Search
Header navigation

Gweithiwr Cymorth

Social Care
Full time
£28,665 per year

Yr hyn rydym yn ei Gynnig:

  • 27.5 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl (gan gynyddu gyda gwasanaeth i 32.5 diwrnod)
  • Mae'r dewis i brynu, i werthu, neu i gario gwyliau blynyddol drosodd yn cael ei adolygu bob blwyddyn ac yn cael ei gynnig pan yn bosib
  • Darperir Cynllun Arian Gwirfoddol Iechyd gan BHSF
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • Pecyn absenoldeb mamolaeth y Gwasanaeth Sifil
  • Rhaglen cymorth gweithwyr PAM
  • Mynediad i aelodaeth Cyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC)
  • Cynllun beicio i'r gwaith
  • Cyfle i fwynhau'r cartref ac electroneg diweddaraf mewn ffordd fwy fforddiadwy a ddarperir gan Vivup
  • Cynllun Prydlesu Car
  • Rhwydweithiau Staff yn canolbwyntio ar bob un o'r nodweddion gwarchodedig - yn cael eu rhedeg ar gyfer staff, gan staff: Rhwydwaith Enable, Rhwydwaith Oed, Rhwydwaith yr Iaith Gymraeg, Rhwydwaith Pride a LHDTC+, Rhwydwaith Rhyw a Theulu, Rhwydwaith Hil, Crefydd a Chred
  • Dysgu a datblygu wedi'u teilwra i'ch rôl.
  • Amgylchedd gydag opsiynau gweithio hyblyg
  • Diwylliant sy'n annog cynhwysiant ac amrywiaeth


Gwybodaeth Ychwanegol:

Bydd unrhyw symudiad i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu o gyflogwr arall yn golygu na allwch gael mynediad at dalebau gofal plant mwyach. Mae hyn yn cynnwys symudiadau rhwng adrannau'r llywodraeth. Fodd bynnag, gallwch fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau eraill y llywodraeth, gan gynnwys Gofal Plant Di-dreth. Penderfynwch ar eich cymhwysedd ar wefan https://www.gov.wales/childcare-offer-for-wales-campaign

Yn unol â Pholisi Recriwtio a Dethol SAYH, rydym yn argymell bod y cydweithwyr mewnol yn gwneud cais cynnar o fewn y saith diwrnod cyntaf, fel y gallwn weld os oes digon o ddiddordeb o fewn y sefydliad i gadw’r rôl yn fewnol am gyfnod llawn yr hysbyseb yn fyw.

Byddwn yn adolygu nifer y ceisiadau ar ôl y saith diwrnod cyntaf ac mae’n bosibl y caiff y rôl ei hysbysebu’n allanol ar ôl y cyfnod hwn.

Gweler y Canllawiau Polisi Recriwtio a Dethol, sydd ar gael ar yr Hyb, am ragor o wybodaeth.


Ystyriaeth Emosiynol:

Wrth gyflawni’r rôl hon, byddwch yn dod i gysylltiad rheolaidd â deunydd trallodus a fydd yn debygol o gael effaith, trawmatig a heriol.

Mae SAYH yn cydnabod hyn ac yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau lles i’r holl staff, gan gynnwys TRiM (Rheoli Risg Trawma), cymorth rhwng cymheiriaid, Cynghorydd Lles penodedig, a mynediad at gwnsela cyfrinachol am ddim.

Mae'r holl staff yn cael eu hannog yn gryf i gyrchu ac ymgysylltu â'r cymorth ar gael yn rhagweithiol.

Os hoffech siarad am yr elfen hon o'r rôl â rhywun sy'n gwneud gwaith tebyg eisoes yn SAYH cysylltwch â recriwtio@policeconduct.gov.uk a gall hyn gael ei drefnu.

