
4137 - Rheolwr Terminoleg - Cymraeg yn hanfodol
Job summary
Mae’r swydd hon yn gyfrifol am gyfrannu at waith yr Uned Ddatblygu i ddarparu cefnogaeth, arweiniad ac adnoddau i Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru. Dyma’r uned sy’n gyfrifol am ddarparu arweiniad a chefnogaeth i’r Gwasanaeth Cyfieithu cyfan – a’r Llywodraeth yn ehangach – ar faterion yn ymwneud ag arddull cyfieithu, terminoleg, sicrhau ansawdd, datblygu sgiliau cyfieithu proffesiynol, a hyrwyddo’r Gwasanaeth fel canolfan ragoriaeth.
Job description
Prif amcanion y swydd yw:
- Cynnal ymchwil terminolegol a rhoi cyngor arbenigol ar dermau yn y Gymraeg, gan sicrhau y gwneir penderfyniadau gwydn o ansawdd uchel, yn unol â safonau ac egwyddorion cydnabyddedig y maes
- Cynnal a chynorthwyo i ddatblygu adnoddau terminoleg blaenllaw’r Gwasanaeth Cyfieithu, gan gynnwys cronfa gyhoeddus TermCymru ac adnoddau terminoleg eraill BydTermCymru, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod â hygrededd uchel, ac yn bodloni gofynion y defnyddwyr
- Hyrwyddo arferion safonol a datblygiad o ran terminoleg ac enwau lleoedd yn y Gwasanaeth Cyfieithu ac o fewn Llywodraeth Cymru’n ehangach.
Rhoddir hyfforddiant llawn ym meysydd gwaith terminoleg ac enwau lleoedd i’r ymgeisydd llwyddiannus.
Person specification
Terminoleg
- Cefnogi’r Arweinydd Terminoleg i gynnal prosesau safoni terminoleg, trwy gyflawni ymchwil ac ymgynghori trylwyr a pharatoi cynigion, ar gyfer dogfennau â phroffil neu risg uchel (gan gynnwys deddfwriaeth sylfaenol)
- Darparu cyngor rhagweithiol ar derminoleg mewn dogfennau â phroffil neu risg uchel, neu rai sy’n cynnwys problemau terminoleg newydd/cymhleth, trwy gribo am dermau, cyflawni ymchwil ac ymgynghori trylwyr a pharatoi cynigion
- Cynghori ar derminoleg mewn ymateb i geisiadau ad hoc gan gyfieithwyr ac eraill
- Cynghori ar derminoleg mewn ymateb i geisiadau brys gan Weinidogion
- Paratoi cofnodion addas ar gyfer y gronfa dermau, a gwirio ansawdd allforiadau o’r gronfa
- Cefnogi’r Arweinydd Terminoleg i ddatblygu canllawiau ac arweiniad ar agweddau penodol ar derminoleg a materion cysylltiedig
- Cynorthwyo i gynnal ansawdd y penderfyniadau a’r argymhellion a wneir, gan gynnwys:
- Sicrhau bod penderfyniadau ac argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac egwyddorion cydnabyddedig, a bod y rhesymeg yn cael ei hesbonio’n glir
- Trafod yn ôl yr angen â rhanddeiliaid ac arbenigwyr mewnol ac allanol, gan gynnwys cydweithwyr yn y Gwasanaeth Cyfieithu, arbenigwyr iaith/terminoleg, arbenigwyr cyfreithiol, ac arbenigwyr polisi/pwnc
- Cadw cofnod o’r penderfyniadau, a’r ymchwil a’r drafodaeth sy’n sail iddynt, a sicrhau bod trywydd archwilio clir ar gael
- Sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu cymeradwyo ar y lefelau priodol, yn enwedig pan fyddant yn wleidyddol sensitif neu’n ddadleuol.
