Search
Header navigation
Uwch Erlynydd y Goron (Mai 2026)

Uwch Erlynydd y Goron (Mai 2026)

remoteHybrid
ExpiresExpires: Expiring in less than 4 weeks
Legal
Flexible
£55,975 - £63,500 per year

Job summary

Fel un o uwch erlynwyr y goron yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, rydych chi’n gweithio ar rai o’r achosion mwyaf cymhleth a heriol – o droseddau twyll ac arfau i droseddau trefn gyhoeddus a dynladdiad corfforaethol.

Mae uwch erlynwyr y goron yn gyfreithwyr profiadol, cymwys iawn sy’n meddu ar sgiliau pobl rhagorol ac sy’n frwd dros sicrhau cyfiawnder. Mae’r swydd hon wedi’i lleoli yn y swyddfa a/neu yn y llys yn bennaf. Rydych chi’n gyfrifol am adolygu tystiolaeth a gwneud penderfyniadau ynghylch a ddylid erlyn achos – yn unol â’n Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron. Rydych chi wedi eich lleoli mewn un o dair uned – llys ynadon, Llys y Goron neu uned treisio a throseddau rhywiol difrifol – yn dibynnu ar eich profiad.

Rydych chi’n cynrychioli Gwasanaeth Erlyn y Goron ar y rheng flaen, gan gydweithredu’n agos â chydweithwyr ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill, gan gynnwys yr heddlu a'r farnwriaeth. Rydych chi’n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gynnal hyder y cyhoedd yn ein gwaith.

Rydych chi’n elwa o gynllun hyfforddiant cynefino strwythuredig am bedwar mis a chyfleoedd i gysgodi cydweithwyr ar draws y sefydliad. Ar ôl ichi gael rhagor o brofiad, mae gennych chi opsiynau i symud ymlaen i swydd eiriolwr y goron a rheolwr cyfreithiol.

I gael gwybod beth mae uwch erlynwyr y goron yn ei ddweud am weithio yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron ewch i cps.gov.uk/careers/prosecutor.

Job description

Eich rolau a’ch cyfrifoldebau:

  • Cynghori’r heddlu ac ymchwilwyr eraill ar ofynion gwaith achos a thystiolaeth ar gyfer ystod eang o droseddau
  • Adolygu ffeiliau achos a phenderfyniadau ynghylch cyhuddo, darparu cyngor cyfreithiol a gwneud y penderfyniad terfynol, ar sail tystiolaeth, ynghylch a ddylid bwrw ymlaen i erlyn mewn achosion ar gyfer y llys ynadon a Llys y Goron
  • Gwneud gwaith eiriolaeth mewn perthynas ag achosion difrifol a sensitif yn y llysoedd ynadon gan gynnwys Llysoedd Ieuenctid, rhestrau’r llys lle rhagwelir ple dieuog, a threialon aml-ddiwrnod
  • Egluro ein penderfyniadau’n glir wrth randdeiliaid gan gynnwys ynadon, cwnsleriaid, dioddefwyr, tystion a’r heddlu
  • Gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm aml-sgiliau a meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf am droseddau

Timau’r erlyniad:

Mae gan bob ardal Gwasanaeth Erlyn y Goron dîm Llys y Goron, llys ynadon, a thîm trais rhywiol a throseddau rhywiol difrifol (RASSO). Fel uwch erlynydd y goron, mae disgwyl i chi allu gweithio yn unrhyw un o’r timau hyn er ein bod yn ystyried eich profiad a, lle bo’n bosibl, eich dewis personol cyn eich lleoli mewn tîm. Pa bynnag dîm y byddwch yn ymuno ag ef, cewch eich cefnogi gyda chynllun hyfforddi a chynefino manwl ar gyfer eich pedwar mis cyntaf gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Gan weithio yn ein tîm yn Llys y Goron, mae gennych lwyth achos personol o waith achos difrifol. Rydych yn rhoi cyngor ar gyhuddo i’r heddlu ar achosion y gwrandewir arnynt yn Llys y Goron, gan weithio gyda’n swyddogion paragyfreithiol a gyda’r cwnsler i baratoi achosion ar gyfer y llys.

