Search
Header navigation
Teacher - Ysgol Gymraeg Cwm Derwen

Teacher - Ysgol Gymraeg Cwm Derwen

locationCaerphilly County Borough, UK
remoteOn-Site
ExpiresExpires: Expiring in less than 3 weeks
Teaching
Full time
£33,731 - £51,492 per year

Athro/ Athrawes - Ysgol Gymraeg Cwm Derwen

Athro/ Athrawes Dosbarth Y Ganolfan (Dosbarth anghenion Dysgu ychwanegol arbennigol) – Secondiad am 2 dymor (Ionawr – Awst) gyda Lwfans ADY 1 ychwanegol

Llawn amser- Prif Raddfa Gyflog Athrawon TM02-UPS3

Gwahoddir ceisiadau gan athrawon cymwys ar gyfer secondiad llawn amser, am ddau dymor (Ionawr – Awst) fel Athro/ Athrawes Dosbarth Y Ganolfan (dosbarth arbennigol Anghenion Dysgu Ychwanegol). Bydd cyfle i’r swydd fod yn barhaol i’r person cywir yn dilyn y secondiad.

Mae Corff Llywodraethol yr ysgol lwyddiannus hon yn awyddus i apwyntio athro / athrawes sydd yn arddangos sgiliau addysgu ardderchog ar lawr y dosbarth gyda phrofiad a dealltwriaeth helaeth o weithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol gan gynnwys anawsterau ymddygiad.

Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu yn ein dosbarth arbenigol fel rhan o dîm profiadol i gefnogi dysgwyr gydag amrywiaeth o anawsterau dysgu/ cymdeithasol.

Cyniga'r swydd yma gyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus:

  • fod yn frwd, yn ofalgar ac yn gallu sicrhau cyfleoedd datblygiadol, cyfoethog a hwylus i'r holl ddysgwyr,
  • osod disgwyliadau uchaf i'r dysgwyr o ran ymddygiad, cyflawniadau a datblygiad sgiliau,
  • cynnal dysgu ac addysgu o’r safon uchaf i gwrdd ag anghenion ein holl ddysgwyr,
  • arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o weithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol,
  • weithio'n effeithiol fel aelod o dîm ein hysgol
  • arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o Gwricwlwm i Gymru a’r fframweithiau sgiliau,
  • dangos safonau uchel wrth ddefnyddio TGCh i gefnogi dysgu,
  • sefydlu a chynnal perthynas gadarnhaol gyda'n rhieni a gofalwyr, aelodau o'n Corff Llywodraethol a'n gymuned ehangach,
  • cyfrannu tuag at a chefnogi holl weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol yr ysgol.

Mae Ysgol Gymraeg Cwm Derwen yn ysgol ofalgar a hapus, lle rhoddir blaenoriaeth ar les disgyblion a staff er mwyn sicrhau cyfleodd orau i’n disgyblion. Mae hybu’r Iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig yn allweddol i’n Cwricwlwm. Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu’r Gymraeg yn rhugl yn hanfodol i’r swydd.

Dylid dychwelyd ffurflenni gais at y Pennaeth: Mrs K Matthews, Ysgol Gymraeg Cwm Derwen, Beech Grove, Oakdale, Caerphilly NP12 3UP neu trwy e-bost: ysgolgymraegcwmderwen@sch.caerphilly.gov.uk

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Mrs K Matthewsar 01495 226062

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person dewiswch yr atodiad perthnasol o'r rhestr atodiadau.

Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 1af Rhagfyr 2025

Gall ymgeiswyr wneud cais drwy Eteach, neu gofynnwch am ffurflen gais trwy’r e-bost uchod.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk amragor o wybodaeth.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.

Swyddi sydd angen cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg:

O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i’r holl staff Cymorth Dysgu (sy’n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016.

Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o’ch cofrestriad a’ch cofrestriad parhaol, fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar y wefan hon https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/ neu drwy ffonio 02920 460099. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.

    Salary range

    • £33,731 - £51,492 per year