Search
Header navigation

3,718 Jobs

Logo for job Education Welfare Officer
locationStafford, UK
remoteOn-Site
salary£33,699 - £38,220 per year
Logo for job Community Learning MK Tutors - Health and Social Care
locationMilton Keynes, UK
remoteOn-Site
salary£18,640 - £41,671 per year
Logo for job Childrens Services Support Officer
locationMilton Keynes, UK
remoteOn-Site
salary£32,061 - £36,363 per year
Logo for job Social Worker
locationMilton Keynes, UK
remoteOn-Site
salary£37,280 - £47,181 per year
Logo for job HGV Class 2 Driver
locationLondon Rd, Coventry CV3 4AR, UK
remoteOn-Site
Logo for job Customer Services Meet & Greet
locationCoventry, UK
remoteOn-Site
salary£25,185 - £26,403 per year
Logo for job Social Work Team Leader
locationCoventry, UK
remoteOn-Site
salary£45,091 - £52,413 per year
Logo for job Chemical and Research Analyst
locationLea Town, Preston PR4, UK
remoteOn-Site
salary£45,220 per year
Logo for job Mechanical Technical Support
locationSellafield, Seascale, UK
remoteOn-Site
salary£51,166 per year
Logo for job Plant Engineering Manager
locationLea Town, Preston PR4, UK
remoteOn-Site
salary£76,526 per year
No logo available
locationBirmingham, UK
remoteHybrid
salary£37,596 per year
Logo for job Director - Corporate Services
locationExeter, UK
remoteHybrid
salary£90,000 per year
Logo for job Communications and Engagement Manager
locationForestry Holdings, Edwinstowe, Mansfield NG21 9JL, UK
remoteHybrid
salary£33,854 per year
No logo available
locationLondon Borough of Tower Hamlets, UK
remoteHybrid
salary£52,499 - £52,729 per year
Logo for job Chemistry and AI Modeller
locationWarrington Rd, Risley, Warrington WA3 6AE, UK
remoteHybrid
salary£51,166 per year
Logo for job Finance Administrator
locationBristol
remoteOn-Site
salary£26,959 per year
Logo for job Deputy Premises Manager
locationCarshalton, UK
remoteOn-Site
salary£30,171 - £33,163 per year
Logo for job Finance Administrator (Accounts Payable)
locationBristol
remoteOn-Site
salary£26,959 per year
Logo for job Social Worker
locationWoodbury Rd, Kidderminster DY11 7JJ, UK
remoteHybrid
salary£33,699 - £41,771 per year
No logo available
locationBirmingham, UK
remoteHybrid
salary£52,499 - £52,749 per year
Logo for job Head of Mayor's Office
locationLondon Borough of Newham, UK
remoteOn-Site
ExpiresExpires: Expiring in less than 2 weeks
salary£67,194 - £82,809 per year
Logo for job In Year Admission
locationLondon Borough of Haringey, London, UK
remoteHybrid
ExpiresExpires: Expiring in 2 days
salary£40,182 - £42,060 per year
Logo for job Associate Tutor
locationLondon Borough of Haringey, London, UK
remoteOn-Site
ExpiresExpires: Expiring in less than 2 weeks
salary£40,182 - £42,060 per year
Logo for job Portage Visitor
locationLondon Borough of Haringey, London, UK
remoteHybrid
ExpiresExpires: Expiring in 1 month
salary£38,256 - £39,276 per year
No logo available
Royal Borough of Kensington & Chelsea
locationWestway Information Ctre, Kensington & Chelsea Citizens Advice, London W10 5ND, UK
remoteHybrid
ExpiresExpires: Expiring in less than 2 weeks
salary£53,076 per year

Prif Ymchwilydd - Birmingham

locationBirmingham, UK
remoteHybrid
Legal
Flexible
£37,596 per year

Yr hyn rydym yn ei Gynnig:

  • 27.5 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl (gan gynyddu gyda gwasanaeth i 32.5 diwrnod)
  • Mae'r dewis i brynu, i werthu, neu i gario gwyliau blynyddol drosodd yn cael ei adolygu bob blwyddyn ac yn cael ei gynnig pan yn bosib
  • Darperir Cynllun Arian Gwirfoddol Iechyd gan BHSF
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • Pecyn absenoldeb mamolaeth y Gwasanaeth Sifil
  • Rhaglen cymorth gweithwyr PAM
  • Mynediad i aelodaeth Cyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC)
  • Cynllun beicio i'r gwaith
  • Cyfle i fwynhau'r cartref ac electroneg diweddaraf mewn ffordd fwy fforddiadwy a ddarperir gan Vivup
  • Cynllun Prydlesu Car
  • Rhwydweithiau Staff yn canolbwyntio ar bob un o'r nodweddion gwarchodedig - yn cael eu rhedeg ar gyfer staff, gan staff: Rhwydwaith Enable, Rhwydwaith Oed, Rhwydwaith yr Iaith Gymraeg, Rhwydwaith Pride a LHDTC+, Rhwydwaith Rhyw a Theulu, Rhwydwaith Hil, Crefydd a Chred
  • Dysgu a datblygu wedi'u teilwra i'ch rôl.
  • Amgylchedd gydag opsiynau gweithio hyblyg
  • Diwylliant sy'n annog cynhwysiant ac amrywiaeth


Gwybodaeth Ychwanegol:

Bydd unrhyw symudiad i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu o gyflogwr arall yn golygu na allwch gael mynediad at dalebau gofal plant mwyach. Mae hyn yn cynnwys symudiadau rhwng adrannau'r llywodraeth. Fodd bynnag, gallwch fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau eraill y llywodraeth, gan gynnwys Gofal Plant Di-dreth. Penderfynwch ar eich cymhwysedd ar wefan https://www.gov.wales/childcare-offer-for-wales-campaign.


Ystyriaeth Emosiynol:

Wrth gyflawni’r rôl hon, byddwch yn dod i gysylltiad rheolaidd â deunydd trallodus a fydd yn debygol o gael effaith, trawmatig a heriol.

O ystyried natur y gwaith, [mae’n bosibl hefyd] y byddwch yn dod i gysylltiad ag unigolion sy’n profi trallod eithafol.

Mae SAYH yn cydnabod hyn ac yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau lles i’r holl staff, gan gynnwys TRiM (Rheoli Risg Trawma), cymorth rhwng cymheiriaid, Cynghorydd Lles penodedig, a mynediad at gwnsela cyfrinachol am ddim.

Mae'r holl staff yn cael eu hannog yn gryf i gyrchu ac ymgysylltu â'r cymorth ar gael yn rhagweithiol.

Os hoffech siarad am yr elfen hon o'r rôl â rhywun sy'n gwneud gwaith tebyg eisoes yn SAYH cysylltwch â recriwtio@policeconduct.gov.uk a gall hyn gael ei drefnu.



Ymchwiliadau Craidd

Mae ein timau Ymchwiliadau yn gweithio ledled Lloegr a Chymru, ac maent yn cynnal cannoedd o ymchwiliadau annibynnol bob blwyddyn, yn aml o dan bwysau eithafol. Caiff ein ymchwilwyr eu cefnogi gan ystod o dimau sy'n gwneud llwyth anferth o waith i'w cefnogi nhw. Gallwch ddarllen mwy am yr ymchwiliadau ar ein gwefan.