Yn ein tîm llysoedd ynadon, rydych chi’n eiriolwr sy’n delio â’r ystod lawn o lysoedd gan gynnwys llysoedd treialon. Mae gennych lwyth achosion personol, rydych yn rhoi cyngor cyn cyhuddo i’r heddlu ar achosion llysoedd ynadon ac rydych yn paratoi achosion ar gyfer y llys. Efallai y byddwch yn gweithio ar dîm arbenigol fel tîm cam-drin domestig neu dîm ieuenctid.

Yn ein tîm RASSO, mae gennych lwyth achosion personol sy’n cynnwys trais rhywiol a throseddau rhywiol difrifol. Rydych chi’n rhoi cyngor dangosol cynnar a chyngor cyhuddo i’r heddlu ar achosion RASSO, gan weithio gyda’n staff paragyfreithiol a’n cwnsler i baratoi achosion ar gyfer y llys.

Mae dogfen swydd-ddisgrifiad fanylach ynghlwm wrth yr hysbyseb hwn.

Person specification

  • Hanfodol - Rhaid i chi fod ag o leiaf 12 mis o brofiad ym maes cyfraith trosedd neu brofiad amlwg o reoli achosion sensitif a chymhleth, gyda thystiolaeth glir ar eich CV.
  • Hanfodol - Rhaid i chi ddangos eich ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus, i wneud gwahaniaeth i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac i werthoedd Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Hanfodol - Rydych yn canolbwyntio ar ddatblygiad personol ac ar gamu ymlaen yn eich gyrfa

Qualifications

Legally qualified: You must be a qualified solicitor or barrister. You must be able to obtain a valid Practising Certificate for England and Wales by 29 June 2026.

Academic: You must have a law degree, Common Professional Examination and/or Graduate Diploma in Law.

Professional: You must have completed a Legal Practice Course, Solicitors Qualifying Exam or Bar Professional Training Course and the relevant pupillage and training contract – or have received full exemption from the relevant professional regulatory body, either the Solicitors Regulation Authority or the Bar Standards Board.

or

CILEx: You must be a Fellow of CILEx and a CILEx Advocate/Litigator holding all three advocacy certificates providing you with a ‘general qualification’ within the meaning of s.71 (3) (c) Courts and Legal Services Act 1990. You must have a right of audience in relation to any class of proceedings in any part of the Senior Courts, or all proceedings in county courts or magistrates' courts in order to meet the requirements for a Crown Prosecutor specified by section 1 Prosecution of Offences Act 1985. If you don’t hold this CILEx qualification, you’re not eligible to apply for this vacancy. If you’re unsure whether you have qualified through CILEx, contact us to establish your eligibility for this role.

If you apply and are found not to possess any of the above, any offer of employment will be withdrawn, or contract terminated.

Equivalent qualifications won’t be accepted. If you’re unsure about your eligibility please contact NationalLawyerRecruitment@cps.gov.uk

You must be a fully qualified solicitor or barrister by 29 June 2026. If successful, we must receive your practising certificate as soon as possible. We will not be able to progress pre-employment checks until the practising certificate has been received, and a deadline for this may be set in line with business need. If you’re able to meet these requirements by this date, you’re eligible to apply.

If there are any restrictions or special arrangements regarding your practising certificate, please inform us at the earliest opportunity by email.

Behaviours

We'll assess you against these behaviours during the selection process:

  • Making Effective Decisions
  • Communicating and Influencing

Technical skills

We'll assess you against these technical skills during the selection process:

  • You must have a law degree, Common Professional Examination and/or Graduate Diploma in law.
  • You must have completed a Legal Practice Course, Solicitors Qualifying Exam or Bar Vocational Course/Bar Professional Training Course and the relevant pupillage or training contract.
  • You must be a qualified barrister or solicitor.
  • You must demonstrate motivation.
  • You must demonstrate sufficient legal intellect
  • You must have a minimum of 12 months’ criminal law experience or demonstrable experience of managing sensitive and complex cases, clearly evidenced on your CV.

We only ask for evidence of these technical skills on your application form:

  • You must have a law degree, Common Professional Examination and/or Graduate Diploma in law.
  • You must have completed a Legal Practice Course, Solicitors Qualifying Exam or Bar Vocational Course/Bar Professional Training Course and the relevant pupillage or training contract.
  • You must be a qualified barrister or solicitor.
  • You must have a minimum of 12 months’ criminal law experience or demonstrable experience of managing sensitive and complex cases, clearly evidenced on your CV.

