
Athro/Athrawes - Ysgol Gymraeg Bro Allta
Rydym yn recriwtio dau Athro/Athrawes yn Ysgol Gymraeg Bro Allta i ddechrau ar 1af Medi 2026 yn amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth.
Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos
Math o gontract: 2 swydd amser llawn, 1 swydd tymor penodol tan 31 Awst 2027 ac 1 swydd barhaol.
Lleoliad: Ysgol Gymraeg Bro Allta
Dyddiad y Cyfweliad - 28ain Ebrill 2026
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £33,731 - £51,942 (TM02 - UPS3) ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Sefydlwyd Ysgol Gymraeg Bro Allta yn 1994 ac fe’i lleolir ym mhentref Ystrad Mynach yn sir Caerffili. Mae’n ysgol hapus, gynhwysol a chymunedol ac ymfalchïwn yn y berthynas agos sydd gennym gyda’n rhieni a’r gymuned leol.
Mae Ysgol Gymraeg Bro Allta yn gartref i gymuned ddatblygol o staff addysgu lle byddwch yn cael pob cefnogaeth i ddatblygu yn eich gyrfa. Byddwch yn ymuno a thîm o staff ymroddgar, brwdfrydig ac egnïol, sy’n cydweithio’n agos i sicrhau cyfleoedd cyfrwng Cymraeg cyfoethog i’n disgyblion mewn amrywiaeth eang o ffyrdd.
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod;
- yn gyfathrebwr rhugl a chywir yn y Gymraeg
- yn ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol sy'n ysbrydoli pob plentyn i gyrraedd ei lawn botensial trwy brofiadau dysgu o ansawdd uchel
- gyda disgwyliadau uchel ohonynt eu hunain ac o blant; yn creu amgylchedd dysgu ysgogol; yn athro/awes sydd yn gynnes, yn ofalgar ac sy'n gwneud dysgu ein plant yn bleserus a hwylus
- yn gallu dangos profiad o ddysgu rhagorol
- yn dangos y gallu i weithio ar y cyd gan gyfrannu at ethos yr ysgol
- yn barod i gyfrannu at fywyd allgyrsiol yr ysgol
- yn gyfathrebwr rhagorol gyda sgiliau rhyngbersonol o ansawdd uchel.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn fod gennych:
- Statws Athro Cymwysedig
- Dealltwriaeth drylwyr ynghylch prosesau a gweithdrefnau diogelu ac
- Ymrwymiad i Y gallu i greu amgylchedd dysgu heriol ac effeithiol a meddu ar sgiliau effeithiol i reoli disgyblion.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Athrawon a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Gellir lawrlwytho a chyflwyno ceisiadau drwy eteach.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Meinir Jones ar 01443 814883 neu ebost: ysgolgymraegBroAlta@sch.caerphilly.gov.uk
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Swyddi sydd angen cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg:
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i’r holl staff Cymorth Dysgu (sy’n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016.
Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o'ch cofrestru a'ch cofrestru parhaol, fel Athro gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar y wefan hon https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/ neu drwy ffonio 02920 460099. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.
Salary range
- £33,731 - £51,942 per year