Cyflwyniad Swydd:

Darparu cymorth a chefnogaeth am dri diwrnod yr wythnos i Reolwr Gwaith Achos IOPC sy'n gwbl ddall, er mwyn iddo allu cyflawni ei rôl. Mae rôl y Rheolwr Gwaith Achos, sydd angen y cymorth hwn, yn cynnwys adolygu sut mae'r heddlu wedi ymdrin â chwynion a materion eraill a phenderfynu a yw'r heddlu wedi ymdrin â'r materion hyn yn briodol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cymorth a chefnogaeth i'r Rheolwr Gwaith Achos yn y rôl hon, sydd yn angenrheidiol o ganlyniad i’w ddallineb. Am ddau ddiwrnod olaf yr wythnos waith, bydd yr ymgeisydd yn gweithio yn ein canolfan weinyddol, gan eu cefnogi trwy gwblhau tasgau gweinyddol.

Bydd y rôl hon yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus fod ar gael wyneb-yn-wyneb ar ddyddiau Llun, Mawrth ac Iau bob wythnos, gyda'r oriau penodedig o 7:45yb – 4:30yp.

Gellir gweithio'r oriau sy'n weddill yn hyblyg, o'r cartref neu yn y swyddfa, fel y dewisir, ar y dydd Mercher a'r dydd Gwener sy'n weddill.

Byddwn yn eich asesu yn erbyn y rhain Swyddog Gweinyddol (SG) gyfatebol Ymddygiadau lefel yn ystod y broses ddewis:

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

Mae'r swydd wag hon yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant, i ddysgu mwy, cliciwch yma.

Trwy gydol y broses recriwtio byddwn hefyd yn asesu eich Profiad, Cryfderau neu Gwerthoedd.

Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi gwblhau 3 Cwestiynau Didoliyn seiliedig ar y meini prawf hanfodol.

Amcangyfrifir i ddyddiadau asesu a chyfweld ddigwydd Canol - Diwedd Mehefin.

Cefnogi'r Rheolwr Gwaith Achos i gael mynediad at wybodaeth a dogfennaeth sy'n berthnasol i'w rôl, gan gynnwys drwy:

Defnyddio meddalwedd i drosi dogfennau i fformatau gall y Rheolwr Gwaith Achos eu darllen gan ddefnyddio ei feddalwedd lleferydd cyfrifiadurol, a gwirio'r allbwn am gywirdeb.

Teipio dogfennau neu ddarnau o ddogfennau na ellir eu trosi'n awtomatig yn gywir, er mwyn galluogi'r Rheolwr Gwaith Achos i ddarllen y dogfennau.

Darllen dogfennau neu ddarnau o ddogfennau yn uchel fel y cyfarwyddir gan y Rheolwr Gwaith Achos.

Adolygu dogfennau i ddod o hyd i wybodaeth benodol neu fathau penodol o wybodaeth, fel y cyfarwyddir gan y Rheolwr Gwaith Achos.

Darparu disgrifiadau llafar ac ysgrifenedig cywir, manwl a diduedd o dystiolaeth weledol berthnasol (megis CCTV, ffotograffau a fideo corff-gamera gan yr heddlu), gyda'r tebygolrwydd y bydd peth o hyn yn achosi gofid emosiynol, er mwyn galluogi'r Rheolwr Gwaith Achos i wneud penderfyniadau sy’n llwyr wybodus ac annibynnol.

Lle mae angen, cofnodi a diweddaru gwybodaeth i Systemau Rheoli Achosion IOPC yn gywir, fel y cyfarwyddir gan y Rheolwr Gwaith Achos.

Cynorthwyo'r Rheolwr Gwaith Achos i sicrhau bod fformat gweledol y dogfennau mae'n eu creu a'u golygu yn ymddangos yn weledol fel y bwriadwyd, a bod y fformat yn cyd-fynd â chanllawiau brandio a chyfathrebu IOPC.

Cefnogi'r Rheolwr Gwaith Achos i gael mynediad at rai rhannau o systemau TG IOPC a'u defnyddio, rhannau nad ydynt yn gydnaws â'i feddalwedd lleferydd cyfrifiadurol, trwy ddarllen a disgrifio gwybodaeth yn ôl yr angen a chyflawni tasgau cyfrifiadurol sylfaenol, fel y cyfarwyddir.

