Search
Header navigation
Athro/ Athrawes Dosbarth (+ ADY 1)- Ysgol Gymraeg Cwm Derwen

Athro/ Athrawes Dosbarth (+ ADY 1)- Ysgol Gymraeg Cwm Derwen

remoteOn-Site
ExpiresExpires: Expiring in 4 days
Teaching
Full time

Athro/ Athrawes Dosbarth Y Ganolfan (Dosbarth anghenion Dysgu ychwanegol arbennigol) - Parhaol gyda Lwfans ADY 1 ychwanegol

Gwahoddir ceisiadau gan athrawon cymwys ar gyfer swydd llawn amser, parhaol fel Athro/ Athrawes Dosbarth Y Ganolfan (dosbarth arbennigol Anghenion Dysgu Ychwanegol).

Mae Corff Llywodraethol yr ysgol lwyddiannus hon yn awyddus i apwyntio athro / athrawes sydd yn arddangos sgiliau addysgu ardderchog ar lawr y dosbarth gyda phrofiad a dealltwriaeth helaeth o weithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol gan gynnwys anawsterau ymddygiad.

Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu yn ein dosbarth arbenigol fel rhan o dîm profiadol i gefnogi dysgwyr gydag amrywiaeth o anawsterau dysgu/ cymdeithasol.

Cyniga'r swydd yma gyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus:

  • fod yn frwd, yn ofalgar ac yn gallu sicrhau cyfleoedd datblygiadol, cyfoethog a hwylus i'r holl ddysgwyr,
  • osod disgwyliadau uchaf i'r dysgwyr o ran ymddygiad, cyflawniadau a datblygiad sgiliau,
  • cynnal dysgu ac addysgu o’r safon uchaf i gwrdd ag anghenion ein holl ddysgwyr,
  • arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o weithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol,
  • weithio'n effeithiol fel aelod o dîm ein hysgol
  • arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o Gwricwlwm i Gymru a’r fframweithiau sgiliau,
  • dangos safonau uchel wrth ddefnyddio TGCh i gefnogi dysgu,
  • sefydlu a chynnal perthynas gadarnhaol gyda'n rhieni a gofalwyr, aelodau o'n Corff Llywodraethol a'n gymuned ehangach,
  • cyfrannu tuag at a chefnogi holl weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol yr ysgol.

Mae Ysgol Gymraeg Cwm Derwen yn ysgol ofalgar a hapus, lle rhoddir blaenoriaeth ar les disgyblion a staff er mwyn sicrhau cyfleodd orau i’n disgyblion. Mae hybu’r Iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig yn allweddol i’n Cwricwlwm. Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu’r Gymraeg yn rhugl yn hanfodol i’r swydd.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person dewiswch yr atodiad perthnasol o'r rhestr atodiadau.

Dylid dychwelyd ffurflenni gais at y Pennaeth: Mrs K Matthews - Pennaeth, Ysgol Gymraeg Cwm Derwen, Beech Grove, Oakdale, Caerphilly NP12 3UP neu trwy e-bost: ysgolgymraegcwmderwen@sch.caerphilly.gov.uk

Gall ymgeiswyr wneud cais drwy Eteach, neu gofynnwch am ffurflen gais trwy’r e-bost uchod.

Am fanylion pellach, ffoniwch 01495 226062

Cyfweliadau: WyD 2 Gorffennaf 2025

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.