
Erlynydd y Goron (Mai 2026)
Job summary
Fel erlynydd y goron rydych wedi’ch lleoli yn y llys ynadon, yn gweithio gyda thimau erlyn i adolygu a chyflwyno tystiolaeth mewn achosion sy’n amrywio o ymosodiad cyffredin i droseddau cyffuriau.
Swydd erlynydd y goron yw ein rôl cyfreithiwr lefel mynediad, mae’n ddelfrydol os ydych chi’n gyfreithiwr sydd newydd gymhwyso neu os nad oes gennych brofiad o gyfraith droseddol. Byddwch yn cael cyfoeth o brofiad yn y llys troseddol, gan ddatblygu eich gwybodaeth gyfreithiol ymhellach a datblygu eich gyrfa.
I ddechrau, byddwch yn gweithio ar achosion symlach ond dylech symud ymlaen yn gyflym i ddelio â gwaith achos mwy difrifol. Ar ôl cwblhau eich hyfforddiant fel erlynydd y goron, gallwch gynghori’r heddlu ac ymchwilwyr eraill (ac eithrio cyngor cyn cyhuddo statudol), ymgymryd ag eiriolaeth, adolygu a pharatoi achosion yn gryno a materion neillffordd a glywir yn y llys ynadon.
Fel erlynydd y goron, mae eich rôl yn cynnwys eiriolaeth yn y llys ynadon, lle rydych chi’n treulio’r rhan fwyaf o’ch amser. Rydych chi’n gweithio gyda rhanddeiliaid gan gynnwys yr heddlu, staff y llys a chyfreithwyr yr amddiffyniad. Rydych yn cefnogi dioddefwyr a thystion sy’n dod i’r llys i roi tystiolaeth mewn materion a wrthwynebir.
Rydych chi’n elwa o gynllun hyfforddiant cynefino strwythuredig am bedwar mis a chyfleoedd i gysgodi cydweithwyr ar draws y sefydliad. Ar ôl i chi gael rhagor o brofiad, mae gennych opsiynau i symud ymlaen i rolau uwch erlynydd y goron, eiriolwr y goron a rheolwr cyfreithiol.
I gael gwybod beth mae erlynwyr y goron yn ei ddweud am weithio yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron ewch i cps.gov.uk/careers/prosecutor.
Job description
Eich rolau a’ch cyfrifoldebau:
- Paratoi a chyflwyno achosion i’w herlyn yn y llys ynadon
- Cynghori’r heddlu ac ymchwilwyr eraill ar waith achos mewn ystod eang o droseddau diannod yn unig a rhai troseddau neillffordd
- Penderfynu, ar sail tystiolaeth, a ddylid erlyn neu roi’r gorau i erlyn mewn materion a wrandewir yn y llys ynadon
- Egluro ein penderfyniadau’n glir wrth randdeiliaid gan gynnwys ynadon, cwnsleriaid, dioddefwyr, tystion a’r heddlu
- Gweithio’n effeithiol fel aelod o dîm aml-sgiliau.
Mae dogfen swydd-ddisgrifiad fanylach ynghlwm wrth yr hysbyseb hwn.
Person specification
- Rhaid i chi fod yn gyfreithiwr cymwysedig
- Rhaid i chi ddangos eich ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus, i wneud gwahaniaeth i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac i werthoedd Gwasanaeth Erlyn y Goron
- Rydych yn canolbwyntio ar ddatblygiad personol ac ar gamu ymlaen yn eich gyrfa
Qualifications
Legally qualified: You must be a qualified solicitor or barrister. You must be able to obtain a valid Practising Certificate for England and Wales by 29 June 2026.Academic: You must have a law degree, Common Professional Examination and/or Graduate Diploma in Law.