Fel Prif Ymchwilydd, byddwch yn rhan o dîm ymchwiliadau deinamig sy'n gweithio'n lleol ac yn genedlaethol ar ystod eang o ymchwiliadau sydd yn aml yn llygad y cyhoedd yn y gyfarwyddiaeth Ymchwilio, Goruchwylio a Gwaith Achos. Mae IOPC ar daith i ddatblygu ei ddiwylliant, ei safbwyntiau a'i ethos i gefnogi canlyniadau craidd y sefydliad, a dyma'ch cyfle i ymuno â byd amrywiol ymchwiliadau, gan ganiatáu ichi ddatblygu eich meddylfryd a'ch dulliau i gyfrannu at wella system gwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr. Mae gan y tîm ymchwilio dasg o gynnal ein gwerthoedd wrth sefydlu'r ffeithiau y tu ôl i gŵyn a dod i gasgliadau i lunio argymhellion.Â

Fel Prif Ymchwilydd, byddwch yn arwain pob agwedd ar ymchwiliad, o nodi'r cylch gorchwyl cychwynnol, i gasglu tystiolaeth, cyfweld â thystion, dod i gasgliadau, ac ysgrifennu adroddiad terfynol, lle caiff llawer ohonynt eu cyhoeddi. Mae adroddiadau hefyd yn cynnwys argymhellion i'r heddlu neu Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ynghylch camau i'w cymryd i wella arfer ac atal camgymeriadau yn y dyfodol. Felly, mae'n hanfodol eich bod yn mabwysiadu dull 'atebolrwydd o ran gwybodaeth ddiwylliannol' yn eich gwaith, fel eich bod yn cynhyrchu canlyniadau cyflawn a chadarn.  Ar ôl yr ymchwiliad, mae staff ymchwiliadau yn gyfrifol am gefnogi achosion troseddol, disgyblu a chrwnerol a all ddilyn.   Â

Mae natur y gwaith yn ei gwneud yn ofynnol i staff ymchwiliadau gymryd rhan mewn swyddogaeth ar alwad y tu allan i oriau gwaith lle telir lwfans priodol am hyn o dan bolisi'r IOPC. Â Â Â Â

Bydd angen profiad perthnasol arnoch o gynnal ymchwiliadau mewn unrhyw sector, fel gwaith cymdeithasol, y gwasanaethau prawf, gwasanaethau gorfodi neu reoleiddio awdurdodau lleol, yn ogystal â thwyll neu gyfiawnder troseddol. Mae'r rôl hon yn gofyn am sgiliau datblygedig iawn o ran dadansoddi ac ysgrifennu adroddiadau, a'r gallu ac ymrwymiad i weithredu'n annibynnol. Mae IOPC yn wasanaeth cyhoeddus a'i nod yw sicrhau bod pawb yn derbyn gwasanaeth cyfartal. I wireddu hyn, mae angen i bobl arloesol ac ymwybodol yn gymdeithasol ymuno â ni. Mae IOPC wedi ymrwymo i ddatblygu meddylfryd tîm o unigolion amrywiol ac angerddol er mwyn cyrraedd eu nodau gyrfa wrth gyfrannu at wella hyder plismona. Â

Mae'r rôl hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974; felly, cynhelir gwiriad safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus yn ystod y broses cyn-gyflogaeth.Â

Proses Recriwtio

Sesiynau gwybodaeth - opsiynol

Yn ystod y cam ceisio, anogir chi i ymuno â sesiwn wybodaeth opsiynol, er mwyn dysgu mwy am y rôl a'r broses asesu. Gellir ffeindio manylion am y cyfarwyddiadau i ymuno â'r sesiynau Microsoft Teams hyn yn y ddogfen atodedig.Â

 Sesiynau Briffio - gorfodol

Yn ddiweddarach yn y broses, os cewch chi eich byr-restri ar gyfer y ganolfan asesu, yna bydd angen i chi fynychu sesiwn friffio orfodol. Bydd y sesiwn hon yn darparu gwybodaeth bellach am y rôl, y rhaglen hyfforddi, a'r hyn i'w ddisgwyl yn y swydd.

