif eiriolaeth sy’n rhoi ‘cymhwyster cyffredinol’ i chi o fewn ystyr a.71 (3) (c) o Ddeddf Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990. Rhaid bod gennych hawl i ymddangos mewn perthynas ag unrhyw ddosbarth o achosion mewn unrhyw ran o’r Uwch Lysoedd, neu bob achos mewn llysoedd sirol neu lysoedd ynadon er mwyn bodloni’r gofynion ar gyfer Erlynydd y Goron a bennir gan adran 1 o Ddeddf Erlyn Troseddau 1985. Os nad oes gennych y cymhwyster CILEx hwn, nid ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd hon. Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cymhwyso drwy CILEx, cysylltwch â ni i gael gwybod a ydych yn gymwys ar gyfer y swydd hon.
Os byddwch yn gwneud cais ac os canfyddir nad ydych yn meddu ar unrhyw un o’r uchod, bydd unrhyw gynnig o gyflogaeth yn cael ei dynnu’n ôl, neu bydd y contract yn cael ei derfynu.
Ni dderbynnir cymwysterau cyfwerth. Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n gymwys ai peidio, cysylltwch â NationalLawyerRecruitment@cps.gov.uk
Rhaid i chi fod wedi cymhwyso fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr. Rhaid i chi allu cael Tystysgrif Ymarfer ddilys ar gyfer Cymru a Lloegr erbyn 16 Mawrth 2026. Os byddwch yn llwyddiannus, rhaid inni gael eich tystysgrif ymarfer cyn gynted â phosibl. Ni fyddwn yn gallu bwrw ymlaen ag archwiliadau cyn cyflogaeth nes bydd y dystysgrif ymarfer wedi dod i law, ac efallai y bydd dyddiad pendant yn cael ei roi ar gyfer ei chyflwyno yn unol ag anghenion y busnes. Os ydych chi’n gallu bodloni’r gofynion hyn erbyn y dyddiad hwn, rydych yn gymwys i wneud cais.
Behaviours
We'll assess you against these behaviours during the selection process:
- Making Effective Decisions
- Communicating and Influencing
Technical skills
We'll assess you against these technical skills during the selection process:
- Rhaid i chi fod â Gradd yn y Gyfraith, Arholiad Proffesiynol Cyffredin/Diploma Graddedig yn y Gyfraith.
- Rhaid i chi fod wedi cwblhau Cwrs Ymarfer Cyfreithiol, Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr neu Gwrs Galwedigaethol y Bar/Cwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar. Rhaid i chi fod wedi cwblhau’r tymor prawf / contract hyfforddiant perthnasol
- Rhaid i chi fod yn Fargyfreithiwr neu’n Gyfreithiwr cymwysedig
- Rhaid i chi ddangos cymhelliant
- Rhaid i chi ddangos lefel briodol o ddeallusrwydd cyfreithiol
Benefits
Alongside your salary of £44,520, Crown Prosecution Service contributes £12,897 towards you being a member of the Civil Service Defined Benefit Pension scheme. Find out what benefits a Civil Service Pension provides.Ymunwch â Gwasanaeth Erlyn y Goron i ganfod eich pwrpas
Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod ein gweithwyr yn gallu ffynnu yn y gwaith ac yn y cartref ac rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth i sicrhau cydbwysedd. Mae hyn yn cynnwys oriau gweithio hyblyg, hyblygrwydd i gefnogi cyfrifoldebau gofalu ac agwedd hyblyg at leoli. Er bod gan Wasanaeth Erlyn y Goron bolisi gweithio hybrid, mae rhai swyddi - gan gynnwys swydd erlynydd y goron - yn golygu bod yn y llys am yr wythnos waith lawn i gyflawni'r rôl a’r cyfrifoldebau.