Professional: You must have completed a Legal Practice Course, Solicitors Qualifying Exam or Bar Professional Training Course and the relevant pupillage and training contract – or have received full exemption from the relevant professional regulatory body, either the Solicitors Regulation Authority or the Bar Standards Board.
or
CILEx: You must be a Fellow of CILEx and a CILEx Advocate/Litigator holding all three advocacy certificates providing you with a ‘general qualification’ within the meaning of s.71 (3) (c) Courts and Legal Services Act 1990. You must have a right of audience in relation to any class of proceedings in any part of the Senior Courts, or all proceedings in county courts or magistrates' courts in order to meet the requirements for a Crown Prosecutor specified by section 1 Prosecution of Offences Act 1985. If you don’t hold this CILEx qualification, you’re not eligible to apply for this vacancy. If you’re unsure whether you have qualified through CILEx, contact us to establish your eligibility for this role.
If you apply and are found not to possess any of the above, any offer of employment will be withdrawn, or contract terminated.
Equivalent qualifications won’t be accepted. If you’re unsure about your eligibility please contact NationalLawyerRecruitment@cps.gov.uk
If successful, we must receive your practising certificate as soon as possible. We will not be able to progress pre-employment checks until the practising certificate has been received, and a deadline for this may be set in line with business need. If you’re able to meet these requirements by this date, you’re eligible to apply.
Behaviours
We'll assess you against these behaviours during the selection process:
- Making Effective Decisions
- Communicating and Influencing
Technical skills
We'll assess you against these technical skills during the selection process:
- You must have a law degree or Common Professional Examination/Graduate Diploma in Law.
- You must have completed a Legal Practice Course, Solicitors Qualifying Exam or Bar Vocational Course/Bar Professional Training Course. You must have completed the relevant pupillage or training contract.
- You must be a qualified barrister or solicitor.
- You must demonstrate motivation.
- You must demonstrate the appropriate level of legal Intellect.
We only ask for evidence of these technical skills on your application form:
- You must have a law degree or Common Professional Examination/Graduate Diploma in Law.
- You must be a qualified barrister or solicitor.
Benefits
Alongside your salary of £44,520, Crown Prosecution Service contributes £12,897 towards you being a member of the Civil Service Defined Benefit Pension scheme. Find out what benefits a Civil Service Pension provides.Ymunwch â Gwasanaeth Erlyn y Goron a chanfod eich pwrpas
Rydyn ni eisiau sicrhau bod ein gweithwyr yn gallu ffynnu yn y gwaith a gartref, a chynigiwn amrywiaeth o gefnogaeth i sicrhau cydbwysedd. Mae hyn yn cynnwys hyblygrwydd o ran oriau gwaith, hyblygrwydd i’ch helpu gyda’ch cyfrifoldebau gofalu ynghyd ag agwedd hyblyg at leoli. Er bod gan Wasanaeth Erlyn y Goron bolisi gweithio hybrid, rhaid i rai rolau - gan gynnwys rôl erlynydd y goron - ddod i’r llys am yr wythnos waith lawn i gyflawni eu rôl a’u cyfrifoldebau.
Mae sicrhau cyfiawnder yn waith cymhleth a gall y gwaith hwnnw ar adegau fod yn emosiynol anodd, a dyna pam ein bod yn cynnig amrywiaeth o fuddion gan gynnwys:
- pensiwn cyfrannol y Gwasanaeth Sifil o hyd at 28.9%
- 25 diwrnod o wyliau, sy’n cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd
- rhaglen hyfforddi cyfreithwyr
- diwrnod braint ychwanegol i nodi pen-blwydd y Brenin
- absenoldeb mamolaeth, tadolaeth ac absenoldeb rhieni cystadleuol
- trefniadau gweithio hyblyg ac agwedd at waith sy’n ystyriol o deuluoedd
- cynllun Seiclo i’r Gwaith, cynilion gweithwyr
- amrywiaeth o weithgareddau dysgu a datblygu, cyfrif dysgu unigol, a chyfleoedd datblygu canolog a lleol
Mae cyflogau yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yn amrywio yn dibynnu ar eich lleoliad.