Mae mynychu'r sesiwn friffio yn ofyniad angenrheidiol. Ni fydd ceisiadau gan ymgeiswyr sydd ddim yn mynychu yn cael eu prosesu'n bellach, gan ei fod yn bwysig bod gan yr holl ymgeiswyr ddealltwriaeth glir o'r rôl a'i ofynion.

Mae'r swydd wag hon yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant, i ddysgu mwy, cliciwch yma.

Byddwn yn eich asesu yn erbyn y rhain  Uwch Swyddog Gweithredol (USG)  neu gyfatebol Ymddygiadau lefel yn ystod y broses ddewis:

  • Gweld y Darlun MawrÂ
  • Cyfathrebu a DylanwaduÂ
  • Cydweithio


Cam 1: Cyfweliad Technegol

Caiff y cyfweliadau technegol eu cynnal rhwng 9 a 23 o Fedi.

Caiff ymgeiswyr sy'n cael eu byr-restri yn llwyddiannus eu gwahodd i fynychu cyfweliad technegol dros Microsoft Teams. Disgwylir i'r cyfweliad bara tua 30 munud.

Rydym yn anelu at anfon gwahoddiadau i ymgeiswyr sydd wedi'u byr-restri ar 1 Medi.

Cam 2: Canolfan Asesu

Bydd y ganolfan asesu yn cymryd lle rhwng 5 Hydref a 13 Tachwedd.

Caiff ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yng Ngham 1 eu gwahodd i ganolfan asesu dau-gam, a fydd yn cynnwys cyfweliad ffurfiol, ymarfer chwarae rôl, ac ymarferion ysgrifenedig. Caiff y ganolfan asesu ei gynnal yn rhithiol dros Microsoft Teams.

Trwy gydol Camau 1 a 2 o'r broses recriwtio, gallwn asesu eich profiad, ymddygiadau, cryfderau, sgiliau technegol, a gwerthoedd.

Â

Hyfforddiant

Bydd gofyn i bob ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar 22 Chwefror 2027 a byddant yn ymgymryd â chyfnod o sefydlu a hyfforddiant.

Bydd yr hyfforddiant gorfodol ar gyfer y rôl hon yn cael ei ddarparu ar sail hybrid, trwy sesiynau wyneb-yn-wyneb ac e-ddysgu. Gall yr hyfforddiant wyneb-yn-wyneb ddigwydd mewn lleoliadau gwahanol i'ch swyddfa graidd ac efallai bydd angen aros yna dros nos am uchafswm o 4 o nosweithiau dilynol (caiff y costau eu talu). Caiff gwybodaeth bellach ynglŷn â dyddiadau / lleoliadau ei ddarparu nes ymlaen yn y broses.

  • Arwain ymchwiliadau annibynnol i honiadau troseddol a chamymddwyn yn unol â’r chanllawiau IOPC y cytunwyd arnynt.
  • Ymgymryd â chamau ymchwiliol, gan gynnwys cyfweld, a chymryd datganiadau, paratoi ffeiliau achos, a gwneud argymhellion ar gyfer camau troseddol a/neu ddisgyblu.
  • Ymweld â lleoliadau digwyddiadau a goruchwylio rheolaeth y lleoliad yn ôl yr angen i sicrhau bod pob cam angenrheidiol yn cael ei gymryd i gadw ac adfer tystiolaeth.
  • Ysgrifennu adroddiadau ymchwiliad ar ôl cwblhau'r ymchwiliad i'w cyflwyno i’r penderfynydd IOPC.
  • Nodi gwersi posib i heddluoedd eu dysgu er mwyn iddynt ystyried gwella'r gwasanaeth maent yn darparu ac atal niwed i'r cyhoedd.

Cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd am gyfrifoldebau llawn y rôl.