Mae darparu cyfiawnder yn weithgaredd cymhleth gyda gwaith sydd weithiau’n heriol yn emosiynol, a dyna pam ein bod yn cynnig amrywiaeth o fuddion, gan gynnwys:
- pensiwn cyfrannol y Gwasanaeth Sifil o hyd at 28.9%
- 25 diwrnod o wyliau bob blwyddyn, yn codi i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth
- rhaglen hyfforddi cyfreithwyr
- diwrnod braint ychwanegol i nodi pen-blwydd y Brenin
- absenoldeb cystadleuol o ran mamolaeth, tadolaeth ac absenoldeb rhieni
- gweithio hyblyg ac agwedd at waith sy’n ystyriol o deuluoedd
- cynllun Seiclo i'r Gwaith, cynilion gweithwyr
- amrywiaeth o weithgareddau dysgu a datblygu, cyfrif dysgu unigol, a chyfleoedd datblygu canolog a lleol
Mae cyflog Gwasanaeth Erlyn y Goron yn amrywio yn dibynnu ar eich lleoliad.
Abertawe, Birmingham, Bryste, Caerdydd, Caergrawnt, Caerliwelydd, Caerlŷr, Caerwysg, Chippenham, Hull, Ipswich, Leeds, Lincoln, Manceinion, Middlesborough, yr Wyddgrug, Newcastle, Northampton, Norwich, Nottingham, Preston, Sheffield, Stoke-on-Trent, Swindon, Truro: £44,520 (cyflog cychwynnol), £47,720 (cyflog uchaf)
Brighton, Caergaint, Chelmsford, Eastleigh, Guildford, Portsmouth, Reading: £46,800 (cyflog cychwynnol), £50,000 (cyflog uchaf)
St Albans: £46,800 + £1,050 RRA (cyflog cychwynnol), £50,000 +1,050 RRA (cyflog uchaf)
Llundain: £46,800 + £3,150 RRA (cyflog cychwynnol), £50,000 + £3,150 (cyflog uchaf)
Dylech ddisgwyl ymuno ar y cyflog cychwynnol oni bai eich bod yn ymuno ar drosglwyddiad cydradd o un o adrannau eraill y llywodraeth.
Things you need to know
Artificial intelligence
Artificial intelligence can be a useful tool to support your application, however, all examples and statements provided must be truthful, factually accurate and taken directly from your own experience. Where plagiarism has been identified (presenting the ideas and experiences of others, or generated by artificial intelligence, as your own) applications may be withdrawn and internal candidates may be subject to disciplinary action. Please see our candidate guidance (opens in a new window) for more information on appropriate and inappropriate use.Selection process details
This vacancy is using Success Profiles (opens in a new window), and will assess your Behaviours, Strengths, Experience and Technical skills.Ceisiadau
CV
Cyflwynwch eich CV drwy Swyddi’r Gwasanaeth Sifil erbyn 11:55pm ddydd Llun 9 Chwefror 2026.
Mae angen i chi atodi eich CV fel un ddogfen ar ddim mwy na dwy dudalen A4. Ni fydd hwn yn cael ei asesu ond mae’n rhoi cipolwg i’r panel ar eich hanes gwaith a’ch profiad. Ni ddylai eich CV fod yn ddienw.
Dylai eich CV gynnwys:
- manylion cyswllt (cyfeiriad e-bost a rhif cyswllt)
- hanes gyrfa a chyfrifoldebau allweddol
- sgiliau a phrofiad
- cyflawniadau
- cymwysterau
Ni fydd eich CV yn cael ei farcio, fodd bynnag, bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y gofynion cymhwyso a bydd yn rhoi cipolwg i'r panel ar eich hanes gwaith a'ch profiad adeg eich asesu ac yn ystod y cyfweliad.
Mae angen i chi ddarparu’r wybodaeth benodol ar gyfer y cais yn y fformat y gofynnir amdano er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich ystyried ar gyfer y swydd.
Os na allwch roi tair blynedd o hanes cyflogaeth neu hanes academaidd, bydd angen geirda cymeriad arnoch at ddibenion clirio.
Data Personol
Yn unol â GDPR, peidiwch ag anfon unrhyw wybodaeth atom sy’n gallu datgelu hunaniaeth plant, nac unrhyw ddata personol sensitif amdanoch chi eich hun fel hil neu darddiad ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, data sy’n ymwneud ag iechyd neu fywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol, data genetig neu fiometrig yn eich CV a dogfennau eich cais.