Dyfed-Powys, Gwent, Yr Wyddgrug, Caerdydd, Abertawe: £44,520 (cyflog cychwynnol), (£47,720 (cyflog uchaf).
Pethau y mae angen ichi wybod
Dylech ddisgwyl ymuno ar y cyflog cychwynnol oni bai eich bod yn ymuno ar drosglwyddiad cydradd o un o adrannau eraill y llywodraeth.
Mae gan Wasanaeth Erlyn y Goron gyfraddau sefydlog (yn hytrach nag ystod cyflog) ar gyfer ei radd Erlynydd y Goron - y Gyfradd Ddatblygu (y cyflog cychwynnol) a’r Gyfradd Unfan (y gyfradd ar gyfer y swydd). Fel arfer, bydd ymgeiswyr yn ymuno ar y Gyfradd Ddatblygu ac yn symud i'r Gyfradd Unfan ar ôl cwblhau rhaglen datblygu strwythuredig 12 mis yn llwyddiannus, ynghyd â chadarnhad gan eu rheolwr llinell eu bod wedi dangos y lefel ofynnol o gymhwysedd ar gyfer y rôl.
Presenoldeb Erlynwyr y Goron yn y llys
Mae swyddi Erlynwyr y Goron wedi’u lleoli yn y llys yn unig. Mae’n ofynnol i chi fynd i’r llys bob dydd, i gyflawni eich rôl. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac rydym wedi ymrwymo i wneud addasiadau rhesymol er mwyn gallu mynychu’r llys bob dydd.
Rydym yn eich annog i ystyried a yw’r daith o’ch cartref i’r swyddfa/llys yn bellter ymarferol i'w deithio cyn gwneud cais. Os byddwch yn llwyddiannus, bydd gweithio hybrid yn cael ei drafod cyn dechrau yn y swydd.
Things you need to know
Artificial intelligence
Artificial intelligence can be a useful tool to support your application, however, all examples and statements provided must be truthful, factually accurate and taken directly from your own experience. Where plagiarism has been identified (presenting the ideas and experiences of others, or generated by artificial intelligence, as your own) applications may be withdrawn and internal candidates may be subject to disciplinary action. Please see our candidate guidance (opens in a new window) for more information on appropriate and inappropriate use.Selection process details
This vacancy is using Success Profiles (opens in a new window), and will assess your Behaviours, Strengths, Experience and Technical skills.Cais
CV
Cyflwynwch eich CV drwy Swyddi’r Gwasanaeth Sifil erbyn 11:55pm ddydd Llun 01 Mehefin 2026.
Mae angen ichi atodi eich CV fel un ddogfen heb fod yn fwy na dwy dudalen A4. Ni fydd hwn yn cael ei asesu ond mae'n rhoi cipolwg i'r panel ar eich swyddi blaenorol a'ch profiad. Ni ddylai eich CV fod yn ddienw.
Dylai eich CV gynnwys:
- manylion cyswllt (cyfeiriad e-bost a rhif cyswllt)
- hanes eich gyrfa ynghyd â’ch cyfrifoldebau allweddol
- sgiliau a phrofiad
- llwyddiannau
- cymwysterau
- eich cod post
Ni fydd eich CV yn cael ei farcio, fodd bynnag, bydd yn cael ei ddefnyddio i weld a ydych yn gymwys ac mae’n rhoi i’r panel olwg ar eich hanes gwaith a’ch profiad yn yr asesiad a’r cyfweliad.
Cofiwch mai dim ond i helpu i ddyrannu tîm y bydd eich cod post yn cael ei ddefnyddio os bydd eich cais yn llwyddiannus. Ni fydd yn effeithio ar ganlyniad eich cais na’ch sgôr teilyngdod.
Mae angen i chi ddarparu yn y cais y wybodaeth benodol y gofynnir amdani yn y fformat cywir i sicrhau eich bod yn cael eich ystyried am y swydd.
