This job has expired on Jobs Go Public.
This may be due to the employer reviewing received applications or no longer actively hiring for this role.
Cynorthwyydd Addysgu (Lefel 3)

Caerphilly (On-Site)
Permanent, Part time
NJC Gradd 5 £19,764 (SCP 7) - £21,066 (SCP 11)
32.5
Cynorthwywyr Addysgu x 2 (Lefel 3 neu yn gweithio tuag at Lefel 3)
x1 swydd Rhan Amser Parahol
x1 swydd Rhan Amser - Cytundeb Blwyddyn
Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos
Cyflog: NJC Gradd 5
Yn eisiau ar gyfer 01.09.25
Dymuna Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Y Castell apwyntio Cynorthwywyr Addysgu i weithio yn yr ysgol flaengar hon.
Rydym am benodi ymarferwyr ymroddedig a brwdfrydig a fydd yn:
- gweithio’n frwd fel rhan o dîm cryf.
- cefnogi dysgu disgyblion yn nosbarthiadau’r ysgol dan oruchwyliaeth ac arweiniad yr athro dosbarth.
- cynorthwyo'r athro yn y cylch cynllunio ac asesu ac wrth reoli a pharatoi adnoddau.
- arwain gwaith 1-1 ac mewn sefyllfaoedd grŵp gyda disgyblion targedig ar draws yr ysgol.
- meddu ar sgiliau rhyngbersonol da a gallu gweithio'n hyblyg ac yn adeiladol fel rhan o dîm.
- darparu profiadau rhagorol i unigolion a grwpiau o ddysgwyr ifanc y tu mewn a thu allan i'r ystafell ddosbarth.
- meddu ar ddealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm Cenedlaethol.
- gallu gwerthfawrogi a chefnogi rôl gweithwyr proffesiynol eraill.
- barod i gymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol a chyfleoedd hyfforddi.
- gallu gweithio o dan gyfarwyddyd yr athro dosbarth i sicrhau bod dysgu o ansawdd uchel yn digwydd.
- gweithio’n sensitif gyda rhieni i sicrhau lles pob disgybl.
- goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn achlysurol pan fydd athrawon yn absennol yn y byrdymor.
- sicrhau cyfrinachedd bob amser a dilyn gweithdrefnau.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 2.5.25
Cyfweliadau: WD 19.5.25
I ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol ar 02920 864790. Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau i :
Mr G Hughes, Pennaeth,
Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell
Heol Cilgant
Caerffili
CF83 1WH
neu trwy e-bost at YGGYcastell@sch.caerphilly.gov.uk
Neu, gwnewch gais trwy eteach.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person dewiswch yr atodiad perthnasol o'r rhestr atodiadau.
Am fanylion pellach neu sgwrs anffurfiol, ffoniwch 02920 864790
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i’r holl staff Cymorth Dysgu (sy’n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016.
Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o’ch cofrestriad a’ch cofrestriad parhaol, fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar y wefan hon https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/ neu drwy ffonio 02920 460099. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.