Asesiad a Chyfweliad – o’r wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 2 Mawrth 2026 i ddydd Gwener 13 Mawrth 2026
Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwyso, cewch eich gwahodd i gyfarfod Microsoft Teams lle byddwch yn cwblhau asesiad cyfreithiol ac yna gyfweliad byr. Byddwch yn cael eich asesu a’ch cyfweld gan banel o gydweithwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron i asesu eich addasrwydd.
Beth a asesir yn yr Asesiad Cyfreithiol a’r Cyfweliad
Cymhelliant - asesir yn y cyfweliad:
Rydym eisiau deall pam mae gennych chi ddiddordeb yn y gyfraith a pham rydych chi eisiau gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron. Rydym yn disgwyl i chi roi sylw i'r tri pheth canlynol yn eich cais a’ch cyfweliad.
- Diddordeb amlwg ym maes erlyn troseddol a gwasanaeth cyhoeddus.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth amlwg o waith Gwasanaeth Erlyn y Goron a’n rôl yn y System Cyfiawnder Troseddol ehangach.
- Ffocws cryf ar ddysgu parhaus a'r gallu i gymhwyso gwybodaeth am gyfraith droseddol a gafwyd drwy astudio a phrofiad.
Gallu: Deallusrwydd Cyfreithiol – asesir yn ystod yr asesiad cyfreithiol:
Rydym eisiau deall eich galluoedd cyfreithiol a’ch dawn ym maes cyfraith droseddol. Rydym yn chwilio am y chwe pheth canlynol.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau ac egwyddorion allweddol cyfraith droseddol
- Crebwyll cyfreithiol dibynadwy a gwerthfawrogiad o risg gyfreithiol
- Yn gallu meddwl yn strategol ac yn greadigol, gweld materion cyfreithiol yn eu cyd-destun ehangach a chynghori yn unol â hynny
- Sgiliau dadansoddi cadarn, gan ddefnyddio ymchwil gyfreithiol ddiogel i gynhyrchu cyngor amserol ac addas i’r diben
- Sgiliau eiriolaeth
- Gwybodaeth a dealltwriaeth amlwg o waith Gwasanaeth Erlyn y Goron a’n rôl yn y system cyfiawnder troseddol ehangach
Ymddygiad - rydym yn defnyddio ymddygiad i'n helpu ni i ddeall eich profiad chi, er mwyn eich helpu chi i wneud gwaith gwych yn y rôl hon. Caiff ymgeiswyr am swydd erlynydd y goron eu hasesu yn erbyn lefel 3 yn fframwaith ymddygiadau proffiliau llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Rydym yn asesu dau ymddygiad.
- Gwneud penderfyniadau effeithiol (ymddygiad arweiniol) - asesiad a chyfweliad
- Cyfathrebu a dylanwadu - asesiad
Cofiwch - chi sy’n gyfrifol am drefnu eich slot ar gyfer yr asesiad a’r cyfweliad drwy Swyddi’r Gwasanaeth Sifil. Ar ôl i chi ddewis eich slot amser, byddwn yn anfon dolen Microsoft Teams atoch o leiaf 48 awr ymlaen llaw.
Gall y dyddiadau hyn newid ac nid yw bob amser yn bosibl cynnig dyddiadau eraill.
Mae amrywiaeth yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yn ymwneud â chynhwysiant, croesawu gwahaniaethau a sicrhau bod ein gweithlu wir yn adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethwn. Rydym eisiau i chi deimlo eich bod yn perthyn a’ch bod yn gallu ffynnu, beth bynnag fo’ch cefndir, eich hunaniaeth neu eich diwylliant. Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn hapus i gefnogi ceisiadau am addasiadau rhesymol a gwella eich profiad o’r broses recriwtio. Os hoffech chi i unrhyw addasiadau rhesymol gael eu gwneud i’n proses recriwtio, rhowch wybod i ni ar eich cais neu cysylltwch â nationallawyerrecruitment@cps.gov.uk
Gwerthoedd Gwasanaeth Erlyn y Goron
Rhaid i chi arddangos gwerthoedd Gwasanaeth Erlyn y Goron gydol y broses. Mae’r rhain i’w gweld ar ein gwefan.
