
AthroAthrawes Dosbarth - Ysgol Gymraeg Caerffili
Rydym yn recriwtio tri Athro/Athrawes yn Ysgol Gymraeg Caerffili i ddechrau ar 1af Medi 2026 yn amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth.
Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos
Math o gontract: Llawn amser, Tymor penodol tan 31 Awst 2027.
Lleoliad: Ysgol Gymraeg Caerffili Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £33,731 - £51,942 (TM02 - UPS3)
ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Rydym yn chwilio am unigolyn eithriadol o frwdfrydig, proffesiynol ac ymroddedig, sy’n barod i weithio’n galed ac i gyfrannu at safonau uchel ein hysgol.
Mae’n hanfodol bod gan yr ymgeisydd ddealltwriaeth gadarn o addysgeg effeithiol ynghyd â’r gallu i ysbrydoli ein disgyblion a chynnal disgwyliadau uchel iawn yr ysgol. Bydd y staff newydd yn ymuno gydag ysgol sy’n falch o’i safonau rhagorol ac enw da am ddarparu profiadau dysgu o’r radd flaenaf. Cânt groeso cynnes a chefnogaeth lawn gan dîm cryf o arweinwyr, athrawon a staff cynorthwyol, sy’n ymrwymedig i gynnal a datblygu rhagoriaeth trwy’r ysgol. Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus fedru addysgu yng Ngham Cynnydd 1, 2 neu 3
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi:
- Statws Athro Cymwysedig
- Dealltwriaeth drylwyr ynghylch prosesau a gweithdrefnau diogelu ac
- Ymrwymiad i Y gallu i greu amgylchedd dysgu heriol ac effeithiol a meddu ar sgiliau effeithiol i reoli disgyblion.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Athrawon a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Gellir lawrlwytho a chyflwyno ceisiadau drwy eteach.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Eleri Jones ar 02920 852531neu ebost: YsgolGymraegCaerffili@sch.caerphilly.gov.uk
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Swyddi sydd angen cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg:
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i’r holl staff Cymorth Dysgu (sy’n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016.
Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o'ch cofrestru a'ch cofrestru parhaol, fel Athro gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar y wefan hon https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/ neu drwy ffonio 02920 460099. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.
Salary range
- £33,731 - £51,942 per year