Benefits

Alongside your salary of £55,975, Crown Prosecution Service contributes £16,215 towards you being a member of the Civil Service Defined Benefit Pension scheme. Find out what benefits a Civil Service Pension provides.

Buddion

Rydyn ni eisiau sicrhau bod ein gweithwyr yn gallu ffynnu yn y gwaith a gartref, a chynigiwn amrywiaeth o gefnogaeth i sicrhau cydbwysedd. Mae hyn yn cynnwys hyblygrwydd o ran oriau gwaith, hyblygrwydd i’ch helpu gyda’ch cyfrifoldebau gofalu ynghyd ag agwedd hyblyg at leoli. Mae ein polisi gweithio hybrid yn mynnu eich bod yn treulio o leiaf 40% o oriau eich contract dros gyfnod o bedair wythnos yn y llys, mewn swyddfa neu mewn gweithle swyddogol arall yn dibynnu ar anghenion y busnes a’r math o waith rydych chi’n ei wneud.

Mae sicrhau cyfiawnder yn waith cymhleth a gall y gwaith hwnnw ar adegau fod yn emosiynol anodd, a dyna pam ein bod yn cynnig amrywiaeth o fuddion gan gynnwys:

  • pensiwn cyfrannol y Gwasanaeth Sifil o hyd at 28.9%
  • 25 diwrnod o wyliau, sy’n cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd
  • diwrnod braint ychwanegol i nodi pen-blwydd y Brenin
  • absenoldeb mamolaeth, tadolaeth ac absenoldeb rhieni cystadleuol
  • trefniadau gweithio hyblyg ac agwedd at waith sy’n ystyriol o deuluoedd
  • cynllun Seiclo i’r Gwaith, cynilion gweithwyr
  • amrywiaeth o weithgareddau dysgu a datblygu, cyfrif dysgu unigol, a chyfleoedd datblygu canolog a lleol.

Mae cyflogau yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yn amrywio yn dibynnu ar eich lleoliad.

Dyfed-Powys, Gwent, Yr Wyddgrug, Caerdydd, Abertawe: £55,975 (cyflog cychwynnol), £63,500 (cyflog uchaf)

Dylech ddisgwyl ymuno ar y cyflog cychwynnol oni bai eich bod yn ymuno ar drosglwyddiad cydradd o un o adrannau eraill y llywodraeth.

Things you need to know

Artificial intelligence

Artificial intelligence can be a useful tool to support your application, however, all examples and statements provided must be truthful, factually accurate and taken directly from your own experience. Where plagiarism has been identified (presenting the ideas and experiences of others, or generated by artificial intelligence, as your own) applications may be withdrawn and internal candidates may be subject to disciplinary action. Please see our candidate guidance (opens in a new window) for more information on appropriate and inappropriate use.

Selection process details

This vacancy is using Success Profiles (opens in a new window), and will assess your Behaviours, Strengths, Experience and Technical skills.

Cais

CV

Cyflwynwch eich CV drwy Swyddi’r Gwasanaeth Sifil erbyn 11.55pm ddydd Sul 01 Mehefin 2026.

Mae angen ichi atodi eich CV fel un ddogfen heb fod yn fwy na dwy dudalen A4. Ni fydd hwn yn cael ei asesu ond mae'n rhoi cipolwg i'r panel ar eich swyddi blaenorol a'ch profiad. Ni ddylai eich CV fod yn ddienw.

Dylai eich CV gynnwys:

  • manylion cyswllt (cyfeiriad e-bost a rhif cyswllt)
  • hanes eich gyrfa ynghyd â’ch cyfrifoldebau allweddol
  • sgiliau a phrofiad
  • llwyddiannau
  • cymwysterau
  • eich cod post

Ni fydd eich CV yn cael ei farcio, fodd bynnag, bydd yn cael ei ddefnyddio i weld a ydych yn gymwys ac mae’n rhoi i’r panel olwg ar eich hanes gwaith a’ch profiad yn yr asesiad a’r cyfweliad.

Cofiwch mai dim ond i helpu i ddyrannu tîm y bydd eich cod post yn cael ei ddefnyddio os bydd eich cais yn llwyddiannus. Ni fydd yn effeithio ar ganlyniad eich cais na’ch sgôr teilyngdod.