Os na allwch ddarparu tair blynedd o hanes academaidd neu gyflogaeth, bydd angen geirda cymeriad arnoch at ddibenion clirio.
Data personol
Yn unol â GDPR, peidiwch ag anfon unrhyw wybodaeth atom sy’n gallu adnabod plant nac unrhyw ran o’ch data personol sensitif, fel tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, data sy’n ymwneud ag iechyd neu fywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol, data genetig neu fiometrig yn eich CV a’ch dogfen gais.
Asesiad a chyfweliad – o’r wythnos sy’n dechrau dydd Llun 15 Mehefin 2026 tan ddydd Gwener 26 Mehefin 2026
Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwyso, fe’ch gwahoddir i gyfarfod Microsoft Teams lle rydych yn cwblhau asesiad cyfreithiol ac yna gyfweliad byr. Byddwch yn cael eich asesu a’ch cyfweld gan banel o gydweithwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron i asesu pa mor addas ydych chi.
Beth a asesir yn y cyfweliad a’r asesiad cyfreithiol
Cymhelliant – asesir yn y cyfweliad:
Rydyn ni eisiau deall pam mae gennych chi ddiddordeb yn y gyfraith a pham eich bod chi eisiau gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron. Rydyn ni’n awyddus i chi roi sylw i’r tri pheth canlynol yn eich cais ac yn y cyfweliad.
- Diddordeb amlwg mewn erlyniad troseddol a gwasanaeth cyhoeddus.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth amlwg o waith Gwasanaeth Erlyn y Goron a’n rôl yn y system cyfiawnder troseddol ehangach.
- Ffocws pendant ar ddysgu parhaus a’r gallu i ddefnyddio gwybodaeth am y gyfraith troseddau a gafwyd drwy astudio a drwy eich profiad.
Gallu: Deallusrwydd Cyfreithiol - asesir yn yr asesiad cyfreithiol:
Rydym am ddeall eich galluoedd cyfreithiol a'ch dawn i ymdrin â’r gyfraith droseddol. Rydym yn chwilio am y chwe pheth canlynol.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau ac egwyddorion allweddol y gyfraith droseddol
- Crebwyll cyfreithiol dibynadwy a dealltwriaeth o risgiau cyfreithiol
- Yn gallu meddwl yn strategol ac yn greadigol, gweld materion cyfreithiol yn eu cyd-destun ehangach a chynghori yn unol â hynny
- Sgiliau dadansoddi cadarn, gan ddefnyddio ymchwil gyfreithiol ddiogel i gynhyrchu cyngor amserol ac addas i’r diben
- Sgiliau eiriolaeth
- Gwybodaeth amlwg a dealltwriaeth o waith Gwasanaeth Erlyn y Goron a’n rôl yn y system cyfiawnder troseddol ehangach
Ymddygiad – rydyn ni’n defnyddio ymddygiad i’n helpu i ddeall eich profiad, i’ch helpu chi i wneud gwaith gwych yn y swydd hon. Mae ymgeiswyr am swyddi erlynwyr y goron yn cael eu hasesu yn erbyn lefel 3 yn fframwaith ymddygiad proffiliau llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Rydym yn asesu dau ymddygiad.
- Gwneud penderfyniadau effeithiol (ymddygiad arweiniol) - asesiad a’r cyfweliad
- Cyfathrebu a dylanwadu - asesiad
Cofiwch - chi sy’n gyfrifol am drefnu eich slot ar gyfer y cyfweliad a’r asesiad drwy Swyddi’r Gwasanaeth Sifil. Ar ôl ichi ddewis slot amser sy’n hwylus ichi, rydym yn anfon dolen Microsoft Teams atoch o leiaf 48 awr ymlaen llaw.
Gall y dyddiadau hyn newid ac nid yw bob amser yn bosibl inni gynnig dyddiadau eraill.