Enwau lleoedd ac arwyddion ffyrdd
- Ymchwilio a drafftio cyngor ar ffurfiau safonol enwau lleoedd i’r Gwasanaeth Cyfieithu a Llywodraeth Cymru yn ehangach, gan ddilyn egwyddorion cydnabyddedig
- Cefnogi’r Arweinydd Terminoleg ar waith Panel Safoni Enwau Lleoedd Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, gan ddirprwyo ar ei ran yn ôl y gofyn
- Ymchwilio a drafftio cyngor ar destun Cymraeg arwyddion ffyrdd, gan ddilyn egwyddorion cydnabyddedig.
Systemau ac adnoddau
- Cynnal prosiectau i sicrhau bod cofnodion TermCymru’n gyfredol, o ansawdd uchel, ac yn gyson
- Sicrhau y rhoddir cyhoeddusrwydd addas i adnoddau a datblygiadau terminolegol y Gwasanaeth Cyfieithu ymhlith rhanddeiliaid mewnol ac allanol
- Cefnogi’r Arweinydd Terminoleg i sicrhau bod yr adnoddau terminoleg yn addas i’r diben, yn cefnogi’r cyfieithwyr i’r graddau mwyaf posibl, ac ar gael yn gyhoeddus
- Cynnal cyflwyniadau a darparu hyfforddiant ar ddefnyddio’r pecynnau a’r systemau a gynhelir gan yr Uned Ddatblygu, ee y gronfa dermau, TermCymru, BydTermCymru
- Cyfathrebu â sefydliadau allanol (ee Yr Uned Technoleg Iaith ym Mhrifysgol Bangor, Geiriadur Prifysgol Cymru, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol eraill), er mwyn rhannu a dysgu am arferion da wrth ym meysydd terminoleg ac enwau lleoedd
- Meithrin arbenigedd er mwyn cefnogi a chynghori ar ddefnydd addas o offer technolegol ym maes rheoli terminoleg, gan gynnwys systemau a phrosesau priodol ar gyfer cribo termau, trafod a safoni termau gan sicrhau trywydd archwilio manwl, cynnal cronfeydd termau, a chyhoeddi a lledaenu termau.
Cyffredinol
- Cydweithio â'r Swyddog Datblygu ar faterion a thasgau pan fo’r swyddog hwnnw yn cefnogi’r gwaith terminoleg, gan ddirprwyo yn ôl y gofyn
- Cynorthwyo’r Arweinydd Terminoleg i gynllunio rhaglen waith a phrosiectau unigol, gan ddirprwyo ar ei ran yn ôl y gofyn
- Gan ddibynnu ar gryfderau’r unigolyn ac anghenion busnes y Gwasanaeth, arwain a/neu gyfrannu at swyddogaethau a phrosiectau y mae’r Gwasanaeth yn ymwneud â nhw, gan gynnwys cyflwyno technolegau cyfieithu a CAP (Cyfieithu ar y Pryd) newydd, prosesau caffael gwasanaethau cyfieithu, rhoi cyflwyniadau i fyfyrwyr ac ymwelwyr
- Gwneud unrhyw dasg resymol arall ar gais Pennaeth yr Uned Ddatblygu neu Bennaeth y Proffesiwn.
Qualifications
Gradd neu gymhwyster cyfatebol (e.e. gradd-brentisiaeth, dyfarniad lefel 6 neu NVQ lefel 6) mewn iaith, ieithyddiaeth, neu unrhyw bwnc perthnasol arall, ynghyd â phrofiad o weithio yn broffesiynol ym maes y Gymraeg fel cyfieithydd neu olygydd neu mewn swydd sy’n gofyn am sgiliau Cymraeg o’r radd flaenafLanguages
Gofynion y GymraegGofynion y Gymraeg
1 - Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y rôl hon wedi'u nodi isod. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu fel rhan o’r broses ddethol. I gael rhagor o wybodaeth am lefelau yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan.
Deall drwy ddarllen
5 - Gallu deall yn llwyr yr holl ddeunyddiau sy’n ymwneud â gwaith
Siarad a chael eu deall
5 - Rhugl
Deall drwy wrando
5 - Gallu deall pob sgwrs sy’n ymwneud â gwaith
Ysgrifennu a chael eu deall
5 - Gallu ysgrifennu deunydd ysgrifenedig ar gyfer yr holl faterion sy’n ymwneud â gwaith
Behaviours
We'll assess you against these behaviours during the selection process:
- Seeing the Big Picture
- Developing Self and Others
- Making Effective Decisions
Technical skills
We'll assess you against these technical skills during the selection process:
- Sgiliau iaith cadarn yn y Gymraeg a'r Saesneg, a'r gallu i ddadansoddi materion ieithyddol a therminolegol yn y ddwy iaith.
