Search
Header navigation
4145 - Swyddog Cymorth Busnes (Cymraeg yn Hanfodol)

4145 - Swyddog Cymorth Busnes (Cymraeg yn Hanfodol)

locationWales, UK
remoteHybrid
ExpiresExpires: Expiring in less than 2 weeks
Administration
£27,302 - £29,291 per year

Job summary

Mae hwn yn gyfle arbennig i chi weithio ar lefel Cymorth Tîm yn y Gwasanaeth Cyfieithu i ddarparu gwasanaeth dwyieithog (Cymraeg a Saesneg), proffesiynol a chyfeillgar i’n cwsmeriaid. Ni fydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus wneud unrhyw waith cyfieithu fel rhan o’r swydd.

Job description

Yr Uned Fusnes yw pwynt cyswllt cyntaf staff Llywodraeth Cymru â'r Gwasanaeth Cyfieithu. Byddwch yn gwneud cyfraniad allweddol felly at gefnogi'r sefydliad i weithio'n ddwyieithog, gan gynnwys cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg a Rheolau Sefydlog y Senedd.

Byddwch yn defnyddio systemau TG (Technoleg Gwybodaeth) arbenigol i ddadansoddi a pharatoi dogfennau ar gyfer y broses gyfieithu; yn darparu cymorth busnes i’r tîm rheoli a’r cyfieithwyr yn gyffredinol; yn helpu gyda'r offer cyfieithu ar y pryd yn ôl y gofyn, yn cysylltu â chyfieithwyr mewnol ac allanol, ac yn cydlynu’r gwaith cyfieithu allanol.

Person specification

Cefnogi prosiectau cyfieithu (cyfieithu cyffredinol a deddfwriaethol, a chyfieithu ar y pryd)

  • Bod yn gyfrifol am fonitro a blaenoriaethu ceisiadau am wasanaethau cyfieithu.
  • Ymateb yn brydlon i geisiadau, gan drafod â’r cwsmer yn ôl y galw er mwyn cael y wybodaeth angenrheidiol (ee dyddiadau dychwelyd a gofynion penodol) ar gyfer darparu gwasanaeth safonol ac amserol.
  • Paratoi prosiectau cyfieithu yn seiliedig ar geisiadau gan gwsmeriaid - dadansoddi pob cais yn drylwyr, gwirio bod pob cais yn dod o fewn cylch gwaith y Gwasanaeth Cyfieithu a thrafod y gwaith ag arweinwyr y timau cyfieithu.
  • Dilyn y camau sydd yn eu lle i baratoi'r gwaith mewn ffordd sy'n sicrhau proses gyfieithu effeithlon, ee drwy ddefnyddio meddalwedd cyfieithu i ddadansoddi a pharatoi prosiectau cyfieithu.
  • Dilyn prosesau sy'n gyson ag arferion ar draws yr Uned Fusnes wrth brosesu ceisiadau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, eu cofnodi’n gywir a thynnu sylw at unrhyw bethau anarferol, gan awgrymu gwelliannau i’r prosesau os gwelwch gyfle.
  • Defnyddio’r fframwaith cyfieithu a chyfieithu ar y pryd i gomisiynu gwaith gyda chwmnïau yn allanol, a bod yn bwynt cyswllt cyntaf i gyflenwyr allanol.
  • Dilyn rota gwaith yr Uned Fusnes i sicrhau gwasanaethau di-dor yn ystod oriau swyddfa (08:30 tan 16:30)

Cefnogi’r busnes

  • Cyflawni tasgau amrywiol sy'n cael eu rhannu rhwng aelodau'r Uned Fusnes, ee trefnu cyfarfodydd a chyflwyniadau, cadw cofnodion, archebu offer a nwyddau swyddfa, a helpu i osod a chynnal offer cyfieithu ar y pryd.
  • Datblygu a defnyddio systemau corfforaethol yn ogystal â systemau TG arbenigol sy'n allweddol i waith y Gwasanaeth Cyfieithu (ee defnyddio meddalwedd cof cyfieithu i greu prosiectau, cysoni a pharatoi dogfennau i’w defnyddio yn y cof cyfieithu, a mewnforio ac allforio cofau cyfieithu a ddarperir ar gyfer neu gan ein cyflenwyr allanol).
  • Cynorthwyo gydag unrhyw agwedd arall ar weinyddiaeth a phrosiectau corfforaethol cyffredinol y gangen, yn unol â chyfarwyddiadau’r rheolwr llinell neu staff uwch.