Mae amrywiaeth yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yn ymwneud â chynhwysiant, croesawu gwahaniaethau a sicrhau bod ein gweithlu wir yn adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym am ichi deimlo eich bod yn perthyn ac yn gallu ffynnu, beth bynnag fo’ch cefndir, eich hunaniaeth neu’ch diwylliant. Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn hapus i gefnogi ceisiadau am addasiadau rhesymol a gwella eich profiad o’r broses recriwtio. Os hoffech i ni wneud unrhyw addasiadau rhesymol i’n proses recriwtio, rhowch wybod i ni yn eich cais neu cysylltwch â nationallawyerrecruitment@cps.gov.uk
Gwerthoedd Gwasanaeth Erlyn y Goron
Rhaid i chi ddangos gwerthoedd Gwasanaeth Erlyn y Goron drwy gydol y broses. Mae’r rhain ar gael ar ein gwefan.
Gwneud cynigion - o ddydd Llun 29 Mehefin
Gallwch ddewis tri lleoliad swyddfa o’r rhestr a ddarperir. Os byddwch yn llwyddiannus, ein nod yw cynnig un o'ch dewisiadau ichi yn y lle cyntaf. Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu ar gyfer y lleoliadau o’ch dewis, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn sefydliad cenedlaethol sydd â gwahaniaethau o ran adferiad gweithredol, lefelau swyddi gwag a llwythi achosion ledled y wlad - sy’n golygu y gallech gael cynnig swydd yn un o ardaloedd eraill Gwasanaeth Erlyn y Goron y tu allan i’ch dewis.
Mae cynigion yn cael eu gwneud yn nhrefn teilyngdod. Efallai y byddwn yn defnyddio’r prif ymddygiad gwneud penderfyniadau effeithiol i bennu trefn teilyngdod lle mae gan ymgeiswyr yr un sgôr gyffredinol.
Os byddwch yn llwyddiannus a’ch bod eisoes yn gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron, byddwn yn gofyn am eirda gan eich rheolwr llinell ar ôl cynnig swydd ichi.
Os byddwch chi’n llwyddiannus, bydd eich CV yn cael ei anfon ymlaen at dîm yr Ardal i helpu i ddyrannu unedau.
Arall
Mae hon yn swydd amser llawn. Fodd bynnag, mae ceisiadau am weithio hyblyg, gweithio’n rhan-amser a rhannu swydd yn cael eu hystyried - gan gofio anghenion gweithredol y busnes.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi’i leoli yng Nghymru a Lloegr. Os ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon ac yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i chi roi gwybod i ni wrth dderbyn y cynnig gan fod angen caniatâd arnoch i weithio o’ch cyfeiriad cartref os yw gweithio hybrid yn rhan o’ch swydd. Yn anffodus, nid oes sicrwydd y rhoddir y gymeradwyaeth hon.
Mae'r swydd yr ydych yn gwneud cais amdani yn dod o dan Erthygl 3(a) Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975, felly nid yw Adran 4(2) o’r Ddeddf honno’n berthnasol. Am y rhesymau a amlinellir, mae gofyn ichi ddatgelu pob euogfarn a rhybudd blaenorol, gan gynnwys euogfarnau sydd wedi darfod. Bydd methu â gwneud datganiad llawn yn arwain at dynnu’r cynnig o gyflogaeth yn ôl os bydd ein harchwiliadau’n datgelu euogfarnau sydd heb gael eu datgelu.
Rhestr Wrth Gefn
Os bydd yr holl swyddi’n cael eu llenwi ar gyfer y lleoliadau o’ch dewis, cewch eich rhoi ar restr wrth gefn. Efallai y cynigir cyfle ichi mewn lleoliad sydd y tu allan i’ch dewis cyntaf. Mae cynigion bob amser yn cael eu gwneud yn nhrefn teilyngdod.
