Search
Header navigation
Athro/Athrawes - Ysgol Ifor Bach

Athro/Athrawes - Ysgol Ifor Bach

locationUnited Kingdom
remoteOn-Site
ExpiresExpires: Expiring in less than 3 weeks
Teaching
Full time
£33,731 - £51,942 per year

Rydym yn recriwtio Athro/Athrawes yn Ysgol Ifor Bach.

Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos

Math o gontract: Llawn amser, Tymor penodol tan 31 Awst 2027.

Lleoliad: Ysgol Ifor Bach

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.

Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £33,731 - £51,942 (TM02 - UPS3)

ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Rydym yn awyddus i benodi athro / athrawes angerddol Cam Cynnydd 2-3 i ymuno â staff Ysgol Ifor Bach ym mis Medi 2026. Cyfle i fod yn rhan o ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghwm yr Aber,ger Caerffili sydd yn gweithredu fel ysgol adferol ac yn galon i’w chymuned.

Gwahoddir ceisiadau gan athrawon brwdfrydig, egniol ac ymroddgar i ymgeisio am swydd athro / athrawes. Eich nod fydd i sicrhau addysg gynhwysol o’r safon uchaf i bob disgybl o fewn y dosbarth. Mae dealltwriaeth am les a gofal disgyblion yn hanfodol a dylai’r ymgeisydd llwyddiannus meddu ar sgiliau cynnal disgyblaeth gref a magu perthnasau er mwyn creu hafan ddiogel i’m disgyblion.

Rydym yn ysgol arloesol sy’n dysgu ar sail ymholiad ac yn cynllunio amrywiaeth o gyfleoedd a phrofiadau unigryw. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar ddealltwriaeth arbennig o addysgeg ac yn deall ethos ac egwyddorion cwricwlwm i Gymru. Mae’r gallu i gydweithio’n effeithiol fel rhan o dîm yn hanfodol. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu i weithgareddau allgyrsiol a chymunedol yr ysgol. Mae deallusrwydd o weithdrefnau adferol yn ddymunol gan taw dyma’r ffordd yr ydym yn cydweithio gydag ein disgyblion, rhieni a holl randdeiliaid yr ysgol sy’n sicrhau ymdeimlad deuluol o ymberthyn.

Mae’r swydd yn llawn amser a dros dro am flwyddyn yn y lle cyntaf. Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, mae pob croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth dros dro Dian Morris. Bwriedir cynnal arsylwadau gwersi wythnos yn dechrau 20fed o Ebrill ac yna cyfweliadau ar 30ain o Ebrill.

Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi:

  • Statws Athro Cymwysedig
  • Dealltwriaeth drylwyr ynghylch prosesau a gweithdrefnau diogelu ac
  • Ymrwymiad i Y gallu i greu amgylchedd dysgu heriol ac effeithiol a meddu ar sgiliau effeithiol i reoli disgyblion.

Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Athrawon a chynlluniau disgownt i staff.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.

Gellir lawrlwytho a chyflwyno ceisiadau drwy eteach.

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Dian Morris ar 02920 830375 neu ebost: ysgoliforbach@sch.caerphilly.gov.uk

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Swyddi sydd angen cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg:

O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i’r holl staff Cymorth Dysgu (sy’n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016.

Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o'ch cofrestru a'ch cofrestru parhaol, fel Athro gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar y wefan hon https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/ neu drwy ffonio 02920 460099. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.

    Salary range

    • £33,731 - £51,942 per year