Darparu pob cymorth angenrheidiol i alluogi'r Rheolwr Gwaith Achos i gael mynediad at wybodaeth sy'n berthnasol i'w rôl, gan gynnwys trwy addasu deunyddiau hyfforddi i'w gwneud yn hygyrch i'r Rheolwr Gwaith Achos a'i gefnogi yn ystod hyfforddiant wyneb yn wyneb a hyfforddiant o bell, a all olygu teithio achlysurol.

Lle mae angen, arwain y Rheolwr Gwaith Achos yn gorfforol i mewn ac o amgylch adeiladau IOPC, ac mewn amgylcheddau anghyfarwydd, i gynorthwyo gyda'i gyfeiriadedd. Darperir hyfforddiant llawn ar yr agwedd hon o’r rôl. Mae gwybodaeth gyffredinol a fideos pellach ar sut i arwain person dall ar gael ar y dudalen hon ar wefan y Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol Pobl Ddall (RNIB).

Cynorthwyo'r Rheolwr Gwaith Achos gyda'r gwaith gweinyddol sydd ei angen i gyflwyno hawliadau am ad-daliad costau cymorth i gynllun Mynediad at Waith y llywodraeth (darperir hyfforddiant llawn).

Pan nad oes gofyniad i ddarparu cymorth i'r Rheolwr Gwaith Achos, ymgymryd â thasgau cymorth Gwaith Achos cyffredinol yn y ganolfan weinyddol yn ôl yr angen, gan gynnwys:

Atgyfeiriadau

  • Creu atgyfeiriadau newydd ar CMS
  • Blaen-yrru atgyfeiriadau at yr adran briodol
  • Sicrhau bod yr holl ddogfennau a gwybodaeth yn cael eu cadw i'r achos, bod y cyfryngau wedi'u hamgryptio, a'u bod yn cael eu hanfon i'r penderfyniad priodol.

Cyfryngau

  • Creu a rheoli rhannau o ffeiliau a chyfryngau ar gyfer y gyfarwyddiaeth
  • Copïo a throsi pob math o gyfryngau, gan gynnwys BWV a CCTV.
  • Lawrlwytho cyfryngau a phapurau ymchwil o gymwysiadau sy'n seiliedig ar y cwmwl.


Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill.

Cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd am gyfrifoldebau llawn y rôl.

Yr Ymgeisydd Delfrydol:

Dymunol

Profiad blaenorol o gefnogi person anabl, naill ai mewn cyflogaeth neu drwy ddarparu cymorth arall i alluogi eu hannibyniaeth, dewis a rheolaeth.

Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'r model cymdeithasol o anabledd.

Profiad

Byddai'r swydd hon yn addas iawn i rai pobl sydd wedi gweithio fel "cynorthwyydd personol" i bobl anabl sy’n cael eu cyllido gan "daliadau uniongyrchol" y gwasanaethau cymdeithasol, lle mai’r cleient anabl yn gyflogwr. Mae rolau o'r fath yn gofyn am ddealltwriaeth bod y cleient yn gallu, a bod rhaid iddynt, wneud eu penderfyniadau ei hun. Mae profiad o weithio mewn rolau gweinyddol hefyd yn ddymunol.

Sgiliau a Galluoedd

Mae'r sgiliau a'r galluoedd isod yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

  • Sylw cryf i fanylder a chywirdeb.

  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol, i allu disgrifio gwybodaeth weledol fel deunydd fideo mewn modd clir, cywir a chryno.

  • Y gallu i adnabod yn rhagweithiol broblemau neu rwystrau sy’n codi, ac i awgrymu a gweithredu atebion creadigol i'r heriau hyn.

  • Sgiliau teipio cymwys a'r ewyllys i ddatblygu'r sgiliau hyn ymhellach
  • Llythrennedd mewn TGCh/Microsoft Office.