Mae'r rhestr wrth gefn yn cael ei dileu 6 mis ar ôl cynnal y cyfweliadau ac ni ellir gwarantu swyddi ar gyfer eich dewis cyntaf.
Amserlen
Fe allai'r dyddiadau a hysbysebir newid ac efallai na fydd yn bosibl cynnig dyddiadau gwahanol ichi gael eich cyfweld a’ch asesu.
Sesiynau Hawl i Holi
Rydym yn cynnal sesiwn holi ac ateb ar-lein tra bydd y swydd wag yn fyw. Dyma eich cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau am y swydd neu am y broses recriwtio. Gallwch gofrestru ar gyfer y sesiwn hon nawr.
- 14 Mai 2026 - 1pm-1.45pm -https://meetandengage.com/amo1gvywp
- 26 Mai 2026 - 1pm-1.45pm -https://meetandengage.com/amo1h0o3w
Archwiliad twyll
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn darparu Hysbysiad Prosesu Teg i bob ymgeisydd newydd ar ôl iddynt fod yn llwyddiannus yn y cyfweliad. Hysbysir yr ymgeiswyr hyn, fel un agwedd ar y broses sgrinio cyn cyflogi, fod eu manylion personol - enw, rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni – yn cael eu gwirio yn erbyn y Gronfa Ddata Twyll Mewnol. Gwrthodir cyflogaeth i unrhyw un sydd ar y gronfa ddata oni bai eu bod yn gallu dangos amgylchiadau eithriadol.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron, ar ran deilydd y swydd wag, yn rhoi gwybod i ymgeiswyr pan wrthodir cyflogaeth iddynt oherwydd bod eu henw ar y Gronfa Ddata Twyll Mewnol.
Comisiwn y Gwasanaeth Sifil
Os ydych chi’n anfodlon â’r broses recriwtio a’ch bod yn dymuno gwneud cwyn, cysylltwch â strategic.resourcing@cps.gov.uk. gyda’ch pryderon.
Os ydych chi’n dal yn anfodlon ac yn dymuno gwneud cwyn arall, gallwch wneud hynny drwy dudalen gwynion Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.
Dyma ein hegwyddorion ar gyfer recriwtio i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil.
Feedback will only be provided if you attend an interview or assessment.
Security
Successful candidates must undergo a criminal record check.People working with government assets must complete baseline personnel security standard (opens in new window) checks.Nationality requirements
This job is broadly open to the following groups:
- UK nationals
- nationals of the Republic of Ireland
- nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK
- nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) (opens in a new window)
- nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS)
- individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020
- Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service
Working for the Civil Service
The Civil Service Code (opens in a new window) sets out the standards of behaviour expected of civil servants.We recruit by merit on the basis of fair and open competition, as outlined in the Civil Service Commission's recruitment principles (opens in a new window).The Civil Service embraces diversity and promotes equal opportunities. As such, we run a Disability Confident Scheme (DCS) for candidates with disabilities who meet the minimum selection criteria.The Civil Service also offers a Redeployment Interview Scheme to civil servants who are at risk of redundancy, and who meet the minimum requirements for the advertised vacancy.
Diversity and Inclusion
The Civil Service is committed to attract, retain and invest in talent wherever it is found. To learn more please see theCivil Service People Plan (opens in a new window) and the Civil Service Diversity and Inclusion Strategy (opens in a new window).Apply and further information
This vacancy is part of the Great Place to Work for Veterans (opens in a new window) initiative.Once this job has closed, the job advert will no longer be available. You may want to save a copy for your records.Contact point for applicants
Job contact :
- Name : National Lawyer Recruitment Team
- Email : NationalLawyerRecruitment@cps.gov.uk
Recruitment team
Attachments
Crown Prosecutor - Job Description Opens in new window (pdf, 27kB)CPS Terms and Conditions 2025 Opens in new window (docx, 258kB)Salary range
- £44,520 - £47,720 per year