Yr Ymgeisydd Delfrydol:

Technegol Dymunol

  • Cymhwyster PiP2 neu brofiad ymchwiliol cyfatebol

Profiad Hanfodol

  • Cynnal cyfweliadau ymchwiliol, casglu tystiolaeth, dadansoddi a chyflwyno.
  • Tystiolaeth o sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig effeithiol.
  • Tystiolaeth o sgiliau dadansoddi ac ysgrifennu adroddiadau rhagorol; y gallu i gyrraedd a dogfennu penderfyniadau clir, rhesymegol, seiliedig ar dystiolaeth ac annibynnol yn seiliedig ar ddadansoddiad o wybodaeth bresennol a gwybodaeth sy'n dod i'r amlwg.
  • Profiad o ymgysylltu'n effeithiol ag ystod amrywiol o bobl a rhanddeiliaid, a thystiolaeth o ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle.
  • Cyflawni gwaith o safon uchel o fewn amserlenni heriol.
  • Adnabod risg weithredol a sefydliadol.
  • Gweithio'n effeithiol mewn amgylchedd sy'n newid.
  • Trwydded yrru lawn sy'n ddilys ar gyfer gyrru yn y DU

Credwn fod safbwyntiau amrywiol yn cyfrannu at weithle mwy arloesol a dynamig.

Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli neu dan anfantais mewn cymdeithas.

Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, rhieni a gofalwyr, ac ymgeiswyr anabl, gan gynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal i bob ymgeisydd a chreu amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.

Rydym yn credu fod safbwyntiau amrywiol yn cyfrannu at le gwaith mwy arloesol a bywiog. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd fel arfer yn cael eu tan-gynrychioli neu o dan anfantais yn y gymdeithas. Mae hyn yn cynnwys menywod, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, rhieni a gofalwyr, ac ymgeiswyr anabl, yn cynnwys ymgeiswyr niwroamrywiol.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd cyfartal i bob ymgeisydd ac i greu amgylchedd cynhwysol lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi


Mae'r rôl yn gofyn am gliriad i [BPSS / SC / DV]

National security vetting: clearance levels - GOV.UK (www.gov.uk)


Addasiadau Rhesymol:

Mae SAYH yn weithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn dymuno eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa asesiad bynnag a ddefnyddir.

Rydym yn agored i ddarparu'r offer sydd eu hangen arnoch i lwyddo.

Cyfeiriwch at ein canllawiau Addasiadau Rhesymol yn y ddogfen sydd wedi’i gysylltu â'r hysbyseb swydd hwn ynglŷn â sut i gyrchu Addasiadau Rhesymol gyda ni.


Byddwch chi'ch hun:

Mae SAYH wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth ym mhopeth a wnawn.

Ein gweledigaeth yw i fod, a chael ein gweld fel, arweinydd mewn cyflogaeth a gwasanaethau cynhwysol, gan ddangos yr ethos hwn ym mhopeth a wnawn.

  • Gan ei fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae SAYH yn ymroi i ddileu’r rhwystrau i bobl anabl ffynnu yn y gweithle. Cyfeiriwch at ein canllawiau Addasiadau Rhesymol yn y ddogfen sydd wedi’i gysylltu â'r hysbyseb swydd hwn ynglŷn â sut i gyrchu Addasiadau Rhesymol gyda ni.
  • Mae ein Rhwydweithiau Staff yn gweithio’n gyson i wneud SAYH yn arweinwyr cyflogaeth gynhwysol, o’n Rhaglen Gynghreiriad i Safonau’r Gymraeg a’n Polisi Know the Line, rydym yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd o greu amgylchedd i bawb ddatblygu a ffynnu.


Amodau gwaith

Mae'r IOPC yn gweithredu polisi gweithio hybrid sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r holl staff weithio 40% o'u horiau cytundebol ar gyfartaledd yn eu swyddfa (neu swyddfa arall am resymau busnes). Mae amser presenoldeb swyddfa yn cynnwys hyfforddiant personol, cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid a theuluoedd, a mynychu digwyddiadau.

Salary range

  • £37,596 per year