Mae angen i chi ddarparu yn y cais y wybodaeth benodol y gofynnir amdani yn y fformat cywir i sicrhau eich bod yn cael eich ystyried am y swydd.

Os na allwch ddarparu tair blynedd o hanes academaidd neu gyflogaeth, bydd angen geirda cymeriad arnoch at ddibenion clirio.

Data personol
Yn unol â GDPR, peidiwch ag anfon unrhyw wybodaeth atom sy’n gallu adnabod plant nac unrhyw ran o’ch data personol sensitif, fel tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, data sy’n ymwneud ag iechyd neu fywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol, data genetig neu fiometrig yn eich CV a’ch dogfen gais.

Asesiad a chyfweliad – o’r wythnos sy’n dechrau dydd Llun 15 Mehefin 2026 tan ddydd Gwener 26 Mehefin 2026

Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwyso, fe’ch gwahoddir i gyfarfod Microsoft Teams lle rydych yn cwblhau asesiad cyfreithiol ac yna gyfweliad byr. Byddwch yn cael eich asesu a’ch cyfweld gan banel o gydweithwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron i asesu pa mor addas ydych chi.

Beth a asesir yn y cyfweliad a’r asesiad cyfreithiol

Cymhelliant – asesir yn y cyfweliad:

Rydyn ni eisiau deall pam mae gennych chi ddiddordeb yn y gyfraith a pham eich bod chi eisiau gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron. Rydyn ni’n awyddus i chi roi sylw i’r tri pheth canlynol yn eich cais ac yn y cyfweliad.

  1. Diddordeb amlwg mewn erlyniad troseddol a gwasanaeth cyhoeddus.
  2. Gwybodaeth a dealltwriaeth amlwg o waith Gwasanaeth Erlyn y Goron a’n rôl yn y system cyfiawnder troseddol ehangach.
  3. Ffocws pendant ar ddysgu parhaus a bod yn gallu defnyddio gwybodaeth am y gyfraith droseddol a gafwyd drwy astudio a phrofiad.

Gallu: Deallusrwydd Cyfreithiol - asesir yn yr asesiad cyfreithiol:

Rydym am ddeall eich galluoedd cyfreithiol a'ch dawn i ymdrin â’r gyfraith droseddol. Rydym yn chwilio am y chwe pheth canlynol.

  1. Gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o gysyniadau ac egwyddorion allweddol y gyfraith droseddol.
  2. Crebwyll cyfreithiol dibynadwy a dealltwriaeth o risgiau cyfreithiol.
  3. Yn gallu meddwl yn strategol ac yn greadigol, gweld materion cyfreithiol yn eu cyd-destun ehangach a chynghori yn unol â hynny.
  4. Sgiliau dadansoddi cadarn, gan ddefnyddio ymchwil gyfreithiol ddiogel i gynhyrchu cyngor amserol ac addas i’r diben.
  5. Sgiliau eiriol ysgrifenedig a llafar rhugl.
  6. Gwybodaeth amlwg a dealltwriaeth o waith Gwasanaeth Erlyn y Goron a’n rôl yn y system cyfiawnder troseddol ehangach.

Ymddygiad – rydyn ni’n defnyddio ymddygiad i’n helpu i ddeall eich profiad, i’ch helpu chi i wneud gwaith gwych yn y swydd hon. Mae ymgeiswyr am swyddi uwch erlynwyr y goron yn cael eu hasesu yn erbyn lefel 4 yn fframwaith ymddygiad proffiliau llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Rydym yn asesu dau ymddygiad.

  1. Gwneud penderfyniadau effeithiol (ymddygiad arweiniol) - asesiad a’r cyfweliad
  2. Cyfathrebu a dylanwadu - asesiad

Cofiwch - chi sy’n gyfrifol am drefnu eich slot ar gyfer y cyfweliad a’r asesiad drwy Swyddi’r Gwasanaeth Sifil. Ar ôl ichi ddewis slot amser sy’n hwylus ichi, rydym yn anfon dolen Microsoft Teams atoch o leiaf 48 awr ymlaen llaw.

Gall y dyddiadau hyn newid ac nid yw bob amser yn bosibl inni gynnig dyddiadau eraill.