- Y gallu i ddod i gasgliadau priodol gan ystyried tystiolaeth berthnasol a darparu cyngor addas i swyddogion ar bob lefel.
- Sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn ynghyd â’r gallu a’r parodrwydd i’w datblygu ymhellach.
Benefits
- Learning and development tailored to your role
- An environment with flexible working options
- A culture encouraging inclusion and diversity
- A Civil Service pension with an employer contribution of 28.97%
Things you need to know
Artificial intelligence
Artificial intelligence can be a useful tool to support your application, however, all examples and statements provided must be truthful, factually accurate and taken directly from your own experience. Where plagiarism has been identified (presenting the ideas and experiences of others, or generated by artificial intelligence, as your own) applications may be withdrawn and internal candidates may be subject to disciplinary action. Please see our candidate guidance (opens in a new window) for more information on appropriate and inappropriate use.Selection process details
This vacancy is using Success Profiles (opens in a new window), and will assess your Behaviours, Strengths, Experience and Technical skills.Mae Llywodraeth Cymru, fel pob un o Adrannau eraill y Llywodraeth, yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant wrth recriwtio. Ar gyfer pob rôl, byddwn yn ystyried yr hyn y bydd angen i chi ei ddangos er mwyn llwyddo. Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau posibl i ni ddod o hyd i’r person iawn ar gyfer y swydd. Mae’n gwella perfformiad ac yn gwella amrywiaeth a chynhwysiant.
Dyma’r broses a’r camau dethol:
Nifer y Camau:Proses 3 chamCam 1CaisCam 2Prawf ar-leinCam 3CyfweliadFeedback will only be provided if you attend an interview or assessment.
Security
Successful candidates must undergo a basic (or equivalent) criminal record check.People working with government assets must complete baseline personnel security standard (opens in new window) checks.Nationality requirements
This job is broadly open to the following groups:
- UK nationals
- nationals of the Republic of Ireland
- nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK
- nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) (opens in a new window)
- nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS)
- individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020
- Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service
Working for the Civil Service
The Civil Service Code (opens in a new window) sets out the standards of behaviour expected of civil servants.We recruit by merit on the basis of fair and open competition, as outlined in the Civil Service Commission's recruitment principles (opens in a new window).The Civil Service embraces diversity and promotes equal opportunities. As such, we run a Disability Confident Scheme (DCS) for candidates with disabilities who meet the minimum selection criteria.
Diversity and Inclusion
The Civil Service is committed to attract, retain and invest in talent wherever it is found. To learn more please see theCivil Service People Plan (opens in a new window) and the Civil Service Diversity and Inclusion Strategy (opens in a new window).Apply and further information
This vacancy is part of the Great Place to Work for Veterans (opens in a new window) initiative.Once this job has closed, the job advert will no longer be available. You may want to save a copy for your records.Contact point for applicants
Job contact :
- Name : Swyddi.Cyfieithu@llyw.cymru
- Email : Swyddi.Cyfieithu@llyw.cymru
Recruitment team
- Email : sharedservicehelpdesk@gov.wales
Further information
Gwybodaeth Bellach:Egwyddorion a chwynion recriwtio Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Edrychwch ar egwyddorion recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan y Comisiwn. Os ydych chi’n teimlo nad yw eich cais wedi cael ei drin yn unol â’r egwyddorion hyn a’ch bod yn dymuno gwneud cwyn, anfonwch e-bost at cwynion@llyw.cymru.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at gyfeirnod y swydd wag. Os nad ydych chi’n fodlon â’r ymateb a gewch gan Lywodraeth Cymru, gallwch gysylltu â Chomisiwn y Gwasanaeth Sifil: info@csc.gov.uk.
Salary range
- £37,111 - £45,378 per year