Search
Header navigation

Cyfrifydd Rheolaeth

| |
£41,878 per year
Disgrifiad Pecyn

Yr hyn rydym yn ei Gynnig:

  • 27.5 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl (gan gynyddu gyda gwasanaeth i 32.5 diwrnod)
  • Mae'r dewis i brynu, i werthu, neu i gario gwyliau blynyddol drosodd yn cael ei adolygu bob blwyddyn ac yn cael ei gynnig pan yn bosib
  • Darperir Cynllun Arian Gwirfoddol Iechyd gan BHSF
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • Pecyn absenoldeb mamolaeth y Gwasanaeth Sifil
  • Rhaglen cymorth gweithwyr PAM
  • Mynediad i aelodaeth Cyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC)
  • Cynllun beicio i'r gwaith
  • Cyfle i fwynhau'r cartref ac electroneg diweddaraf mewn ffordd fwy fforddiadwy a ddarperir gan Vivup
  • Cynllun Prydlesu Car
  • Rhwydweithiau Staff yn canolbwyntio ar bob un o'r nodweddion gwarchodedig - yn cael eu rhedeg ar gyfer staff, gan staff: Rhwydwaith Enable, Rhwydwaith Oed, Rhwydwaith yr Iaith Gymraeg, Rhwydwaith Pride a LHDTC+, Rhwydwaith Rhyw a Theulu, Rhwydwaith Hil, Crefydd a Chred
  • Dysgu a datblygu wedi'u teilwra i'ch rôl.
  • Amgylchedd gydag opsiynau gweithio hyblyg
  • Diwylliant sy'n annog cynhwysiant ac amrywiaeth


Gwybodaeth Ychwanegol:

Bydd unrhyw symudiad i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu o gyflogwr arall yn golygu na allwch gael mynediad at dalebau gofal plant mwyach. Mae hyn yn cynnwys symudiadau rhwng adrannau'r llywodraeth. Fodd bynnag, gallwch fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau eraill y llywodraeth, gan gynnwys Gofal Plant Di-dreth. Penderfynwch ar eich cymhwysedd ar wefan https://www.gov.wales/childcare-offer-for-wales-campaign


Ystyriaeth Emosiynol:

Wrth gyflawni’r rôl hon, gallwch ddod i gysylltiad achlysurol â deunydd trallodus a fydd yn debygol o gael effaith, trawmatig a heriol.

O ystyried natur y gwaith, [mae’n bosibl hefyd] y byddwch yn dod i gysylltiad ag unigolion sy’n profi trallod eithafol.

Mae SAYH yn cydnabod hyn ac yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau lles i’r holl staff, gan gynnwys TRiM (Rheoli Risg Trawma), cymorth rhwng cymheiriaid, Cynghorydd Lles penodedig, a mynediad at gwnsela cyfrinachol am ddim.

Mae'r holl staff yn cael eu hannog yn gryf i gyrchu ac ymgysylltu â'r cymorth ar gael yn rhagweithiol.

Os hoffech siarad am yr elfen hon o'r rôl â rhywun sy'n gwneud gwaith tebyg eisoes yn SAYH cysylltwch â recriwtio@policeconduct.gov.uk a gall hyn gael ei drefnu.


Cyflwyniad Swydd

Cyflwyniad Swydd:


Prif Gyfrifoldebau
  • Cyfrifeg a chyflwyno adroddiadau rheoli gan gynnwys cyllidebu a rhagweld.
  • Adolygu a dehongli data i sicrhau cywirdeb yr adrodd a darparu dirnadaeth o'r rhifau.
  • Cynorthwyo'r busnes i ddatblygu rhagolygon realistig sy'n ystyried risgiau a chyfleoedd ariannol.
  • Cyfrannu at gynllunio a rhagolygon busnes tymor canolig a hirdymor.
  • Cefnogi'r broses fanwl o bennu cyllideb flynyddol a chynllunio ariannol tymor canolig.
  • Ymgysylltu â Phartneriaid Busnes Cyllid a rhanddeiliaid eraill i rannu gwybodaeth ac ychwanegu gwerth at adrodd ariannol.

Cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd am gyfrifoldebau llawn y rôl.

Yr Ymgeisydd Delfrydol

Yr Ymgeisydd Delfrydol:

Profiad Hanfodol

  • Profiad amlwg o gyfrifeg reoli gan gynnwys cyllidebu a rhagweld
  • Profiad amlwg o gynhyrchu a chyflwyno adroddiadau i reolwyr anariannol
  • Profiad o ddadansoddi a dehongli data o wahanol ffynonellau yn gywir i gefnogi penderfyniadau, gan ddangos sylw i fanylion, datrys problemau a sgiliau dadansoddi.
  • Dealltwriaeth o amgylchedd rheoli ariannol effeithiol.
  • Profiad o weithio'n annibynnol, rheoli llwyth gwaith prysur i gyflawni terfynau amser a blaenoriaethau.
  • Profiad o gyfleu gwybodaeth a phenderfyniadau ariannol cymhleth yn effeithiol i amrywiaeth o randdeiliaid.