Gwneud cynigion - o ddydd Llun 16 Mawrth ymlaen
Gallwch ddewis tri lleoliad swyddfa o'r rhestr a ddarperir. Os byddwch yn llwyddiannus, ein nod yw cynnig un o'ch dewisiadau yn y lle cyntaf. Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu ar gyfer eich dewisiadau o ran lleoliad, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn sefydliad cenedlaethol sydd â gwahaniaethau o ran adfer gweithrediadau, lefelau swyddi gwag a llwyth achosion ledled y wlad – sy’n golygu y gallech gael cynnig rôl mewn ardal Gwasanaeth Erlyn y Goron arall sydd y tu allan i’r ardal rydych yn ei ffafrio.
Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, cewch eich asesu a’ch cyfweld gan banel priodol a gwneir cynigion yn nhrefn teilyngdod.
Sylwch mai’r ymddygiad arweiniol yn ystod y cyfweliad yw gwneud penderfyniadau effeithiol. Efallai y byddwn yn defnyddio hyn i benderfynu ar drefn teilyngdod os oes gan ymgeiswyr yr un sgôr gyffredinol.
Os byddwch yn llwyddiannus a’ch bod eisoes yn gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron, byddwn yn gofyn am eirda gan eich rheolwr llinell ar ôl cynnig swydd i chi.
Os byddwch yn llwyddiannus, bydd eich CV yn cael ei anfon ymlaen at dîm yr Ardal i helpu i ddyrannu unedau.
Arall
Swydd amser llawn yw hon. Fodd bynnag, ystyrir ceisiadau am weithio hyblyg, rhan-amser a rhannu swydd – gan ystyried anghenion gweithredol y busnes.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi’i leoli yng Nghymru a Lloegr. Os ydych yn gwneud cais am y swydd hon ac yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i chi roi gwybod i ni wrth dderbyn y cynnig hwn gan fod angen caniatâd arnoch i weithio o’ch cyfeiriad cartref os yw gweithio hybrid yn rhan o’ch rôl. Yn anffodus, nid oes sicrwydd y rhoddir y gymeradwyaeth hon.
Mae’r swydd rydych yn gwneud cais amdani yn dod o dan Erthygl 3(a) o Orchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975, felly nid yw Adran 4(2) y Ddeddf honno’n berthnasol. Am y rhesymau a amlinellir mae’n ofynnol i chi ddatgelu pob euogfarn a rhybudd blaenorol, gan gynnwys euogfarnau sydd wedi darfod. Mae methu â gwneud datganiad llawn yn golygu y bydd cynnig o swydd yn cael ei dynnu’n ôl os bydd ein gwiriadau yn datgelu euogfarnau nad ydynt wedi cael eu datgelu.
Rhestr wrth gefn
Os bydd yr holl swyddi’n cael eu llenwi ar gyfer y lleoliadau o’ch dewis, byddwch yn cael eich rhoi ar restr wrth gefn. Efallai y cewch gynnig cyfle mewn lleoliad nad yw’n ddewis cyntaf gennych. Gwneir cynigion bob amser yn nhrefn teilyngdod.
Bydd y rhestr wrth gefn yn cael ei dileu 6 mis ar ôl cynnal y cyfweliadau ac ni ellir gwarantu swyddi ar gyfer eich dewis cyntaf.
Amserlen
Mae’n bosibl y bydd y dyddiadau sy’n cael eu hysbysebu yn newid ac efallai na fydd yn bosibl cynnig dyddiadau eraill ar gyfer asesiadau neu gyfweliadau.
Sesiynau Cwrdd ac Ymgysylltu
Rydym yn cynnal sesiwn holi ac ateb ar-lein tra bo’r swydd wag yn fyw. Dyma eich cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau am y rôl neu’r broses recriwtio. Gallwch gofrestru ar gyfer hon nawr.