Languages

Gofynion y Gymraeg
Gofynion y Gymraeg
1 - Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y rôl hon wedi'u nodi isod. Bydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu fel rhan o’r broses ddethol. I gael rhagor o wybodaeth am lefelau yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan.
Deall drwy ddarllen
4 - Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunyddiau sy’n ymwneud â gwaith
Siarad a chael eu deall
4 - Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sgyrsiau sy’n ymwneud â gwaith
Deall drwy wrando
4 - Gallu deall y rhan fwyaf o sgyrsiau sy’n ymwneud â gwaith
Ysgrifennu a chael eu deall
4 - Gallu paratoi’r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn Gymraeg

Behaviours

We'll assess you against these behaviours during the selection process:

  • Communicating and Influencing
  • Delivering at Pace
  • Leadership

Benefits

  • Learning and development tailored to your role
  • An environment with flexible working options
  • A culture encouraging inclusion and diversity
  • A Civil Service pension with an employer contribution of 28.97%

Things you need to know

Artificial intelligence

Artificial intelligence can be a useful tool to support your application, however, all examples and statements provided must be truthful, factually accurate and taken directly from your own experience. Where plagiarism has been identified (presenting the ideas and experiences of others, or generated by artificial intelligence, as your own) applications may be withdrawn and internal candidates may be subject to disciplinary action. Please see our candidate guidance (opens in a new window) for more information on appropriate and inappropriate use.

Selection process details

This vacancy is using Success Profiles (opens in a new window), and will assess your Behaviours and Experience.

Mae Llywodraeth Cymru, fel pob un o Adrannau eraill y Llywodraeth, yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant wrth recriwtio. Ar gyfer pob rôl, byddwn yn ystyried yr hyn y bydd angen i chi ei ddangos er mwyn llwyddo. Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau posibl i ni ddod o hyd i’r person iawn ar gyfer y swydd. Mae’n gwella perfformiad ac yn gwella amrywiaeth a chynhwysiant.

Dyma’r broses a’r camau dethol:


Nifer y Camau:Proses 2 gamCam 1CaisCam 2Cyfweliad

Feedback will only be provided if you attend an interview or assessment.

Security

Successful candidates must undergo a basic (or equivalent) criminal record check.People working with government assets must complete baseline personnel security standard (opens in new window) checks.

Nationality requirements

This job is broadly open to the following groups:

  • UK nationals
  • nationals of the Republic of Ireland
  • nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK
  • nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) (opens in a new window)
  • nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS)
  • individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020
  • Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service
Further information on nationality requirements (opens in a new window)

Working for the Civil Service

The Civil Service Code (opens in a new window) sets out the standards of behaviour expected of civil servants.

We recruit by merit on the basis of fair and open competition, as outlined in the Civil Service Commission's recruitment principles (opens in a new window).The Civil Service embraces diversity and promotes equal opportunities. As such, we run a Disability Confident Scheme (DCS) for candidates with disabilities who meet the minimum selection criteria.

Diversity and Inclusion

The Civil Service is committed to attract, retain and invest in talent wherever it is found. To learn more please see theCivil Service People Plan (opens in a new window) and the Civil Service Diversity and Inclusion Strategy (opens in a new window).

Apply and further information

This vacancy is part of the Great Place to Work for Veterans (opens in a new window) initiative.Once this job has closed, the job advert will no longer be available. You may want to save a copy for your records.

Contact point for applicants

Job contact :

Recruitment team

Further information

Gwybodaeth Bellach:
Egwyddorion a chwynion recriwtio Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Edrychwch ar egwyddorion recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan y Comisiwn. Os ydych chi’n teimlo nad yw eich cais wedi cael ei drin yn unol â’r egwyddorion hyn a’ch bod yn dymuno gwneud cwyn, anfonwch e-bost at cwynion@llyw.cymru.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at gyfeirnod y swydd wag. Os nad ydych chi’n fodlon â’r ymateb a gewch gan Lywodraeth Cymru, gallwch gysylltu â Chomisiwn y Gwasanaeth Sifil: info@csc.gov.uk.

Salary range

  • £27,302 - £29,291 per year