Mae amrywiaeth yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yn ymwneud â chynhwysiant, croesawu gwahaniaethau a sicrhau bod ein gweithlu wir yn adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym am ichi deimlo eich bod yn perthyn ac yn gallu ffynnu, beth bynnag fo’ch cefndir, eich hunaniaeth neu’ch diwylliant. Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn hapus i gefnogi ceisiadau am addasiadau rhesymol a gwella eich profiad o’r broses recriwtio. Os hoffech i ni wneud unrhyw addasiadau rhesymol i’n proses recriwtio, rhowch wybod i ni yn eich cais neu cysylltwch â nationallawyerrecruitment@cps.gov.uk.

Gwerthoedd Gwasanaeth Erlyn y Goron

https://www.cps.gov.uk/about-cps

Gwneud cynigion - o ddydd Llun 29 Mehefin 2026

Gallwch ddewis tri lleoliad swyddfa o’r rhestr a ddarperir. Os byddwch yn llwyddiannus, ein nod yw cynnig un o'ch dewisiadau ichi yn y lle cyntaf. Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu ar gyfer y lleoliadau o’ch dewis, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn sefydliad cenedlaethol sydd â gwahaniaethau o ran adferiad gweithredol, lefelau swyddi gwag a llwythi achosion ledled y wlad - sy’n golygu y gallech gael cynnig swydd yn un o ardaloedd eraill Gwasanaeth Erlyn y Goron y tu allan i’ch dewis.

Mae cynigion yn cael eu gwneud yn nhrefn teilyngdod. Efallai y byddwn yn defnyddio’r prif ymddygiad gwneud penderfyniadau effeithiol i bennu trefn teilyngdod lle mae gan ymgeiswyr yr un sgôr gyffredinol.

Os byddwch yn llwyddiannus a’ch bod eisoes yn gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron, byddwn yn gofyn am eirda gan eich rheolwr llinell ar ôl cynnig swydd ichi.

Mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr nad oes modd eu penodi i rôl uwch erlynydd y goron (gradd 7) yn cael cynnig rôl erlynydd y goron (gradd uwch swyddog gweithredol).

Os byddwch chi’n llwyddiannus, bydd eich CV yn cael ei anfon ymlaen at dîm yr Ardal i helpu i ddyrannu unedau.

Arall

Mae hon yn swydd amser llawn. Fodd bynnag, mae ceisiadau am weithio hyblyg, gweithio’n rhan-amser a rhannu swydd yn cael eu hystyried - gan gofio anghenion gweithredol y busnes. Mae'r swydd hon yn gymysgedd o weithio gartref, gweithio o swyddfa a theithio i lysoedd. Mae sut caiff hyn ei rannu yn dibynnu ar anghenion y busnes.

Rhaid i chi ystyried a yw’r daith o’ch cartref i’r swyddfa yn bellter ymarferol i deithio cyn gwneud cais. Os ydych yn llwyddiannus, trafodir hyn cyn i chi ddechrau yn y swydd.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi’i leoli yng Nghymru a Lloegr. Os ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon ac yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i chi roi gwybod i ni wrth dderbyn y cynnig gan fod angen caniatâd arnoch i weithio o’ch cyfeiriad cartref os yw gweithio hybrid yn rhan o’ch swydd. Yn anffodus, nid oes sicrwydd y rhoddir y gymeradwyaeth hon.

Mae'r swydd yr ydych yn gwneud cais amdani yn dod o dan Erthygl 3(a) Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975, felly nid yw Adran 4(2) o’r Ddeddf honno’n berthnasol. Am y rhesymau a amlinellir, mae gofyn ichi ddatgelu pob euogfarn a rhybudd blaenorol, gan gynnwys euogfarnau sydd wedi darfod. Bydd methu â gwneud datganiad llawn yn arwain at dynnu’r cynnig o gyflogaeth yn ôl os bydd ein harchwiliadau’n datgelu euogfarnau sydd heb gael eu datgelu.

Rhestr wrth gefn

Os bydd yr holl swyddi’n cael eu llenwi ar gyfer y lleoliadau o’ch dewis, cewch eich rhoi ar restr wrth gefn. Efallai y cynigir cyfle ichi mewn lleoliad sydd y tu allan i’ch dewis cyntaf. Mae cynigion bob amser yn cael eu gwneud yn nhrefn teilyngdod.