Cymhwyster Hanfodol

  • Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer swydd y Cyfrifydd Rheoli, rhaid i chi fod yn aelod cyfredol o un o gyrff cyfrifyddu'r DU (CIMA, CIPFA, ACCA neu ICAEW) a bod naill ai'n gwbl gymwys neu'n rhannol gymwys yn eich blwyddyn olaf o astudio, gydag ymrwymiad i gwblhau'r cymhwyster.
  • Lefel uchel o lythrennedd TG, yn enwedig MS Excel.

Sgiliau a Galluoedd

  • Sgiliau cydweithio cryf gyda'r gallu i weithio ar gyflymder.
  • Y gallu i ddadansoddi a dehongli data o wahanol ffynonellau yn gywir i gefnogi penderfyniadau, gan ddangos sylw i fanylion a datrys problemau.
  • Cyfathrebwr rhagorol, â'r gallu i esbonio materion ariannol cymhleth yn glir ac yn gryno.

Credwn fod safbwyntiau amrywiol yn cyfrannu at weithle mwy arloesol a dynamig.

Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli neu dan anfantais mewn cymdeithas.

Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, rhieni a gofalwyr, ac ymgeiswyr anabl, gan gynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal i bob ymgeisydd a chreu amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.

Rydym yn credu fod safbwyntiau amrywiol yn cyfrannu at le gwaith mwy arloesol a bywiog. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd fel arfer yn cael eu tan-gynrychioli neu o dan anfantais yn y gymdeithas. Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, rhieni a gofalwyr, ac ymgeiswyr anabl, yn cynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd cyfartal i bob ymgeisydd ac i greu amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi

Mae gweithredu cadarnhaol fel y manylir arno yn Neddf Cydraddoldeb 2010, yn ein galluogi i ddefnyddio mesurau a luniwyd i helpu i wella cydraddoldeb yn y gweithle, a chreu maes chwarae teg i bawb, tra’n parhau i gyflogi pawb ar sail teilyngdod. Mae ein data proffil gweithlu yn dangos bod pobl sy'n nodi eu bod yn ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn cael eu tangynrychioli yn SAYH.

Ar gyfer y rôl hon – pe bai gennym sefyllfa lle mae ymgeiswyr lluosog wedi cyflawni’r sgôr uchaf ac un yn nodi ei fod yn ddu, Asiaidd neu ethnig leiafrifol, trwy ddefnyddio gweithredu cadarnhaol, gallwn ddewis yr ymgeisydd hwnnw ar gyfer y rôl, gan wella’r maes hwn o dangynrychiolaeth yn SAYH felly. Dim ond pan fydd yr ymgeiswyr sy'n sgorio uchaf wedi sgorio'n gyfartal, yn y cam asesu terfynol, ac yn uwch na'r trothwy gofynnol y byddwn yn defnyddio gweithredu cadarnhaol yn y modd hwn.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr i ymgeisio am rolau trwy gyfrwng y Gymraeg fel eu dewis iaith.

Mae'r rôl yn gofyn am gliriad i BPSS

National security vetting: clearance levels - GOV.UK (www.gov.uk)


Addasiadau Rhesymol:

Mae SAYH yn weithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn dymuno eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa asesiad bynnag a ddefnyddir.

Rydym yn agored i ddarparu'r offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo.

Cyfeiriwch at ein canllawiau Addasiadau Rhesymol yn y ddogfen sydd wedi’i gysylltu â'r hysbyseb swydd hwn ynglŷn â sut i gyrchu Addasiadau Rhesymol gyda ni.


Ynglŷn â'r Cwmni

Byddwch chi'ch hun:

Mae SAYH wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth ym mhopeth a wnawn.

Ein gweledigaeth yw i fod, a chael ein gweld fel, arweinydd mewn cyflogaeth a gwasanaethau cynhwysol, gan ddangos yr ethos hwn ym mhopeth a wnawn.

  • Gan ei fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae SAYH yn ymroi i ddileu’r rhwystrau i bobl anabl ffynnu yn y gweithle. Cyfeiriwch at ein canllawiau Addasiadau Rhesymol yn y ddogfen sydd wedi’i gysylltu â'r hysbyseb swydd hwn ynglŷn â sut i gyrchu Addasiadau Rhesymol gyda ni.
  • Mae ein Rhwydweithiau Staff yn gweithio’n gyson i wneud SAYH yn arweinwyr cyflogaeth gynhwysol, o’n Rhaglen Gynghreiriad i Safonau’r Gymraeg a’n Polisi Know the Line, rydym yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd o greu amgylchedd i bawb ddatblygu a ffynnu.


Amodau gwaith

Mae'r IOPC yn gweithredu polisi gweithio hybrid sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r holl staff weithio 40% o'u horiau cytundebol ar gyfartaledd yn eu swyddfa (neu swyddfa arall am resymau busnes). Mae amser presenoldeb swyddfa yn cynnwys hyfforddiant personol, cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid a theuluoedd, a mynychu digwyddiadau.

Salary range

  • £41,878 per year