- Dydd Mercher 21 Ionawr 2026 - 1PM-1:45PM - https://meetandengage.com/amj2tghos
- Dydd Iau 29 Ionawr 2026 - 1PM-1:45PM - https://meetandengage.com/amj2tnxlv
Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Gall Deallusrwydd Artiffisial fod yn adnodd defnyddiol i gefnogi eich cais, fodd bynnag, rhaid i'r holl enghreifftiau a datganiadau a ddarperir fod yn wir, yn ffeithiol gywir ac yn deillio’n uniongyrchol o'ch profiad eich hun. Pan ganfyddir achosion o lên-ladrad (cyflwyno syniadau a phrofiadau pobl eraill, neu syniadau a phrofiadau wedi’u cynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial, fel eich rhai chi) gellir tynnu ceisiadau’n ôl a gall ymgeiswyr mewnol wynebu camau disgyblu. Darllenwch ein canllawiau i ymgeiswyr i gael rhagor o wybodaeth am ddefnydd priodol ac amhriodol.
Archwiliad Twyll
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn darparu Hysbysiad Prosesu Teg i bob ymgeisydd newydd ar ôl iddynt fod yn llwyddiannus yn y cyfweliad. Rhoddir gwybod i’r ymgeiswyr hyn, fel un agwedd ar y broses sgrinio cyn cyflogi, fod eu manylion personol – enw, rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni – yn cael eu gwirio yn erbyn y Gronfa Ddata Twyll Mewnol. Gwrthodir cyflogaeth i unrhyw un sydd wedi’i gynnwys yn y gronfa ddata oni bai eu bod yn gallu dangos amgylchiadau eithriadol.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron, ar ran deiliad y swydd wag, yn rhoi gwybod i ymgeiswyr pan wrthodir cyflogaeth iddynt oherwydd eu bod wedi’u cynnwys ar y Gronfa Ddata Twyll Mewnol.
Comisiwn y Gwasanaeth Sifil
Os ydych chi’n anfodlon â’r broses recriwtio a’ch bod yn dymuno cwyno, cysylltwch â strategic.resourcing@cps.gov.uk gyda’ch pryderon.
Os ydych yn dal yn anfodlon ac yn dymuno gwneud cwyn arall, gallwch wneud hynny drwy dudalen gwyno Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.
Dyma egwyddorion recriwtio Comisiynwyr y Gwasanaeth Sifil.
Feedback will only be provided if you attend an interview or assessment.
Security
Successful candidates must undergo a criminal record check.People working with government assets must complete baseline personnel security standard (opens in new window) checks.Nationality requirements
This job is broadly open to the following groups:
- UK nationals
- nationals of the Republic of Ireland
- nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK
- nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) (opens in a new window)
- nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS)
- individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020
- Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service
Working for the Civil Service
The Civil Service Code (opens in a new window) sets out the standards of behaviour expected of civil servants.We recruit by merit on the basis of fair and open competition, as outlined in the Civil Service Commission's recruitment principles (opens in a new window).The Civil Service embraces diversity and promotes equal opportunities. As such, we run a Disability Confident Scheme (DCS) for candidates with disabilities who meet the minimum selection criteria.The Civil Service also offers a Redeployment Interview Scheme to civil servants who are at risk of redundancy, and who meet the minimum requirements for the advertised vacancy.
Diversity and Inclusion
The Civil Service is committed to attract, retain and invest in talent wherever it is found. To learn more please see theCivil Service People Plan (opens in a new window) and the Civil Service Diversity and Inclusion Strategy (opens in a new window).Apply and further information
This vacancy is part of the Great Place to Work for Veterans (opens in a new window) initiative.Once this job has closed, the job advert will no longer be available. You may want to save a copy for your records.Contact point for applicants
Job contact :
- Name : National Lawyer Recruitment Team
- Email : NationalLawyerRecruitment@cps.gov.uk
Recruitment team
- Email : strategic.resourcing@cps.gov.uk
Attachments
CPS Terms and Conditions 2025 Opens in new window (docx, 255kB)Crown Prosecutor - Job Description Opens in new window (pdf, 27kB)Salary range
- £44,520 - £50,000 per year