Mae’n bosibl y cewch gynnig cyfle i weithio ar ein tîm erlyn canolog – i gwblhau gwaith o bell ar gyfer ardaloedd busnes ledled Cymru a Lloegr. Os cewch gynnig o’r fath, bydd ar gael am gyfnod o 12 mis o leiaf gyda’r posibilrwydd o’i ymestyn i hyd at 24 mis. Pan ddaw hwn i ben, rydych yn dychwelyd yn barhaol i’ch ardal Gwasanaeth Erlyn y Goron eich hun.

Mae'r rhestr wrth gefn yn cael ei dileu 6 mis ar ôl cynnal y cyfweliadau ac ni ellir gwarantu swyddi ar gyfer eich dewis cyntaf.

Sylwch fod Wessex yn penodi ar gyfer rhestr wrth gefn yn unig.

Amserlen

Fe allai'r dyddiadau a hysbysebir newid ac efallai na fydd yn bosibl cynnig dyddiadau gwahanol ichi gael eich cyfweld a’ch asesu.

Sesiynau Hawl i Holi

Rydym yn cynnal sesiwn holi ac ateb ar-lein tra bydd y swydd wag yn fyw. Dyma eich cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau am y swydd neu am y broses recriwtio. Gallwch gofrestru ar gyfer y sesiwn hon nawr.

Archwiliad twyll
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn darparu Hysbysiad Prosesu Teg i bob ymgeisydd newydd ar ôl iddynt fod yn llwyddiannus yn y cyfweliad. Hysbysir yr ymgeiswyr hyn, fel un agwedd ar y broses sgrinio cyn cyflogi, fod eu manylion personol - enw, rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni – yn cael eu gwirio yn erbyn y Gronfa Ddata Twyll Mewnol. Gwrthodir cyflogaeth i unrhyw un sydd ar y gronfa ddata oni bai eu bod yn gallu dangos amgylchiadau eithriadol.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron, ar ran deilydd y swydd wag, yn rhoi gwybod i ymgeiswyr pan wrthodir cyflogaeth iddynt oherwydd bod eu henw ar y Gronfa Ddata Twyll Mewnol.

Comisiwn y Gwasanaeth Sifil
Os ydych chi’n anfodlon â’r broses recriwtio a’ch bod yn dymuno gwneud cwyn, cysylltwch â strategic.resourcing@cps.gov.uk. gyda’ch pryderon.

Os ydych chi’n dal yn anfodlon ac yn dymuno gwneud cwyn arall, gallwch wneud hynny drwy dudalen gwynion Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Dyma ein hegwyddorion ar gyfer recriwtio i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil.



Feedback will only be provided if you attend an interview or assessment.

Security

Successful candidates must undergo a criminal record check.People working with government assets must complete baseline personnel security standard (opens in new window) checks.

Nationality requirements

This job is broadly open to the following groups:

  • UK nationals
  • nationals of the Republic of Ireland
  • nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK
  • nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) (opens in a new window)
  • nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS)
  • individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020
  • Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service
Further information on nationality requirements (opens in a new window)

Working for the Civil Service

The Civil Service Code (opens in a new window) sets out the standards of behaviour expected of civil servants.

We recruit by merit on the basis of fair and open competition, as outlined in the Civil Service Commission's recruitment principles (opens in a new window).The Civil Service embraces diversity and promotes equal opportunities. As such, we run a Disability Confident Scheme (DCS) for candidates with disabilities who meet the minimum selection criteria.The Civil Service also offers a Redeployment Interview Scheme to civil servants who are at risk of redundancy, and who meet the minimum requirements for the advertised vacancy.

Diversity and Inclusion

The Civil Service is committed to attract, retain and invest in talent wherever it is found. To learn more please see theCivil Service People Plan (opens in a new window) and the Civil Service Diversity and Inclusion Strategy (opens in a new window).

Apply and further information

This vacancy is part of the Great Place to Work for Veterans (opens in a new window) initiative.Once this job has closed, the job advert will no longer be available. You may want to save a copy for your records.

Contact point for applicants

Job contact :

Recruitment team

Attachments

CPS Terms and Conditions 2025 (1) Opens in new window (docx, 255kB)Senior Crown Prosecutor - Job Description Opens in new window (pdf, 31kB)

Salary range

  • £55,975 - £63,500 per year