  • Gwybodaeth am wahanol fformatau ffeiliau, gan gynnwys PDFau, fformatau ffeiliau lluniau a thestun.

Y gallu i ddysgu'n gyflym i ddefnyddio meddalwedd a systemau TGCh anghyfarwydd i gyflawni amcanion.

Credwn fod safbwyntiau amrywiol yn cyfrannu at weithle mwy arloesol a dynamig.

Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli neu dan anfantais mewn cymdeithas.

Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, rhieni a gofalwyr, ac ymgeiswyr anabl, gan gynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal i bob ymgeisydd a chreu amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.


Rydym yn credu fod safbwyntiau amrywiol yn cyfrannu at le gwaith mwy arloesol a bywiog. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd fel arfer yn cael eu tan-gynrychioli neu o dan anfantais yn y gymdeithas. Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, rhieni a gofalwyr, ac ymgeiswyr anabl, yn cynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd cyfartal i bob ymgeisydd ac i greu amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi


Mae'r rôl yn gofyn am gliriad i BPSS

National security vetting: clearance levels - GOV.UK (www.gov.uk)


Addasiadau Rhesymol:

Mae SAYH yn weithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn dymuno eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa asesiad bynnag a ddefnyddir.

Rydym yn agored i ddarparu'r offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo.

Cyfeiriwch at ein canllawiau Addasiadau Rhesymol yn y ddogfen sydd wedi’i gysylltu â'r hysbyseb swydd hwn ynglŷn â sut i gyrchu Addasiadau Rhesymol gyda ni.


Byddwch chi'ch hun:

Mae SAYH wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth ym mhopeth a wnawn.

Ein gweledigaeth yw i fod, a chael ein gweld fel, arweinydd mewn cyflogaeth a gwasanaethau cynhwysol, gan ddangos yr ethos hwn ym mhopeth a wnawn.

  • Gan ei fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae SAYH yn ymroi i ddileu’r rhwystrau i bobl anabl ffynnu yn y gweithle. Cyfeiriwch at ein canllawiau Addasiadau Rhesymol yn y ddogfen sydd wedi’i gysylltu â'r hysbyseb swydd hwn ynglŷn â sut i gyrchu Addasiadau Rhesymol gyda ni.
  • Mae ein Rhwydweithiau Staff yn gweithio’n gyson i wneud SAYH yn arweinwyr cyflogaeth gynhwysol, o’n Rhaglen Gynghreiriad i Safonau’r Gymraeg a’n Polisi Know the Line, rydym yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd o greu amgylchedd i bawb ddatblygu a ffynnu.


Amodau gwaith

Ar gyfer y rôl hon, bydd angen i'r ymgeisydd fynychu'r swyddfa am dri diwrnod yr wythnos i ddarparu cymorth wyneb yn wyneb i'r Rheolwr Gwaith Achos.

Bydd gofyn am fod yn bresennol yn y swyddfa ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau, i gyd-fynd â dyddiau gwaith y Rheolwr Gwaith Achos, gyda'r oriau gwaith o 07:45 i 16:30. Gellir gweithio gweddill eu horiau cytundebol naill ai o'r swyddfa neu o gartref ar ddydd Mercher a dydd Gwener.

Bydd disgwyl i'r Gweithiwr Cefnogi gydlynu ei wyliau blynyddol gyda'r Rheolwr Gwaith Achos y mae'n ei gefnogi, er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth. Lle bynnag sy’n bosib, dylid cynllunio absenoldeb blynyddol a'i gytuno ar y cyd o flaen llaw, gan ystyried gofynion y Rheolwr Gwaith Achos ac anghenion unigol y Gweithiwr Cefnogi. Mewn amgylchiadau lle na ellir alinio'r gwyliau blynyddol, efallai y bydd gofyn i'r Gweithiwr Cefnogi ymgymryd â dyletswyddau amgen a amlinellir yn y disgrifiad swydd hwn.

Salary range

  • £28,665 per year